Gan Gymru y mae’r gyfradd tlodi plant uchaf o holl wledydd y DU

Cyhoeddwyd 09/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

9 Gorffenaf 2014 Erthygl gan Sian Thomas a Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1379" align="alignright" width="100"]Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Dengys yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fod 200,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru ar ôl ystyried costau tai. Mae hyn yn cyfateb i 31% o’r plant sy’n byw yng Nghymru yn ystod y tair blynedd hyd at 2012-13, sydd ddau bwynt canran yn is na’r ffigur ar gyfer y tair blynedd hyd at 2011-12. Y ffigur hwn yw’r uchaf o blith gwledydd y DU. Mae hefyd yn uwch na’r ffigur ar gyfer holl ranbarthau Lloegr, ac eithrio Llundain. Mae'n werth nodi fod y gyfradd tlodi cymharol yn cael ei difinio fel llai na 60% o ganolrif incwm aelwydydd, a bod hwn wedi lleihau mewn termau real yn y blynyddoedd diwethaf.  Fel y mae incwm teuluol canolrifol wedi gostwng dros y cyfnod hwn, mae wedi gostwng lefel yr incwm sydd ei angen i fod yn uwch na'r trothwy tlodi cymharol, sy'n golygu nad oedd lefelau tlodi cymharol yn cynyddu yn ystod y dirywiad economaidd fel y gallech ddisgwyl. Mae’n amlwg nad yw cael rhiant sydd yn gweithio yn sicrhau llwybr allan o dlodi i blant yng Nghymru. Yn unol â’r hyn sy’n digwydd yng ngweddill y DU, un o nodweddion allweddol y blynyddoedd diwethaf yw cynnydd tlodi ymhlith pobl sy’n gweithio. Sut y caiff yr ystadegau hyn eu cyfrifo? Y mesur tlodi plant a ddefnyddir amlaf yw canran y plant sy’n byw mewn cartrefi sydd â llai na 60% o incwm canolrif aelwydydd y DU yn weddill ar ôl talu costau tai. Mae Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog yn adroddiad a gyhoeddir yn flynyddol, sy’n cyflwyno gwybodaeth am safonau byw yn y DU, gan gynnwys amcangyfrifon ar nifer a chanran y plant sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel. Mae’r graffeg gwybodaeth hwn yn nodi sut y caiff incwm isel ei fesur yn yr adroddiad. Yn 2012, cynhaliodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ymgynghoriad ar newid y ffordd y caiff tlodi plant ei fesur yn swyddogol yn y DU. Nid oes mesur amgen wedi’i gyhoeddi eto, ac mae’r dyfalu yn y cyfryngau yn awgrymu na fydd unrhyw newidiadau buan i’r trefniadau presennol. Targed 2020 Mae Tlodi Plant wedi cael proffil uwch ar yr agenda wleidyddol ers 1999, pan wnaeth Tony Blair, y Prif Weinidog ar y pryd, ymrwymiad i haneru tlodi plant erbyn 2010, a dileu tlodi plant erbyn 2020. Mae’r rhan fwyaf o sylwebyddion yn cytuno nad yw’n debygol y bydd y targed hwn yn cael ei gyrraedd bellach. Wrth wneud sylwadau am Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Llywodraeth y DU 2014-17, dywedodd Alan Milburn, cadeirydd Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant Llywodraeth y DU 'nad oedd gan Lywodraeth y DU gynllun credadwy i fynd yn ôl ar y trywydd iawn’ o ran cyflawni ei chyfrifoldeb cyfreithiol i roi terfyn ar dlodi plant erbyn 2020: 'This is not just an issue for the current government. Politicians from all parties say they are committed to the 2020 targets. […]Across the political spectrum, party leaders now need to come clean about what they plan to do to hit the targets, or what progress they can deliver if they expect to fall short.' Mae Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan ei hymrwymiad ei hun i’r targed o ddileu tlodi plant erbyn 2020, ond mae wedi cydnabod y bydd yn anodd iawn i’w gyflawni. Dywedodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi: 'Credaf fod cael gwared ar y targed yn awr, gan ein bod yn credu ei fod yn anodd ei gyrraedd, yn hytrach nag am nad yw’n briodol neu nad yw’n rhywbeth y dylem anelu ato, yn rhywbeth sy’n gwneud pobl yn sinigaidd ynghylch gwleidyddion a pham yr ydym yma.' Dangosyddion Cymru Ers 2005, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei diweddariadau ei hun yn ôl cyfres o 23 o ddangosyddion yn ymwneud â thlodi incwm, gwaith a diweithdra, addysg a chymwysterau, tai a gwasanaethau ac anghydraddoldebau iechyd. Ar gyfer pob dangosydd, caiff lefel