Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): cam yn nes at y Gymru a garem?

Cyhoeddwyd 08/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

8 Gorffennaf 2014 Erthygl gan Karen Whitfield, Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cafodd Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol eu cyflwyno ddydd Llun 7 Gorffennaf, a bydd Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, yn eu cyflwyno yn y Cyfarfod Llawn heddiw. Os caiff ei basio gan y Cynulliad, y Bil hwn fydd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth i gael ei basio yn y DU gyda'r nod o fynd i'r afael â chynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mewn modd cyfannol. Nod y Bil yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru, yn unol â'r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy, sy'n ceisio sicrhau bod anghenion heddiw yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae'r Bil yn cynnwys chwe nod llesiant cenedlaethol: • Cymru lewyrchus; • Cymru gydnerth; • Cymru iachach; • Cymru sy'n fwy cyfartal; • Cymru o gymunedau cydlynus; a • Chymru â diwylliant bywiog, lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar rai cyrff cyhoeddus yng Nghymru i bennu eu hamcanion lles eu hunain, a fydd wedi'u llunio er mwyn gwneud y cyfraniad gorau posibl i'r nodau lles cenedlaethol, yn unol â'r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy. Mae'r Bil hefyd yn creu rôl statudol ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, a fydd yn hyrwyddo'r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy, ac yn cynghori, monitro ac asesu cyrff cyhoeddus wrth iddynt geisio cyflawni eu hamcanion lles ac wrth iddynt wneud cynnydd, yn y pendraw, tuag at eu cyflawni. Bydd y Bil hefyd yn rhoi sail statudol i fyrddau gwasanaethau lleol. Byddant yn dod yn fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, a bydd ganddynt ddyletswydd i ddatblygu eu cynlluniau integredig sengl presennol yn gynlluniau llesiant lleol. Bydd y cynlluniau hyn yn cynnwys nifer o'r dyletswyddau sy'n bodoli ar hyn o bryd o ran llunio cynlluniau a strategaethau, gyda'r nod o sicrhau mwy o integreiddio mewn perthynas â chynllunio lleol. Cafodd y Bil ei ddatblygu dros y tair blynedd diwethaf, a hynny drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau ac ymgynghoriadau gyda rhanddeiliaid, a thrwy gael mewnbwn gan y Grŵp Cyfeirio a Chynghori ar Fil Cenedlaethau'r Dyfodol, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn, sef 'Cymru Gynaliadwy: Dewis Gwell ar gyfer Dyfodol Gwell', ym mis Rhagfyr 2012, a oedd yn ymgynghori ar brif gynigion a chysyniadau'r Bil. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ym mis Mai 2013. Rhwng 18 Chwefror 2014 a diwedd mis Mai 2014, cynhaliwyd cynllun peilot o dan arweiniad y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy presennol, sef Sgwrs Genedlaethol ar 'y Gymru a Garem erbyn 2050', a oedd yn annog y cyhoedd yng Nghymru i roi barn ar y Gymru a garent ei gweld ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad wedi cynnal dwy sesiwn graffu ar y Papur Gwyn. Bydd y Pwyllgor yn craffu ar y Bil yng Nghyfnod 1 yn yr hydref.