Y Sector Amaethyddol yng Nghymru: cyfeiriadau yn y dyfodol ac eglurhad cyfansoddiadol

Cyhoeddwyd 15/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

15 Gorffennaf 2014 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1390" align="aligncenter" width="300"]Llun: Rachel Davieso Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons Llun: Rachel Davieso Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons[/caption]  

Ar 9 Gorffennaf 2014,dyfarnodd y Goruchaf Lys o blaid cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu darpariaethau’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru).

Diddymodd Llywodraeth y DU y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol blaenorol ar gyfer Cymru a Lloegr ar 25 Mehefin 2013. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru) i’r Cynulliad ar 8 Gorffennaf 2013 i gadw bodolaeth y Bwrdd yng Nghymru. Cafodd y Bil ei gyfeirio at y Goruchaf Lys ym mis Awst gan Dwrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr i wneud penderfyniad ynghylch p’un a yw rhai o ddarpariaethau’r Bil, sef y rhai mewn perthynas â chyflogau a chyflogaeth, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Y Bil

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaethau sy’n:

  • Cadw’r mesurau amddiffyn statudol presennol ar gyfer tâl a thelerau ac amodau gweithwyr amaethyddol;
  • Rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud Gorchmynion yn y dyfodol i bennu telerau ac amodau amaethyddol;
  • Rhoi pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru i gynnal swyddogaethau tebyg i’r rhai sydd gan y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ond wedi’u haddasu fwy;
  • Galluogi Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru i gynnal swyddogaethau sy’n ymwneud â gweithrediad y sector amaethyddol, gan gynnwys hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch pennu isafswm telerau ac amodau;
  • Helpu i sefydlu sector amaethyddol cryf a chynaliadwy yng Nghymru sydd â gweithlu wedi’i hyfforddi’n dda; a
  • Hybu ymdrechion i wella sgiliau yn y sector amaethyddol.

Y camau nesaf

Mewn datganiad ar 9 Gorffennaf, croesawodd y Prif Weinidog benderfyniad y Goruchaf Lys, a dywedodd y bydd y Bil yn cael ei gyflwyno’n fuan i’w Mawrhydi y Frenhines i gael Cydsyniad Brenhinol, a disgwylir iddo ddod yn Ddeddf yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf. Tan fis Gorffennaf, bydd darpariaethau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2012 yn parhau i fod yn weithredol yng Nghymru. Yn dilyn Cydsyniad Brenhinol y Bil, bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol 12 wythnos ar gyfansoddiad a swyddogaethau arfaethedig y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth.