Rheoli a Thrwyddedu Bywyd Gwyllt

Cyhoeddwyd 14/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

14 Gorffennaf 2014

Erthygl gan Alex Royan, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

[caption id="attachment_1385" align="aligncenter" width="300"]Llun: o Flickr gan fcfranklin. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan fcfranklin. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn rhoi amddiffyniad cyfreithiol i nifer fawr o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yng Nghymru. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau gall trwyddedau gael eu rhoi i gyflawni gweithgareddau y byddent yn cael eu hystyried yn anghyfreithlon fel arall.

Mater datganoledig

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am weithredu trwyddedau bywyd gwyllt o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yng Nghymru. Gall Cyfoeth Naturiol Cymru ganiatáu trwyddedau ar gyfer gweithgareddau penodol at ddibenion megis ymchwil gwyddonol, cadwraeth, iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, atal clefydau rhag lledaenu ac atal difrod difrifol i gnydau. Fodd bynnag, ni ellir caniatáu trwyddedau o dan y Ddeddf at ddibenion datblygu.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddarparu trwyddedau ar gyfer rhai gweithgareddau o dan Drwydded Gyffredinol. Gwneir hynny ar gyfer gweithgareddau sydd â risg isel ar gyfer lles rhywogaethau a warchodir ac fel arfer mae'n berthnasol i rywogaethau sy'n cael eu hystyried yn blâu, yn rhai ymledol, neu yn risg i iechyd y cyhoedd. Gall Trwydded Gyffredinol ganiatáu dadwreiddio planhigion, lladd bywyd gwyllt, neu ddinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Ymgynghoriad Natural England

Yn ddiweddar, mae Natural England wedi dod ag ymgynghoriad ar Drwyddedau Cyffredinol a Thrwyddedau Dosbarth o dan ddeddfwriaeth bywyd gwyllt yn Lloegr i ben. Mae Natural England yn datgan mai pwrpas yr ymgynghoriad oedd sicrhau eu bod yn:

Strike a balance that ensures the protection of species and sites whilst reducing any unnecessary burdens on those we regulate.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cynigion i ychwanegu rhai rhywogaethau o adar at Drwyddedau Cyffredinol, gan gynnwys Gwyddau Gwyllt, Gwyddau'r Aifft a Hwyaid Gwylltion. Byddai hyn yn caniatáu lladd adar a dinistrio eu nythod ac wyau er mwyn atal difrod amaethyddol neu glefyd. Ceisiodd yr ymgynghoriad hefyd gasglu barn ynghylch caniatáu cymryd, niweidio a dinistrio nythod ac wyau'r Siglen Fraith, y Robin Goch a'r Drudwy mewn sefyllfaoedd lle mae nythod yn achosi perygl posibl i iechyd a diogelwch. Casglwyd barn hefyd ar gynllun adrodd gwirfoddol, gan nad yw cofnodion ar y defnydd o Drwyddedau Cyffredinol yn cael eu cadw ar hyn o bryd.

Ymateb rhanddeiliaid

Mae'r ymgynghoriad wedi ennyn cryn drafod ac wedi hollti barn ymysg sefydliadau amgylcheddol ac amaethyddol amlwg yn y DU.

Amlinellodd ymateb yr RSPB ei wrthwynebiad i'r ymgynghoriad, gan nodi yn arbennig ddiffyg tystiolaeth ategol ar gyfer cynigion i ychwanegu rhywogaethau at y Drwydded Gyffredinol ar y sail eu bod yn fygythiad i fywyd gwyllt brodorol. Mae'r gymdeithas hefyd yn pryderu y byddai'n caniatáu dinistrio nythod rhywogaethau megis y Robin Goch heb waith monitro nac adrodd . Yn ogystal, mae'r RSPB yn ystyried ei bod yn amhriodol bod rhywogaethau megis y drudwy yn cael eu lladd neu eu cymryd o dan y Drwydded Gyffredinol oherwydd dirywiad parhaus yn y boblogaeth.

Mae'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Helfeydd a Bywyd Gwyllt a'r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Saethu a Chadwraeth ill dwy yn cytuno â'r cynigion i ychwanegu rhywogaethau at y Drwydded Gyffredinol ond yn gresynu at y baich ychwanegol ar ddefnyddwyr trwydded. Yn yr un modd, mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn gwrthwynebu cynigion ar gyfer adrodd yn wirfoddol am weithgarwch o dan y Drwydded Gyffredinol.

Perthnasedd i Gymru

Mae ymgynghoriad Natural England yn ymwneud â threfniadau ar gyfer trwyddedu yn Lloegr yn unig ac nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi cynigion i gyflwyno mesurau o'r fath yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dileu'r Drudwy, Aderyn y To a rhai rhywogaethau o wylanod o Drwyddedau Cyffredinol ar gyfer diogelu iechyd a diogelwch y cyhoedd, ac wedi dileu'r Drudwy o Drwyddedau Cyffredinol ar gyfer plâu amaethyddol, oherwydd pryderon bod hyn yn cyfrannu at ddirywiad mewn poblogaeth.