Cynghorau tref a chymuned: ai nhw fydd nesaf?

Cyhoeddwyd 01/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

01 Awst 2014 Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ers cyhoeddi adroddiad Comisiwn Williams ym mis Ionawr 2014, mae’r ymateb i raddau helaeth wedi canolbwyntio ar yr argymhelliad i gwtogi nifer y prif awdurdodau lleol yng Nghymru o 22 i rhwng 10 a 12.

Ond prin fu’r sylw, o gymharu, i ddyfodol cynghorau tref a chymuned – y ffurf fwyaf lleol ar ddemocratiaeth yn system wleidyddol Cymru. Mae dros 730 o’r cynghorau hyn i’w cael drwy’r wlad, a rhyw 8,000 o gynghorwyr yn aelodau ohonyn nhw. Tra bo’r bwriad i uno’r prif awdurdodau wedi cipio’r penawdau, mae’n ddigon posibl y bydd angen i gynghorau tref a chymuned baratoi am newid hefyd.

Mae cynghorau tref a chymuned yng Nghymru yn amrywio’n fawr o ran maint, yn cynrychioli llai na 200 o bobl mewn ambell achos a dros 45,000 o bobl mewn ardaloedd eraill. Maen nhw’n cael eu hariannu’n bennaf trwy’r hyn a elwir yn ‘braesept’ gan y prif awdurdod lleol, ac mae maint hwn amrywio hefyd. Trwy Gymru, mae cymedr y praesept yn rhyw £40,000 a’i ganolrif yn rhyw £10,500. Mae chwarter yr holl gynghorau, fodd bynnag, yn gosod praesept o lai na £5,000.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o ddatblygiadau polisi dros y blynyddoedd diwethaf gyda golwg ar fynd i’r afael â gwendidau tybiedig yn y sector. Mae hyn wedi cynnwys ymdrechion trwy Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i gryfhau pwerau a chapasiti cynghorau tref a chymuned; strategaeth hyfforddi genedlaethol; a chanllawiau newydd ar y berthynas rhwng cynghorau tref a chymuned a’r prif awdurdodau. Bydd datblygiadau mwy diweddar yn sgil Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn gorfodi pob cyngor tref a chymuned i gael presenoldeb ar-lein o fis Ebrill 2015.

Yn y cyfamser, ar yr un diwrnod ag yr oedd Comisiwn Williams yn cyflwyno’i adroddiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o dystiolaeth am gynghorau tref a chymuned – a hynny er mwyn ‘goleuo datblygiad polisi’ yn y maes hwn yn y dyfodol.

Mae’r adolygiad yn cydnabod bod y datblygiadau uchod wedi llwyddo i ‘gryfhau'r fframwaith sefydliadol ar gyfer cynghorau tref a chymuned yng Nghymru'n sylweddol’. Mae ynddo hefyd gydnabyddiaeth o werth y sector, yn enwedig ei allu i ymateb i faterion lleol; i gynrychioli buddiannau lleol; i sbarduno gweithgarwch cymunedol; ac i ychwanegu at y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y prif awdurdodau. Yn wahanol i grwpiau cymunedol sydd heb sail statudol, mae’r adolygiad yn pwysleisio bod cynghorau tref a chymuned yn nodedig am eu hatebolrwydd, eu sefydlogrwydd a’r elfen o barhad sydd ynghlwm wrthyn nhw.

Fodd bynnag, mae’r adolygiad hefyd yn tynnu sylw at sawl peth yn y sector sy’n dal i fod yn destun pryder. Er enghraifft:

  • O un cyngor i’r llall, mae yna anghysondeb mawr o ran maint, siâp, maint y gyllideb a natur y gweithgarwch sy’n mynd rhagddo yn y cyngor hwnnw. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd cyflwyno pwerau neu fesurau newydd ar gyfer yr holl sector drwyddo draw;
  • Mae cyfyngiadau statudol ar refeniw a gwariant, ynghyd â chyfyngiadau a osodir gan y cynghorau eu hunain, yn caethiwo’r cynghorau wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau;
  • Nid yw pob cyngor bob amser yn cydymffurfio â chanllawiau neu ofynion cyfreithiol;
  • Nid yw proffil y cynghorwyr yn gynrychioladol o’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu (gyda chynrychiolaeth uchel o blith y rheini sy’n hŷn na 60 oed);
  • Mae ambell gyngor yn wrthwynebus pan fydd gofyn am foderneiddio a gwella proffesiynoldeb;
  • Gall rhai cynghorwyr a chlercod fod yn brin eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth wrth ymdrin â materion sy’n ymwneud â llywodraeth leol, ac mae perygl i hyn amharu ar ba mor effeithiol yw’r cynghorau dan sylw.
Crybwyllir rhai o’r problemau hyn yn adroddiad Comisiwn Williams, sy’n tynnu sylw’n benodol at y ffaith mai dim ond un o bob pum sedd ar gynghorau tref a chymuned yng Nghymru a gafodd eu llenwi drwy bleidlais gyhoeddus yn etholiadau 2012. Cafodd gweddill y cynghorwyr eu hethol yn ddiwrthwynebiad neu eu cyfethol os na safodd unrhyw ymgeisydd am sedd benodol.

O roi hyn ochr yn ochr â’r problemau sy’n deillio o faint bychan rhai o’r cynghorau, daeth Comisiwn Williams i’r casgliad ei bod yn ‘amlwg bod angen diwygio'r sector cynghorau tref a chymuned’. Argymhellodd yr adroddiad gan hynny ‘y dylid hefyd uno neu ehangu ardaloedd cynghorau tref a chymuned i greu llai o gynghorau mwy o faint a all fynegi buddiannau lleol yn glir ac yn effeithiol’.

Yn ei Phapur Gwyn diweddar ar ddiwygio llywodraeth leol (Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni), dywed Llywodraeth Cymru ei bod hi’n cytuno â Chomisiwn Williams fod cynghorau tref a chymuned ‘yn rhy fach, ac nad oes ganddynt ddigon o gapasiti ac adnoddau’. Dywed y Llywodraeth o’r herwydd y bydd hi’n ystyried a fyddai unrhyw ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn elwa o adolygu ei chymunedau a’u ffiniau.

Serch hynny, mae’r Llywodraeth yn pwysleisio nad yw’n fwriad ganddi i ail-greu’r system ddwy haen a fodolai mewn llywodraeth leol yng Nghymru cyn 1996. Yn hytrach, mae’n mynnu bod yn rhaid i gynghorau tref a chymuned gael eu hystyried yng ‘nghyd-destun Prif Awdurdodau mwy a rôl Cynghorwyr ward yn yr Awdurdodau hynny’. Mae’r Papur Gwyn yn addo inni ‘bapur pellach yn yr hydref eleni’ a fydd yn edrych ar yr opsiynau i gryfhau llywodraethu cymunedol fel bod hwnnw ‘yn effeithiol ac yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain’.

Mae’n ddiau mai uno’r 22 awdurdod lleol fydd yn dal i hoelio’r sylw ac ennyn trafodaeth. Ond ai cynghorau tref a chymuned, tybed, fydd nesaf?