Pwy sy'n gyfrifol am Les Anifeiliaid?

Cyhoeddwyd 19/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Mehefin 2014 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chris O'Brien, RSPCA Cymru   RSPCA Cymru logo stacked white   Mae’r wythnos hon (16-20 Mehefin) yn wythnos RSPCA. Y thema eleni, wrth i'r RSPCA ddathlu ei phen blwydd yn 190, yw Pwy sy'n gyfrifol am Les Anifeiliaid? Pwrpas yr wythnos yw atgoffa'r holl sefydliadau a'r unigolion perthnasol o'u rôl a'u cyfrifoldeb i gynnal safonau lles yng Nghymru ac i roi sylw i'r hyn y mae modd ei wneud i leihau nifer yr achosion o greulondeb i anifeiliaid yng Nghymru. I gyd-fynd â hyn, mae'r RSPCA wedi cyhoeddi ei Adroddiad Erlyniadau Blynyddolsy'n cynnwys gwybodaeth am y tueddiadau mewn achosion o greulondeb anifeiliaid sy'n cael eu cofnodi yng Nghymru. Cafodd y blog yma ei baratoi ar y cyd gan yr RSPCA ac mae'n nodi rhai o'r prif ganfyddiadau. Mae 43% o gartrefi yng Nghymru bellach yn berchen ar un anifail yn ôl yr RSPCA, ac mae hynny'n pwysleisio pwysigrwydd y mater. Mae llawer o wleidyddion Cymru yn nodi lles anifeiliaid fel un o'r materion y mae eu hetholwyr yn fwyaf tebygol o godi â nhw. Beth mae ystadegau Cymru yn 2013 yn ei ddweud wrthym? Mae'r ystadegau yn yr adroddiad yn dangos bod nifer yr achosion a gofnodwyd, y collfarnau a gafwyd a'r troseddwyr a gafodd eu rhybuddio yn 2013 oll wedi cynyddu o'u cymharu â ffigurau 2012. Mae hyn yn cynnwys:
  • Cynnydd yn nifer yr achosion o greulondeb anifeiliaid y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r adran erlyniadau - cynnydd o 174 yn 2012 i 199 yn 2013;
  • Cynnydd yn nifer y rhai o dan amheuaeth y rhoddwyd gwybod amdanynt yn 2013 - sef, 318, a 288 oedd y nifer yn 2012;
  • Cafodd cyfanswm o 91 o droseddwyr eu rhybuddio yn 2013, o'i gymharu â 61 yn 2012; a
  • Sicrhaodd yr RSPCA 297 o gollfarnau yn y Llysoedd Ynadon yn 2013, gyda chyfradd llwyddo wrth erlyn o 100%, o'i gymharu â 248 yn 2012.
Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gan y RSPCA hefyd yn cynnwys y ffigurau wedi eu rhannu fesul rhanbarthau yng Nghymru ac mae'n rhoi enghreifftiau o'r achosion a erlynwyd gan yr elusen yn 2013. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi sylw i'r broblem o bori anghyfreithlon - perchnogion yn gadael ceffylau i grwydro yn rhydd, ar dir fferm, ar eiddo preifat, mannau cyhoeddus a ffyrdd heb ganiatâd. Mae'r adroddiad yn nodi nad yw maint y broblem, yng Nghymru yn benodol, wedi ei fonitro, a hynny i'r graddau lle mae'r RSPCA, awdurdodau lleol, yr heddlu ac elusennau lles ceffylau eraill yn ei chael hi'n anodd iawn i ymdopi â nifer y ceffylau sydd angen help. Pa gamau ynghylch lles anifeiliaid y mae'r RSPCA wedi galw amdanynt o ganlyniad? Mae RSPCA Cymru yn croesawu llawer o'r camau a gymerwyd yng Nghymru hyd yma, fel y gwaharddiad ar goleri sioc drydan a'r Ddeddf Rheoli Ceffylau 2014, ond mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ddefnyddio ei bwerau datganoledig i weithredu'n arloesol i fynd i'r afael â lles anifeiliaid yng Nghymru: Mae'r ffaith bod lles anifeiliaid bron wedi ei ddatganoli yn gyfan gwbl yn gyfle i ddatblygu datrysiadau arloesol yng Nghymru ac, yn dilyn cyhoeddi'r ystadegau hyn, bydd RSPCA Cymru yn parhau i alw ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru i ddatblygu mentrau sy'n hyrwyddo lles, sy'n mynd i'r afael â chreulondeb ac sy'n hyrwyddo cyfrifoldeb. Mae rhagor o wybodaeth am waith ac ymgyrchoedd RSPCA Cymru ar gael ar ei gwefan am y pwnc o’r enw political animal.