waelodlin 2005 ei chymharu â data ac amcanion y flwyddyn ddiweddaraf, i roi darlun cyffredinol o ‘gyfeiriad’ tlodi plant yng Nghymru. Mae'r ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw yn dangos y bu dirywiad sy'n arwyddocaol yn ystadegol parthed saith o'r 23 mesur. O'r saith yma, mae’r rhan fwyaf yn ymwneud yn uniongyrchol agamodau economaidd. Mae pedwar mesur, ar draws ystod o feysydd polisi, yn dangos gwelliant a 11 mesur yn dangos dim newid. Hefyd mae gan Lywodraeth Cymru chwe dangosydd ar waith i fesur cynnydd yn ôl ei hamcanion yn y flwyddyn 2011 o ran tlodi plant. Cyhoeddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y chwe amcan hyn yn yr Adroddiad Cynnydd ar y Strategaeth Tlodi Plant yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013. Sut mae tlodi yn effeithio ar blant? Mae byw mewn cartref incwm isel yn gysylltiedig â chanlyniadau gwael i blant, gan gynnwys canlyniadau gwaeth na’u cyfoedion o ran iechyd ac addysg. Er enghraifft, mae cysylltiad cryf rhwng pa mor dda y mae plant yn perfformio yn academaidd ac a oes ganddynt hawl i gael prydau ysgol am ddim ai peidio. Yn 2012/13, cyrhaeddodd 25.8% o’r disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim y trothwy lefel 2 (yn cynnwys Saesneg / Cymraeg a Mathemateg) o’i gymharu â 58.5% o’r disgyblion nad oedd ganddynt yr hawl i gael prydau ysgol am ddim. Trothwy lefel 2 yw y term ar gyfer ' maint ' cymwysterau sy'n cyfateb i 5 TGAU gradd A *-C. Yn ei dro, mae gadael yr ysgol â llai o gymwysterau yn arwain at enillion is dros gyfnod bywyd gwaith. O ran iechyd, mae tlodi’n gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth, gan gynnwys disgwyliad einioes is. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gau'r bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhai yn ardaloedd difreintiedig mwyaf a lleiaf Cymru, sef 7.1 mlynedd i ddynion a 6 blynedd ar gyfer menywod yn 2011. Mae plant hefyd yn fwy tebygol o fod â phwysau geni isel; o gael iechyd deintyddol gwaeth; ac maent yn fwy tebygol o fod yn gerddwyr sy’n cael damweiniau car. Dulliau o fynd i’r afael â thlodi plant a’i effaith Gan Lywodraeth y DU y mae’r cyfrifoldeb dros rai o’r polisïau allweddol yn ymwneud â thlodi plant: fel lles a nawdd cymdeithasol, polisi ariannol a pholisi macro-economaidd. Mae’r meysydd polisi eraill sy’n effeithio ar dlodi plant, fel addysg, iechyd a datblygu economaidd wedi cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth, strategaethau a thargedau newydd mewn ymgais i fynd i’r afael â lliniaru’r broblem. Yn fwy diweddar yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys Strategaeth Tlodi Plant 2011 a’r ddogfen trosfwaol Mynd ymlaen â’r Cynllun Gweithredu cyffredinol ar Dlodi Plant 2014. Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Adroddiad Terfynol y Gwerthusiad o Strategaeth Tlodi Plant Cymru. Canfu'r gwerthusiad y gellid gwneud mwy i gysylltu strategaethau twf economaidd ag amcanion tlodi a hefyd nad oes unrhyw dystiolaeth gref bod graddfa'r rhaglenni yn ddigon i wneud maint y newid sydd ei angen. Canfu hefyd fod y ddyletswydd a roddir ar Awdurdodau Lleol a Chyrff Cyhoeddus eraill wedi cael effaith gyfyngedig hyd yma o ran rhaglenni newydd neu ddyrannu adnoddau ychwanegol i gyflawni amcanion tlodi plant. mwy i gysylltu strategaethau twf economaidd ag amcanion tlodi; nad oes unrhyw dystiolaeth gref bod y raddfa o raglennu yn ddigon i beri i'r maint y newid sydd ei angen; a bod y dyletswyddau a roddir ar awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill wedi cael effaith gyfyngedig o ran rhaglennu newydd neu ddyraniad o adnoddau ychwanegol i fodloni amcanion tlodi plant. Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, mai ‘Trechu'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad isel yw ein prif flaenoriaeth nawr'. Mae ei adran wedi lansio mentrau sy’n ceisio cau’r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer plant o gartrefi incwm isel gan gynnwys lansio rhaglen Her Ysgolion Cymru a chanllawiau newydd sydd â’r nod o godi cyrhaeddiad dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig.