Cynllun gweithredu newydd ar gyfer bwyd a diod yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

17 Mehefin 2014 Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu newydd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru: ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru 2014-2020’ Lansiwyd y cynllun gan Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, ar 12 Mehefin yng Nghaerdydd, gerbron cynulleidfa o gynrychiolwyr o’r diwydiant bwyd a diod. Mae darparu drwy bartneriaeth rhwng y diwydiant a’r llywodraeth yn thema gref drwy’r cynllun. Prif ymrwymiad y cynllun yw sicrhau cynnydd o 30% yn nhrosiant y diwydiant i £7 biliwn erbyn 2020. Caiff Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ei sefydlu i gymryd perchnogaeth o’r cynllun ac i fod yn llais i’r diwydiant yng Nghymru. Mae’r Gweinidog yn gwahodd enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y Bwrdd ar hyn o bryd, ac mae wedi dweud y bydd yn cyhoeddi pwy a benodwyd yn ddiweddarach yr haf hwn. Mae’r camau gweithredu yn y cynllun yn cynnwys parhau i ddatblygu’r hunaniaeth newydd ar gyfer y diwydiant cynnyrch yng Nghymru, a datblygu dull gweithredu newydd o ran gwobrau’r diwydiant bwyd (penderfynodd y Gweinidog y llynedd i beidio â pharhau â Gwobrau'r Gwir Flas gynt). Mae nifer o gamau gweithredu yn y cynllun hefyd, sy’n cwmpasu:
  • Addysg, hyfforddiant, sgiliau ac arloesi, i ddatblygu gweithlu medrus a galluog;
  • Twf busnes a datblygu’r farchnad, gan gynnwys hyrwyddo’r defnydd o Gynllun Enw Bwyd wedi’i Amddiffyn yr UE; a
  • Diogelwch bwyd.
Wrth lansio’r cynllun, dywedodd y Gweinidog: Nid strategaeth ar lefel uchel yw’r cynllun yma; mae’n canolbwyntio’n llwyr ar gyflawni. Er mwyn iddo fod yn llwyddiant, rhaid i’r cynllun gael ei roi ar waith mewn partneriaeth rhwng y diwydiant a’r Llywodraeth – gyda’r Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod newydd yn cynrychioli llais y diwydiant ac yn rhoi arweiniad cryf a chlir. Croesawodd Undeb Amaethwyr Cymru (ymateb Saesneg yn unig) y ffaith bod y cynllun wedi cael ei lansio, a disgrifiodd y ddogfen fel un uchelgeisiol a allai sicrhau buddion gwirioneddol i’r diwydiant bwyd yng Nghymru. Gellir gweld yma ymateb y cyfryngau i lansio’r cynllun: BBC Cymru: Cymorth newydd i gynhyrchwyr bwyd Wales Online: Food for thought as Welsh Government sets out £7bn plan of action to boost industry (Saesneg yn unig) ITV Wales: Welsh Government launches plan to boost Welsh food industry by 30% by 2020 (Saesneg yn unig) Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru yn y Cynllun Gweithredu:
  • Mae’r sector bwyd a ffermio sydd â blaenoriaeth (sef, cynhyrchu ar y fferm a gweithgynhyrchu bwyd) yn cynnwys oddeutu 14,000 o fusnesau a 45,000 o swyddi, gyda throsiant o £5.2 biliwn, a gwerth ychwanegol gros o £1.3 biliwn.
  • Mae’r gadwyn gyflenwi bwyd a diod yn ei chyfanrwydd (o’r fferm i’r fforc, gan gynnwys mânwerthu) yn cynnwys oddeutu 23,000 o fusnesau a 170,000 o swyddi, gyda throsiant o £17.3 biliwn a gwerth ychwanegol gros o £4 biliwn.
I gael rhagor o wybodaeth am waith Llywodraeth Cymru o ran y diwydiant bwyd a diod, ewch i wefan Bwyd a Diod Cymru.