Cyflwyno'r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol i'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 16/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Gorffennaf 2014 Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1411" align="alignnone" width="300"]Llun: o Pixabay.  Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae Bil Aelod Preifat sy'n ceisio hyrwyddo cynhwysiant ariannol yng Nghymru wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad gan Bethan Jenkins AC. Dywed Bethan Jenkins fod y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) yn anelu at fynd i'r afael â'r sefyllfa lle mae llawer o bobl yng Nghymru yn mynd i drafferthion ariannol oherwydd diffyg gwybodaeth a sgiliau wrth reoli arian. Mae Memorandwm Esboniadol y Bil yn dadlau bod hyn yn cael ei gymhlethu gan duedd, mewn hinsawdd economaidd anffafriol, i bobl droi at fenthyciadau llog uchel, anghynaliadwy fel llwybr i fynd i'r afael â'u problemau ariannol. Mae tair prif elfen i'r Bil:
  • Yn gyntaf, mae'r Bil yn darparu sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer addysg ariannol yng Nghymru drwy ei wneud yn rhan statudol o'r cwricwlwm ysgol ar gyfer ysgolion a gynhelir.
  • Yn ail, bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fabwysiadu strategaeth cynhwysiant ariannol yn amlinellu pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo cynhwysiant ariannol trigolion yn eu hardal.
  • Yn drydydd, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cyngor i ddinasyddion am wasanaethau ariannol a rheolaeth ariannol.
O dan y rheolau sy'n llywodraethu sut mae'r Cynulliad yn cynnal ei fusnes, neu'r 'rheolau sefydlog' fel y'u gelwir yn ffurfiol, gall Biliau gael eu cyflwyno gan Aelodau Cynulliad unigol (AC), yn ogystal â chan Lywodraeth Cymru sef y ffynhonnell fwyaf cyffredin o ddeddfwriaeth y Cynulliad. Gall Pwyllgorau'r Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad ei hun hefyd gynnig deddfwriaeth. Bethan Jenkins fu'n llwyddiannus mewn balot ymhlith yr Aelodau ym mis Gorffennaf 2013, ac felly rhoddir cyfle iddi gynnig deddf newydd ar bwnc a ddewiswyd ganddi hi, sef addysg a chynhwysiant ariannol. Ymgynghorwyd ar ei chynigion ym mis Mawrth a mis Ebrill eleni. Pan gafodd y cynnig ei drafod gyntaf yn y Cynulliad yn gynnar iawn yn y broses, fis Hydref diwethaf, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at gamau y mae eisoes yn eu cymryd i gyflwyno gwybodaeth am reoli arian i ddisgyblion mewn ysgolion. Gwneir hyn yn bennaf trwy'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, a gyflwynwyd ym mis Medi 2013 ac mae cymhwyster TGAU newydd mewn rhifedd fathemategol i gael ei addysgu o fis Medi 2015. Fodd bynnag, mae Bethan Jenkins wedi tynnu sylw at anghysonderau'r ddarpariaeth addysg ariannol rhwng ysgolion yng Nghymru - rhywbeth a adroddwyd gan Estyn yn 2011 hefyd - ac mae'n dadlau bod angen gwneud rhywbeth er mwyn diogelu addysg ariannol yn y cwricwlwm, wedi'i wreiddio mewn deddfwriaeth sylfaenol. O ran rôl llywodraeth leol, mae gan Lywodraeth Cymru Strategaeth Cynhwysiant Ariannol i Gymru gyfan. Fodd bynnag, mae Memorandwm Esboniadol y Bil yn dadlau ei bod yn anodd barnu'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol o ran hyrwyddo cynhwysiant ariannol a nodi canlyniadau diriaethol. Felly fe ddywed Bethan Jenkins fod angen y ddeddfwriaeth i orfodi awdurdodau lleol i gynllunio'n strategol i hyrwyddo cynhwysiant ariannol eu trigolion. Bydd y Bil yn awr yn dechrau ar ei daith drwy broses ddeddfwriaethol y Cynulliad, a fydd yn cynnwys gwaith craffu gan un o bwyllgorau'r Cynulliad yr hydref hwn, gan arwain at welliannau posibl a dadl a phleidlais derfynol gan bob Aelod yn y Cyfarfod Llawn ynghylch pasio'r ddeddfwriaeth ai peidio. Disgwylir i'r broses hon bara tan yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ond yn gyntaf, bydd Bethan Jenkins yn gwneud datganiad i Aelodau'r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn heddiw (dydd Mercher 16 Gorffennaf) i nodi cyflwyno'i Bil yn ffurfiol.