Cynnig y comisiwn ar gyfer gwaharddiad llwyr ar bysgota gyda nofrwydi

Cyhoeddwyd 18/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Mehefin 2014 Erthygl gan Alex Royan and Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1325" align="aligncenter" width="640"]Llun gan llhourahane a Flickr .Licensed under Creative Commons. Llun o Flickr gan llhourahane. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]  

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cynnig rheoliadau a fydd yn gwahardd pysgota gyda nofrwydi yn nyfroedd yr UE . Byddai’r cynigion, a fyddai’n dod i rym ar 1 Ionawr 2015 pe byddent yn cael eu cymeradwyo, yn cyflwyno gwaharddiad llwyr ar yr holl bysgodfeydd nofrwydi waeth beth yw maint y rhwyd a ddefnyddir. Mae’r Comisiwn yn cyfeirio at ddiffyg cydymffurfio parhaus â rheoliad presennol y CE gan rai Aelod-wladwriaethau fel y rhesymeg y tu ôl i’r cynigion, ond mae Pysgotwyr Cymru wedi datgan y bydd y gwaharddiad yn cael effaith ddifrifol ar Gymru.

Diystyru’r rheolau

Cafodd pysgota gyda nofrwydi - yr arfer o noflithro rhwydi tagell ger wyneb y dŵr i ddal amrywiaeth eang o bysgod - ei reoleiddio yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn 1997 ( Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 894/97 ). Roedd hyn yn gwahardd y defnydd o nofrwydi hirach na 2.5 km o hyd er mwyn lleihau’r sgil-ddalfa o rywogaethau a warchodir, gan gynnwys morfilod a dolffiniaid, crwbanod y môr, adar y môr, a siarcod.

Mae’r cynigion presennol yn dilyn cyhoeddiad ‘map ffordd ‘a oedd yn adolygu pysgota gyda nofrwydi yn yr UE a’r effeithiau a gaiff ar yr ecosystem forol. Yn ôl y Comisiwn, mae gwendidau a bylchau yn y rheoliadau presennol a natur graddfa fach pysgota gyda nofrwydi yn ei gwneud yn hawdd osgoi rheolau a dianc rhag rheoliadau.

Dywedodd Maria Damanaki, y Comisiynydd Ewropeaidd dros Faterion Bywyd Gwyllt Morol a Physgodfeydd,

"Fishing with driftnets destroys marine habitats, endangers marine wildlife and threatens sustainable fisheries."

"Illegal fishing practices ruin the income of honest fishermen and coastal communities - and the future of fisheries altogether. Therefore, in the interest of all, implementation and enforcement of the rules are at the heart of the Commission priorities."

Safbwynt Llywodraeth Cymru

Mae tua 250 o longau sydd wedi’u cofrestru yn y DU yn defnyddio nofrwydi ac mae tua 70 o bosibl yn gweithredu ym mhysgodfeydd y glannau ar hyd arfordir Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw’r cynnig yn ‘swrth ac amhriodol iawn’. Mae’n nodi nad yw’r pysgodfeydd nofrwydi graddfa fach sy’n gweithredu yng Nghymru yn dwyn unrhyw debygrwydd i’r pysgodfeydd nofrwydi graddfa fawr sy’n gweithredu ym moroedd Môr y Canoldir a’r Baltig lle mae’r problemau a nodwyd gan y Comisiwn yn bodoli. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan nad oedd yn ymwybodol bod y Comisiwn yn bwriadu cyhoeddi cynigion i wahardd yr holl bysgodfeydd nofrwydi a’i bod yn gweithio gyda Gweinyddiaethau Pysgodfeydd eraill y DU i ddarparu ymateb priodol.

Mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu ei safiad ar y cynigion mewn Memorandwm esboniadol . Mae’r memorandwm esboniadol yn amlinellu sefyllfa debyg i Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth y DU yn gwrthod gwaharddiad llwyr ar nofrwydi. Yn hytrach, mae’n galw am ymagwedd ranbarthol sy’n seiliedig ar risg fel bod monitro a lliniaru yn cael ei anelu at bysgodfeydd nad ydynt yn cydymffurfio yn unig. Hefyd dylid cael dulliau gwell o orfodi deddfwriaeth bresennol ar wahardd y defnydd o rai nofrwydi.

Ymateb rhanddeiliaid

Mae sefydliadau pysgotwyr y DU wedi mynegi pryder ynghylch y cynigion. Mae Ffederasiwn Cenedlaethol Cymdeithasau Pysgotwyr (NFFO) wedi awgrymu y byddai’r cynigion yn cau pob un o bysgodfeydd nofrwydi graddfa fach y DU am benwaig, mecryll, lledod, draenogod y môr, eog, sardîns a hyrddiaid, gan gynnwys rhai a ardystiwyd gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol (MSC) .

Mewn llythyr at Maria Damanaki , dywedodd Jerry Percy, cadeirydd y New Under Ten Fishermen (NUTFA), er bod NUTFA yn rhannu pryderon y Comisiwn ynghylch defnyddio nofrwydi ym Môr y Canoldir, "this form of drift netting is distant, both geographically and metaphorically from the far smaller scale and environmentally acceptable use of drift nets in UK and adjacent waters"

Mae rhai sefydliadau yn y sector amgylcheddol wedi croesawu’r cynigion a dywedodd Amanda Nickson, cyfarwyddwr y Global Tuna Conservation , " the Commission’r proposed regulation to ban outright the use of driftnets demonstrates a clear determination to end this environmentally damaging practice and to address illegal fishing of bluefin tuna in the Mediterranean Sea ."