Y wybodaeth ddiweddaraf am dalu am ofal

Cyhoeddwyd 23/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

23 Gorffennaf 2014 Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Daeth Deddf Gofal 2014 yn Lloegr, fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gyfraith ym mis Mai 2014. Fodd bynnag, yn wahanol i ddeddfwriaeth Cymru, mae Deddfau Lloegr yn nodi cynlluniau i ddiwygio'r ffordd y mae pobl yn Lloegr yn cyfrannu at gostau eu gofal. Mae'r erthygl hon yn trafod y cynlluniau yn Lloegr a'r datblygiadau diweddaraf yng Nghymru. [caption id="attachment_1435" align="alignright" width="225"]Llun: o Flickr gan 401kcalculator.org. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan 401kcalculator.org. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Lloegr O fis Ebrill 2016, gallai'r Ddeddf Gofal gyflwyno cap ar gostau gofal, â'r nod o geisio osgoi "costau gofal trychinebus". Mae Llywodraeth y DU wedi dewis gosod y cap ar £72,000, tra bod y Comisiwn Dilnot wedi argymell £35,000. Mae'r cap yn cynnwys costau cartrefi gofal a gofal yn y cartref, a dyna yw'r mwyafswm y bydd yn rhaid i bobl ei dalu yn ystod eu hoes i ddiwallu eu 'hanghenion cymwys" (a bennir gan asesiad). Unwaith y bydd y cap yn cael ei gyrraedd, bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol dalu'r holl gostau gofal pellach (sy'n ymwneud ag anghenion cymwys). Bydd yr awdurdod lleol yn asesu beth yw'r costau hyn, ac, os bydd pobl yn dewis gofal ychwanegol neu ddrytach, gallant dalu'r gwahaniaeth. Ni fydd y cap yn cynnwys "costau byw cyffredinol" y rhai sydd mewn gofal preswyl, fel bwyd, biliau ynni a llety. Bydd £12,000 y flwyddyn yn cael ei bennu ar gyfer hyn. Y rhesymeg a roddwyd am hyn yw y bydd yn rhaid i bobl sy'n cael gofal yn y cartref dalu'r costau hyn o hyd. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cynyddu trothwy'r prawf modd; Ar hyn o bryd, caiff asedau o dan £14,250 eu diystyru yn y prawf modd, ac mae'r rhai sydd ag asedau o rwng £14,250 a £23,250 yn cael rhywfaint o gymorth ariannol yn ôl graddfa symudol. Y terfynau cyfalaf newydd fydd £17,000 ac £118,000. Pwyntiau i'w nodi
  1. Y bwriad yw y bydd y cap yn gweithredu o fis Ebrill 2016. Fodd bynnag, bydd etholiad cyffredinol yn 2015 a allai arwain at newid llywodraeth. Mater i'r Ysgrifennydd Gwladol fydd dod â rhan berthnasol y Ddeddf i rym. Hefyd, mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd y cap yn cael ei osod ar £ 72,000, ond nid yw'r ffigur hwn yn cael ei gynnwys yn y Ddeddf. Bydd hyn yn cael ei osod a'i roi ar waith gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
  2. Caiff costau gofal eu cyfrifo ar y gyfradd safonol y mae awdurdodau lleol yn ei thalu am wely mewn cartref gofal. Mae'r swm y mae'r cartrefi yn ei godi ar bobl yn aml yn uwch na hynny a gwneir taliadau ychwanegol yn aml.
  3. Bydd costau gofal ond yn dechrau cyfrif tuag at y cap unwaith y bernir bod anghenion yr unigolyn yn gymwys yn ôl y meini prawf newydd. Mae'r ddeddfwriaeth yn cyflwyno meini prawf cymhwyster cenedlaethol, a fydd yn gosod yr anghenion sylfaenol y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni - bydd hyn yn cael ei weithredu ym mis Ebrill 2015.
Mae llawer o'r drafodaeth wedi canolbwyntio ar lefel y cap, ond mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Kings Fund yn dadlau mai'r hyn sy'n hollbwysig yw lefel y trothwy cymhwyso. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rheoliadau meini prawf cymhwyso drafft, ac ar hyn o bryd mae'n ymgynghori ar reoliadau a chanllawiau drafft. Cymru Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar ei dull o ddiwygio'r system. Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog ei bod wedi comisiynu astudiaeth ymchwil annibynnol ar ddyfodol talu am ofal, ac mae disgwyl y bydd wedi ei gwblhau erbyn mis Medi. Mae adroddiad ar gam cyntaf y gwaith ymchwil newydd gael ei gyhoeddi, ynghyd â datganiad diweddaru gan y Dirprwy Weinidog. Mae'r adroddiad yn rhoi darlun o'r sefyllfa bresennol a bydd yr ail gam yn gwerthuso opsiynau ar gyfer diwygio. O ran y meini prawf cymhwyso, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp technegol i ddatblygu argymhellion ar gyfer penderfynu ar yr anghenion cymhwyso. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog ddatganiad ar hyn a chyhoeddodd adroddiad ar gymhwyso ar sail gwaith y grŵp, er mwyn cael sylwadau dros yr haf. Mewn datganiad diweddar gan y Dirprwy Weinidog, dywedodd y bydd y rheoliadau meini prawf cymhwyster ar gael ar gyfer ymgynghori ym mis Tachwedd eleni; ac y bydd rheoliadau talu am ofal ar gael ar gyfer ymgynghori o fis Mai 2015. Rhagor o wybodaeth: