Ymchwil canser

Cyhoeddwyd 16/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Mehefin 2014 Erthygl gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1310" align="alignright" width="199"]Llun o PixaBay. Dan drwydded Creative Commons Llun o PixaBay. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Amcangyfrifir y bydd un o bob tri o bobl yng Nghymru yn cael gwybod bod ganddynt ganser cyn eu bod yn 75 oed. Bu farw tua 8,400 o bobl o ganser, ar gyfartaledd, bob blwyddyn yng Nghymru rhwng 1995 a 2011, er bod y niferoedd wedi bod yn disgyn yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, gyda'r cyfraddau'n cwympo gan tua 1% y flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau'r risg o gael canser, ac i sicrhau bod gan y boblogaeth siawns dda iawn o ddod drwyddi pan fydd yn taro. Yn 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r ddogfen, Law yn Llaw at Iechyd - Cynllun Cyflawni Canser. Mae'r Cynllun hwn yn darparu fframwaith gweithredu i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG ynghylch y canlyniadau y maent yn eu darparu ar gyfer eu poblogaeth a'u cyfraniad at iechyd cyffredinol pobl Cymru. Mae'r Cynllun yn nodi'r camau i wella canlyniadau mewn meysydd allweddol rhwng nawr a 2016. Mae'r Cynllun hefyd yn amlinellu mesurau perfformiad y GIG sydd wedi eu datblygu i fesur llwyddiant y gwaith o ofalu am bobl sydd â chanser a’r modd y caiff ei ganfod a’i drin yng Nghymru. Un o'r mesurau perfformiad yn y Cynllun yw y bydd 20% o'r bobl sydd yn cael diagnosis o ganser yn cydsynio i roi samplau i Fanc Canser Cymru. Caiff Banc Canser Cymru ei ariannu gan Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Llywodraeth Cymru (NISCHR), Ymchwil Canser Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Ym Mhrifysgol Caerdydd y mae ei gartref ond mae ei gylch gorchwyl yn un Cymru gyfan i hel casgliad o samplau ar sail y boblogaeth. Mae Banc Canser Cymru yn casglu samplau tiwmor, meinwe arferol a samplau gwaed gan gleifion pan fydd canser yn ddiagnosis posibl. Mae'r samplau hyn yn cael eu defnyddio i ddatblygu adnodd ymchwil a fydd yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau ymchwil i helpu i ddeall y mecanweithiau moleciwlaidd sy'n ymwneud â chanser ac i weithio tuag at ddewis y driniaeth briodol ar gyfer unigolion. Mae ymchwilwyr canser o bob cwr o'r byd, yn y byd academaidd, o gwmnïau biotechnoleg a'r diwydiant fferyllol yn gwneud ceisiadau i Fanc Canser Cymru i gael gweld samplau. Rhoddir pob sampl yn ddienw, gyda data sylfaenol sy’n cynnwys oed y sawl a roddodd y sampl pan gafodd y driniaeth, ei ryw a'r diagnosis a gafodd. Mae nifer y bobl sy'n cydsynio i roi sampl i Fanc Canser Cymru wedi cynyddu'n gyson flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda mwy o ysbytai yn cymryd rhan yn y gwaith recriwtio. Yn 2012, fe wnaeth 10% gydsynio i roi sampl. Ar 19 Mehefin 2014, bydd Banc Canser Cymru yn cynnal digwyddiad i nodi 10 mlynedd ers i'r Gweinidog Iechyd ar y pryd, Jane Hutt, lansio'r prosiect yn swyddogol. Mae rhagor o wybodaeth am Fanc Canser Cymru a'r digwyddiad i nodi ei ben blwydd yn 10 oed ar ein gwefan.