Canlyniadau Safon Uwch

Cyhoeddwyd 14/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

14 Awst 2014 Erthygl gan Sian Hughes, National Assembly for Wales Research Service [caption id="attachment_1476" align="alignnone" width="300"]Llun: o Pixabay.  Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae myfyrwyr Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau Safon Uwch heddiw. Mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys y saith darparwr cymwysterau yn y DU) yn cyhoeddi crynodebau o'r canlyniadau. Dengys data'r Cyd-gyngor Cymwysterau ganlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda’r cyrff dyfarnu sy'n aelodau. Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn ymwneud â 'chofrestriadau' ac nid 'ymgeiswyr'. Felly, er enghraifft, gall y data ddangos bod perfformiad wedi cynyddu neu ostwng ar lefel Safon Uwch neu o fewn y graddau. Ni all ddangos a oes mwy o fechgyn na merched yn cael pump neu ragor o raddau TGAU. Mae'r undebau athrawon ATL ac ASCL wedi annog pwyll wrth gymharu canlyniadau arholiadau Cymru ag eraill yn y DU oherwydd y gwahaniaethau cynyddol rhwng systemau arholiadau Cymru a Lloegr. Mae Ofqual wedi ysgrifennu llythyr agored at ysgolion a cholegau yn Lloegr yn datgan y gallai cael gwared ar arholiadau UG a Safon Uwch ym mis Ionawr (a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2012) fod wedi cael effaith sylweddol ar ysgolion a cholegau. Mae hyn yn debygol o olygu y bydd y canlyniadau yn edrych yn wahanol i'r blynyddoedd blaenorol, er bod y safonau wedi aros yn gyson. Mae'r data yn y tablau isod yn cymharu'r canlyniadau ar gyfer 2013 a 2014. Mae'r gymhariaeth hon yn cael ei gwneud yn seiliedig ar y data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar y diwrnod canlyniadau yn 2013. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y data eu gwirio cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel genedlaethol (Cymru), yr awdurdod lleol ac ar lefel ysgolion. Cafodd data dros dro Safon Uwch eu cyhoeddi ar 14 Awst 2014. Mae'r wybodaeth yn ymwneud â 'chofrestriadau' ac nid 'ymgeiswyr'. Cymhariaeth rhwng 2013 a 2014
  • Yng Nghymru, bu gostyngiad bach yn y gyfradd lwyddo gyffredinol (0.1 y cant) i 97.5 y cant. Cafwyd gostyngiad o 0.1 y cant yn Lloegr hefyd;
  • Mae canran y rhai a enillodd raddau A*- C wedi aros yr un fath yng Nghymru gyda gostyngiad o 0.5 y cant yn Lloegr;
  • Yng Nghymru, bu cynnydd o 0.4% yng nghanran y rhai a enillodd raddau A* - A. Yn Lloegr, bu gostyngiad o 0.3 y cant;
  • Yng Nghymru, bu cynnydd o 0.7 % yng nghanran y rhai a enillodd radd A*, a bu cynnydd o 0.6% yn Lloegr.
Bechgyn a Merched
  • Mae merched yn parhau i gael graddau gwell na bechgyn yng Nghymru a Lloegr, ac eithrio canran y rhai a enillodd radd A*. Ar radd A* mae'r bwlch rhwng bechgyn a merched wedi cynyddu ychydig yng Nghymru a Lloegr;
  • O ran y graddau eraill, yng Nghymru mae'r bwlch cyflawni rhwng bechgyn a merched wedi cynyddu ers y llynedd ar raddau A*- C ac A* - E ond mae'r bwlch wedi lleihau ar raddau A* - A. Yn un yw'r darlun yn Lloegr hefyd gyda'r bwlch ar A* - A yn llai, y bwlch ar A* - E yn fwy, a'r bwlch ar A* - C yn aros yr un fath.
Cymru a Lloegr:           
  • Mae Lloegr yn parhau i gael gwell canlyniadau na Chymru, er bod y cymariaethau â'r llynedd, yn enwedig ar raddau uwch, wedi bod yn fwy ffafriol i Gymru.
Mae tablau 1 a 2 yn dangos canrannau'r cofrestriadau yn yr holl bynciau fesul gradd ar gyfer Cymru a Lloegr, cofrestriadau merched a bechgyn, ac ar gyfer 2013 a 2014. tbl1-cy Ffynhonnell: Y Cyd-gyngor Cymwysterau, A, AS and AEA (Advanced Extension Award) Results Summer 2014 table2-cy Ffynhonnell: Y Cyd-gyngor Cymwysterau, A, AS and AEA Results Summer 2013 Bagloriaeth Cymru Cafodd canlyniadau'r haf ar gyfer Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw hefyd. Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cael ei gyflwyno gan ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Mae dwy ran i gymhwyster Bagloriaeth Cymru, sef 'Opsiynau' a 'Rhaglen Graidd'.   Rhaid i'r 'Opsiynau' gael eu cyflawni gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer pob lefel o Ddiploma Bagloriaeth Cymru, ac maent yn opsiynau a ddewiswyd o gyrsiau neu raglenni sefydledig a chymeradwy (er enghraifft, TGAU, TGAU Galwedigaethol, Safon Uwch/Uwch Gyfrannol, Safon Uwch Galwedigaethol). Astudiaethau datblygiad personol yw'r 'Rhaglen Graidd' y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu cyflawni ynghyd â'r opsiynau. Er mwyn ennill Diploma, rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion yr Opsiynau a'r Rhaglen Graidd. Ar Safon Uwch:
  • Mae nifer yr ymgeiswyr a gwblhaodd Bagloriaeth Cymru yn parhau i gynyddu.
  • Gwelwyd cynnydd bach yng nghanran yr ymgeiswyr a gafodd y Diploma Uwch, o 82.7% yn 2013 i 87.1% yn 2014, cynnydd o 4.4%;
  • Bu cynnydd yng nghanran yr ymgeiswyr a enillodd y Dystysgrif Graidd, o 88.4% i 92.4%, cynnydd o 4%.
table3-eng Ffynhonnell: Datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru