Cyllido Addysg Uwch

Cyhoeddwyd 01/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

1 Gorffennaf 2014 Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1244" align="alignnone" width="300"]Llun: o Flickr gan Kevin Saff.  Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan Kevin Saff. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ar 2 Gorffennaf 2014 caiff adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllido Addysg Uwch ei drafod yn y Cyfarfod Llawn. Ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid: Ar 6 Mawrth, 2013, cytunodd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal ymchwiliad i gyllido addysg uwch (AU) yng Nghymru. Roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar gyllido sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, effaith ariannol polisi grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru ar sefydliadau addysg uwch a myfyrwyr yng Nghymru, ac a yw Llywodraeth Cymru’n darparu gwerth am arian yn y maes hwn. Dechreuodd yr ymchwiliad gymryd tystiolaeth ym mis Gorffennaf 2013 gan ddefnyddio ystod o ddulliau ymgysylltu. Ymhlith y rhain roedd arolwg gyda darpar fyfyrwyr israddedig ym mlynyddoedd 12 a 13 yng Nghymru a myfyrwyr israddedig blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn sydd ar hyn o bryd yn astudio mewn Sefydliadau Addysg Uwch. Cymerodd Aelodau’r Cynulliad hefyd ran mewn gwe-sgyrsiau gyda myfyrwyr israddedig mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru a Lloegr. Cafwyd ymatebion ysgrifenedig a chymerwyd tystiolaeth lafar gan amrywiaeth o dystion. Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid, gwnaed nifer o gyhoeddiadau. Adolygiad Diamond Ar 18 Tachwedd 2013, cyhoeddodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru i’w gadeirio gan yr Athro Syr Ian Diamond. Mae’r adolygiad ar fin cyhoeddi ei adroddiad cyntaf yn yr hydref 2015 a’r adroddiad terfynol yn cynnwys argymhellion erbyn mis Medi 2016. Bydd blaenoriaethau’r adolygiad yn cynnwys:
  • ehangu mynediad - sicrhau mai ehangu mynediad yw amcan canolog unrhyw system yn y dyfodol, a’i bod yn system flaengar a theg;
  • cefnogi anghenion sgiliau Cymru;
  • cryfhau darpariaeth ran-amser a darpariaeth ôl-raddedig yng Nghymru; a
  • chynaliadwyedd ariannol hirdymor.
  Adroddiad Cyllid Addysg Uwch Swyddfa Archwilio Cymru Cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ar Gyllid Addysg Uwch ar 21 Tachwedd 2013. Nododd yr Adroddiad fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym i benderfyniad Llywodraeth y DU i sefydlu ffioedd dysgu uwch yn Lloegr. Fodd bynnag, roedd ei gwerthusiad o opsiynau polisi a’r potensial i ystyried newidiadau i’w rhagdybiaethau yn gyfyngedig.   Mae’r adroddiad yn nodi y rhagwelir, bellach, y bydd cost y Grant Ffioedd Dysgu ar gyfer 2012-13 i 2016-17 yn uwch na’r hyn a ragwelwyd ym mis Tachwedd 2010, gan godi 24 y cant o £653 miliwn i £809 miliwn. Nododd yr adroddiad “the Welsh Government and HEFCW have implemented the new tuition fees policy effectively, although further action is needed on part-time tuition fees, to address weaknesses in processing student finance applications, and to strengthen the regulation of higher education”.   Y Bil Addysg Uwch Ar 19 Mai, 2014, cyflwynodd Huw Lewis y Gweinidog Addysg a Sgiliau y Bil Addysg Uwch. Yn y gorffennol, roedd Llywodraeth Cymru wedi dibynnu ar delerau ac amodau sydd ynghlwm wrth arian cyhoeddus a gaiff ei sianelu drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), i reoleiddio’r sector. Rhoddwyd y cyllid hwn i brifysgolion gan CCAUC ar gyfer addysgu a gweithgareddau eraill, er enghraifft ehangu mynediad. Prif ddiben y Bil yw rhoi sail gyfreithiol ar gyfer fframwaith diwygiedig i reoleiddio addysg uwch yng Nghymru. Adroddiad y Pwyllgor Cyllid Ym mis Mai 2014 cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad a oedd yn cynnwys 18 o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried o dan y themâu canlynol; Cyllid CCAUC, polisïau Addysg Uwch yn Lloegr, y llyfr benthyciad myfyriwr, yr effaith ar fyfyrwyr a dewisiadau myfyrwyr, ehangu mynediad, astudio rhan-amser, ymchwil a chyllid ôl-raddedig, cyllid ar gyfer pynciau drud a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Derbyniodd ymateb Llywodraeth Cymru y rhan fwyaf o’r argymhellion a nododd y byddai’n:
  • ymgymryd â modelu pellach ar ddyled myfyrwyr i gael dealltwriaeth fwy cyflawn o’r goblygiadau tymor hir;
  • gweithio gyda’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) i ymchwilio i’r rhesymau am beidio â thalu benthyciadau myfyrwyr;
  • gofyn yn ffurfiol i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr gynnal adolygiad o’i strategaeth gyfathrebu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfleu’n effeithiol; a
  • cyfeirio’r ystyriaeth o lifoedd traws-ffiniol, pryderon ynghylch costau byw, ehangu mynediad, cyllid rhan-amser a chyllid ôl-raddedig at Banel Adolygu Diamond.