Amseru arolygiadau Estyn i fod yn 'llai rhagweladwy'

Cyhoeddwyd 29/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

29 Gorffenaf 2014 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bydd y newidiadau i'r trefniadau amseru a chynllunio ar gyfer arolygiadau ysgolion yn cael eu rhoi ar waith o ddechrau'r tymor ysgol newydd (1 Medi 2014). [caption id="attachment_1440" align="alignnone" width="300"]Llun: o Pixabay.  Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, sy'n arolygu ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru. Cynhelir yr arolygiadau bob chwe blynedd (2010-2016 ar hyn o bryd), sy'n golygu y caiff pob lleoliad ei arolygu unwaith yn y cyfnod hwnnw. Bydd y cylch chwe blynedd yn parhau, ond er mwyn sicrhau bod yr arolygiadau'n llai rhagweladwy, ni fydd amseriad arolygiad lleoliad unigol yn dibynnu ar yr adeg y cafodd ei arolygu yn y cylch blaenorol mwyach. Ar hyn o bryd, gall ysgolion fwy neu lai ddisgwyl, os cawsant eu harolygu hanner ffordd drwy'r cylch arolygu diwethaf er enghraifft, ei bod yn debygol y bydd eu harolygiad nesaf hanner ffordd drwy'r cylch presennol. Fel y dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, mewn Datganiad Cabinet yn ddiweddar, cred Llywodraeth Cymru y bydd y newidiadau'n annog ysgolion a lleoliadau addysg i fod yn barod ar gyfer arolygiadau drwy'r amser. Bydd pob lleoliad yn parhau i gael ei arolygu bob chwe blynedd o dan y Fframwaith Arolygu Cyffredin, er y bydd gan Estyn yr hyblygrwydd i arolygu lleoliadau sy'n perfformio'n well yn llai aml a lleoliadau nad ydynt yn perfformio cystal yn amlach. Un o'r newidiadau eraill yw na fydd yn rhaid i ysgolion roi tair wythnos o rybudd ynghylch eu cyfarfod i rieni ar ôl yr arolygiad. Caiff y cyfarfod i rieni ei ystyried yn elfen bwysig a chaiff ei chadw, er bod y gofyniad o ran y rhybudd a roddir yn cael effaith ddilynol ar angen Estyn i roi o leiaf pedair wythnos o rybudd i ysgolion y bydd yn cynnal arolygiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y newid yn galluogi Estyn i leihau'r rhybudd y mae'n ei roi i ysgolion am arolygiadau os yw am wneud hynny. Fodd bynnag, dywedodd yr arolygiaeth ym mis Mehefin 2014 na fyddai hyn yn newid ac y byddai ysgolion yn parhau i gael 20 diwrnod gwaith o rybudd ar gyfer arolygiad. Y trydydd newid yw y bydd gan leoliadau llai o amser i lunio eu cynlluniau gweithredu ar ôl yr arolygiad. Mae hyn yn lleihau o 45 diwrnod gwaith i 20 diwrnod gwaith. Dywed Llywodraeth Cymru fod hyn yn adlewyrchu'r pwysigrwydd o leoliadau addysg yn cymryd camau gweithredu ar frys i fynd i'r afael â chanlyniadau'r arolygiad a bydd yn sicrhau cysondeb gan fod lleoliadau ôl-16 eisoes yn gweithredu o fewn amserlen pedair wythnos. Mae'r newidiadau wedi'u gwneud gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014, a osodwyd gerbron y Cynulliad ym mis Mai 2014. Gwnaed y newid hwn yn y gyfraith yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2013 ar ôl ymgynghoriad ar y cyd gydag Estyn rhwng mis Chwefror a mis Mai 2013, a oedd yn ei dro yn dilyn adolygiad hanner ffordd gan Estyn ei hun yn 2012. Mae rhagor o wybodaeth am drefniadau arolygu Estyn ar gael ar ei wefan, gan gynnwys y canllawiau a gyflwynir ganddo i'w arolygwyr a'i holl adroddiadau arolygiadau. Mae Estyn hefyd yn llunio 'Adroddiadau Thematig' ar feysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn iddo adrodd arnynt yn benodol bob blwyddyn, ac mae'r Prif Weithredwr yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar y canfyddiadau o'r arolygiadau a gynhelir ym mhob blwyddyn academaidd, gan ddefnyddio'r rhain i greu'r canfyddiadau ar gyfer Cymru gyfan.