Etholiadau Senedd Ewrop 2014

Cyhoeddwyd 03/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

03 Mehefin 2014 Erthygl gan Nigel Barwise, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Gregg Jones, Swyddfa'r EU Cynhaliwyd etholiadau Senedd Ewrop ledled yr Undeb Ewropeaidd rhwng 22 a 25 Mai, mewn perthynas â’i fandad ar gyfer 2014-19. Mae’r holl ganlyniadau ar gael ar wefan etholiadau Senedd Ewrop (sy’n cynnwys canlyniadau 2009 at ddibenion cymharu - gweler y linc ar ddiwedd y darn hwn). Cymru Mae pedwar o’r 73 Aelod o Senedd Ewrop (ASE) a etholwyd gan y DU yn cynrychioli Cymru, sef y canlynol (yn nhrefn cyfran y bleidlais yng Nghymru - a ddangosir mewn cromfachau):
  • Derek Vaughan, Llafur Cymru (28.2%): dyma fydd ei ail dymor yn Senedd Ewrop gan iddo gael ei ethol gyntaf yn 2009;
  • Nathan Gill, UKIP (27.6%): sy’n cymryd lle John Bufton, yr ASE cyntaf o UKIP i gynrychioli Cymru (2009-14);
  • Dr Kay Swinburne, y Ceidwadwyr Cymreig (17.4%): fel Derek, dyma fydd ail dymor Kay gan iddi gael ei hethol yn 2009;
  • Jill Evans, Plaid Cymru (15.3%): hi sydd wedi gwasanaethu hiraf o’r pedwar ASE o Gymru, a dyma fydd y pedwerydd tymor o’r bron i Jill Evans ers iddi gael ei hethol gyntaf ym 1999.
pie 1cy Y DU UKIP (24 ASE) a ddaeth i’r brig yn y DU, gyda 27.5%, sef cynnydd o 11 pwynt canran ar ganlyniadau’r blaid yn 2009, gan ennill ei sedd gyntaf yn yr Alban. Llafur (20 ASE) a hawliodd yr ail safle, gyda 25.4%, sef cynnydd o 9.7 pwynt canran o gymharu â’r bleidlais yn 2009. Daeth y Ceidwadwyr yn drydydd (19 ASE), gyda 24% o’r bleidlais. Daeth y Democratiaid Rhyddfrydol (1 ASE) yn bumed, gyda 6.9% o’r bleidlais, gan syrthio y tu ôl i’r Blaid Werdd (sydd â 3 ASE) er bod cyfran y blaid honno o’r bleidlais y tro hwn, sef 7.9%, yn llai na’r 8.6% a gafodd yn 2009. Mae gan yr SNP 2 sedd. pie 2 cy Yr UE Bydd 751 o ASEau yn Senedd newydd Ewrop, yn cynrychioli 28 aelod-wladwriaeth yr UE. Ym mis Mehefin, caiff y grwpiau gwleidyddol newydd eu ffurfio. Yn seiliedig ar y grwpiau gwleidyddol a gafwyd rhwng 2009 a 2014, Plaid Pobl Ewrop (EPP) - clymblaid o bleidiau sydd i’r dde o’r canol - a fydd y blaid fwyaf (â 214 o seddi, o gymharu â 274 yn 2009), a grŵp y Sosialwyr a’r Democratiaid, y mae Plaid Lafur y DU yn aelod ohoni, fydd y grŵp mwyaf ond un, â 191 ASE (gostyngiad o 5 ASE o gymharu â 2009). Mae Plaid Cymru yn rhan o Grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop/y Gwyrddion y mae ei niferoedd wedi gostwng o 57 i 52 ASE. Ceidwadwyr y DU fydd y blaid fwyaf yng Ngrŵp y Ceidwadwyr Ewropeaidd a Diwygio, er na fydd nifer cyffredinol aelodau’r grŵp hwn yn glir tan y bydd amryw drafodaethau ynghylch grwpiau newydd wedi digwydd. Mae 24 aelod o UKIP yn debygol o barhau yn y Grŵp Rhyddid a Democratiaeth Ewropeaidd, er y gall aelodaeth y blaid newid yn ystod y trafodaethau. Gan edrych ar y canlyniadau mewn gwledydd unigol, gwelir mai’r canlyniad mwyaf trawiadol yw’r gyfran o 25% (24 ASE) a sicrhawyd gan Ffrynt Cenedlaethol Ffrainc, plaid ar y dde eithaf sy’n gwrthwynebu mewnfudwyr, a neidiodd 19 pwynt canran o gymharu â 2009, gan roi 24 ASE iddi. Cafodd Plaid Pobl Denmarc, plaid arall sy’n gwrthwynebu mewnfudwyr, gynnydd tebyg, gan ddod i’r brig yn y polau yn Nenmarc â 27% o’r bleidlais. Ni pherfformiodd nifer o bleidiau ar y dde eithaf gystal â’r disgwyl yn rhai o wledydd Ewrop. Er enghraifft, yn yr Iseldiroedd (Plaid Rhyddid 13.2%), y Ffindir (Gwir Ffiniaid 12.9%) a Hwngari (Jobbik 14.7%), er i’r pleidiau hynny sicrhau cyfran sylweddol o’r bleidlais, roedd eu perfformiad yn waeth na’r disgwyl. Yng Ngwlad Groeg, Syriza, plaid ar y chwith eithaf sy’n gwrthwynebu mesurau llymder, a ddaeth i frig y pôl â 27% o’r bleidlais, gan wthio plaid y Prif Weinidog i’r ail safle), gyda’r Wawr Euraid, sef plaid ar y dde eithaf, yn cael 9.4%. Yn Sbaen hefyd, cafwyd pleidlais boblogaidd gref yn erbyn mesurau llymder, wrth i Podemos (‘Gallwn ni’) sicrhau tua 8% o’r bleidlais, er bod cwymp mawr i ddwy brif blaid y sefydliad: Plaid y Bobl (dros 16 pwynt canran i lawr ers 2009 i 26% o’r bleidlais) a’r Blaid Sosialaidd (dros 15 pwynt canran i lawr ers 2009 i 23% o’r bleidlais). Ymddiswyddodd arweinydd y Sosialwyr o ganlyniad. pie 3 cy Y camau nesaf Beth sy’n digwydd nesaf? Ym mis Mehefin, bydd yr ASEau newydd yn sefydlu eu swyddfeydd, yn ffurfio grwpiau gwleidyddol, ac yn trafod penodiadau i’r amryw swyddi yn y Senedd newydd. Cynhelir y sesiwn ffurfiol gyntaf ar 1 Gorffennaf lle y bydd yr Aelodau yn ethol Llywydd newydd Senedd Ewrop ac yn penodi Is-lywyddion. Wedyn, bydd cyfarfodydd Grwpiau Gwleidyddol/Pwyllgorau yn ail wythnos mis Gorffennaf a chynhelir yr ail gyfarfod llawn yn nhrydedd wythnos mis Gorffennaf. Un o’r darnau cyntaf o fusnes fydd ethol Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd (a drefnwyd ar gyfer yr ail gyfarfod llawn ym mis Gorffennaf - ar yr amod bod y Cyngor Ewropeaidd yn cytuno ar enwebai ddiwedd mis Mehefin) ac yna, yn yr hydref, penodir Coleg newydd y Comisiynwyr (sef arweinyddiaeth wleidyddol y Comisiwn Ewropeaidd). Nid yw’n hysbys eto pwy fydd ymgeisydd y DU, ond mae sïon yng nghyfryngau’r DU/yr UE mai Andrew Lansley AS (Arweinydd y Tŷ) fydd enwebai’r Prif Weinidog. Bydd hefyd Lywydd newydd i’r Cyngor Ewropeaidd o fis Tachwedd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan etholiadau Senedd Ewrop 2014, tudalennau’r BBC ynghylch etholiadau Ewrop ar y weneu cysylltwch â Gregg Jones yn Swyddfa’r Cynulliad ym Mrwsel.