Organebau a Addaswyd yn Enetig (GMO): Newidiadau i'r broses awdurdodi ar gyfer eu tyfu

Cyhoeddwyd 09/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

09 Medi 2014

Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

[caption id="attachment_1546" align="alignnone" width="300"]Llun: o Flikr gan iplaylens. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flikr gan iplaylens. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Yn 2010, rhoddodd Comisiwn yr UE gynnig ar gyfer Rheoliad i ddiwygio'r system awdurdodi bresennol ar gyfer tyfu organebau a addaswyd yn enetig (GMO). Nod y cynnig oedd rhoi mwy o hyblygrwydd i aelod-wladwriaethau gyfyngu neu wahardd tyfu cnydau GMO yn seiliedig ar feini prawf moesegol a moesol, yn ogystal â rhai gwyddonol. Mae'r cynigion yn destun y weithdrefn cydbenderfynu lle mae'n rhaid i'r Cyngor a Senedd Ewrop gytuno.

Mae oedi yn cynnig y Comisiwn yn sgil pryder aelod-wladwriaethau ond edrychwyd eto ar y cynnig yn ddiweddar yn dilyn cymhlethdodau yn gysylltiedig ag awdurdodi indrawn 1507. Yn wir, mae Cyngor y Gweinidogion wedi nodi ei fod yn disgwyl cychwyn ar drafodaethau teirffordd gyda Senedd Ewrop ar destun y cynnig terfynol yn yr hydref.

Y broses bresennol

Rhoddwyd awdurdodiad i dyfu cnydau GMO yn yr UE yn dilyn cais gan gwmni bio-tech, ac mae'r penderfyniad y daethpwyd iddo yn sgil hynny'n gymwys i bob gwlad yn yr UE. Mae'r broses ddeddfwriaethol yn cynnwys asesiad risg gwyddonol, ymgynghoriad cyhoeddus a phenderfyniad terfynol lle gall aelod-wladwriaethau gymeradwyo neu wrthod cynnig y Comisiwn drwy fwyafrif cymwysedig. Mae aelod-wladwriaethau yn aml wedi methu â chael mwyafrif sy'n arwain at sefyllfa annatrys yn y Cyngor. Os mai dyma'r achos ac y caiff y cnwd ei gymeradwyo yn dilyn asesiad risg gwyddonol, dylai'r Comisiwn roi awdurdodiad. Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r Comisiwn wedi methu â dod i benderfyniad yn sgil diffyg cytundeb gan aelod-wladwriaethau sydd wedi arwain at gymryd camau gweithredu gan gwmnïau bio-tech yn llysoedd Ewrop e.e. yn achos indrawn 1507.

Mae ‘cymal amddiffyn’ (Erthygl 23 o Gyfarwyddeb 2001/18) yn bodoli sy'n caniatáu i aelod-wladwriaethau wahardd neu gyfyngu ar dyfu neu ddefnyddio cynnyrch GMO sydd wedi'i awdurdodi ond dim ond os allant ddarparu tystiolaeth wyddonol newydd yn profi bod y cynnyrch yn beryglus i iechyd amgylcheddol neu ddynol o fewn y diriogaeth.

Y newidiadau arfaethedig mewn deddfwriaeth

Ym mis Gorffennaf 2010, cyhoeddodd y Comisiwn gynnig ar gyfer Rheoliad sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2001/18. Byddai diwygio hyn yn rhoi sail gyfreithiol i aelod-wladwriaethau gymeradwyo neu wrthod tyfu GMO yn seiliedig ar sail arall heblaw am sail wyddonol. Y seiliau posibl eraill a awgrymwyd gan y Comisiwn yw ‘moesau cyhoeddus’, gan gynnwys pryderon crefyddol, athronyddol a moesegol, ‘amcanion polisi cymdeithasol’, gan gynnwys cynnal mathau penodol o ffermio i gadw swyddi, a ‘pholisi diwylliannol’. Byddai'r Rheoliad hwn yn galluogi aelod-wladwriaethau i wahardd tyfu GMO yn eu holl diriogaeth neu ran ohoni heb orfod defnyddio'r cymal amddiffyn (er y byddai pryderon iechyd ac amgylcheddol yn parhau i gael eu codi o dan y cymal). Mae'r Comisiwn yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at fwy o gnydau yn cael eu cymeradwyo i'w hawdurdodi gan y Cyngor.

Mae'r cynigion yn destun y weithdrefn cydbenderfynu lle mae'n rhaid i'r Cyngor a Senedd Ewrop gytuno.

Statws y Rheoliad arfaethedig

Gwrthwynebwyd y cynigion gwreiddiol, ac roedd Ffrainc a'r Almaen yn pryderu y gallai arwain at rannu marchnad fewnol yr UE ac achosi problemau gyda Sefydliad Masnach y Byd.

Ym mis Mawrth 2012, mewn dadl ar y cynigion yng Nghyngor yr Amgylchedd, ni chafwyd cytundeb oherwydd cafod y cynnig ei atal gan leiafrif o aelod-wladwriaethau, gan oedi'r broses penderfynu. Fodd bynnag, yn 2014, dechreuodd Llywyddiaeth Groeg y Cyngor adfywio'r trafodaethau a arweiniodd at bleidlais a mabwysiadu testun cyfaddawd yn y Cyngor Amgylchedd ar 12 Mehefin 2014. Roedd yn cynnwys sawl gwelliant arfaethedig i gynnig gwreiddiol y Comisiwn.

Senedd Ewrop

Mabwysiadodd Senedd Ewrop sefyllfa negodi ar gynigion gwreiddiol y Comisiwn ym mis Gorffennaf 2011 ond yn dilyn yr etholiadau Ewropeaidd diweddar a faint o amser a basiwyd ers i'r Senedd fabwysiadu ei sefyllfa negodi, gall benderfynu edrych eto ar ei ymateb gwreiddiol. Bydd p'un a fydd yn dewis gwneud hynny yn dod yn glir dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Rhagor o wybodaeth:

Y Gwasanaeth Ymchwil, Nodyn Ymchwil,

Organebau a Addaswyd yn Enetig (GMOs): Y broses awdurdodi ar gyfer eu tyfu, Gorffennaf 2014

Y Comisiwn Ewropeaidd, Cwestiynau ac Atebion y Comisiwn Ewropeaidd ar bolisïau'r UE ynghylch tyfu a mewnforio cnydau GMO 6 Tachwedd 2013