Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Ffibromyalgia y DU

Cyhoeddwyd 11/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Medi 2014

Erthygl gan Sana Ahmad, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Ffibromyalgia, a elwir hefyd yn syndrom ffibromyalgia (FMS neu FS) yn gyflwr poen cronig cymhleth a nodweddir gan boen eang drwy’r corff: tynerwch y cyhyrau a’r cymalau, cwsg o ansawdd gwael a blinder mawr. Mae’r cyflwr yn effeithio ar y cyhyrau a’r meinweoedd meddal, fel y tendonau a’r gewynnau ac mae’n aml yn achosi poen cyhyrysgerbydol cronig. Mae nodweddion eraill ffibromyalgia yn cynnwys amhariad gwybyddol (o ran y cof a’r gallu i ganolbwyntio), mwy o bryder, cur pen a syndrom coluddyn llidus (IBS). [caption id="attachment_1552" align="alignright" width="300"]Llun: o Flikr gan vaXzine. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flikr gan vaXzine. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Gall Ffibromyalgia effeithio ar unrhyw berson o unrhyw oed, grŵp ethnig neu gefndir cymdeithasol, er ei fod wedi cael ei ganfod yn amlach mewn menywod rhwng 45 a 60 oed o gymharu â dynion. Amcangyfrifir bod y cyflwr yn effeithio ar oddeutu dwy filiwn o bobl yn y DU yn unig, er bod ymchwilwyr yn credu mai 20% yn unig o’r dioddefwyr sydd wedi cael diagnosis ffurfiol, oherwydd natur gymhleth symptomau’r cyflwr. Nid oes unrhyw brawf syml ar gael i roi diagnosis o’r salwch. Er ei fod yn un o’r achosion mwyaf cyffredin o boen cyhyrysgerbydol, ychydig a ddeallir ynghylch beth yn union sy’n achosi ffibromyalgia, oherwydd bod yr annormaleddau ym meinwe cyhyrau’r cleifion yn anghyson. Credir bod newidiadau mewn dulliau prosesu poen yn y system nerfol ganolog yn mynd yn peidio â gweithio’n iawn, sy’n arwain at gynyddu unrhyw boen a sensitifrwydd, a bydd symudiadau syml neu hyd yn oed gyffyrddiad arferol, ysgafn nad yw’n boenus fel arfer, yn hynod o boenus i’r person sy’n dioddef. Oherwydd mai ychydig o ddealltwriaeth sydd o achos sylfaenol y boen, dywed dioddefwyr eu bod yn cael anhawster i egluro eu salwch ac maent yn teimlo ei fod weithiau yn cael ei anwybyddu neu’i ddiystyru gan fod rhai gweithwyr iechyd proffesiynol yn dal i ystyried ei fod yn gyflwr seicolegol yn anad dim. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth i gefnogi’r batholeg sylfaenol ar gyfer ffibromyalgia yn cynyddu. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod ffibromyalgia yn aml yn datblygu ar ôl digwyddiad trawmatig, haint difrifol neu ddamwain a allai fod wedi arwain at anaf corfforol. Mae ymchwil diweddar wedi awgrymu efallai bod rhagdueddiad genetig yn natblygiad y cyflwr. I rai pobl, mae’r symptomau’n ymddangos yn sydyn, fodd bynnag, i lawer o bobl, gall ddigwydd fel proses raddol sy’n cynnwys ymweliadau cyson â’u meddyg teulu dros gyfnod hir. Un o nodweddion cyffredin ffibromyalgia yw, yr ymddengys, cyn gynted ag y caiff un symptom ei ddatrys, bydd symptom arall yn datblygu. Yn anffodus, bydd pobl sydd â ffibromyalgia yn cael problemau sy’n mynd y tu hwnt i’r boen uniongyrchol a achosir gan eu salwch. Gall dioddefwyr yn aml wynebu amheuaeth gan deulu a ffrindiau oherwydd diffyg ymwybyddiaeth gyffredinol y cyhoedd am y cyflwr, gan ei fod yn tueddu i fod yn anweledig heb ddim ‘o’i le’ yn ôl pob golwg, ar y claf ar lefel gorfforol, er gwaetha’r ffaith eu bod yn cael eu llethu gan boen anesboniadwy. Gorfodir llawer o bobl sy’n dioddef o’r cyflwr i roi’r gorau i’w swyddi, eu diddordebau, i ganslo cynlluniau cymdeithasol ac i addasu eu ffordd o fyw. Ffocws yr Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Ffibromyalgia eleni, sy’n parhau tan ddydd Sul, yw’r angen am driniaeth fwy effeithiol o’r cyflwr. Mae technegau ymdopi fel therapi ymddygiad gwybyddol i gynorthwyo i leihau straen wedi profi ei fod yn effeithiol mewn rhai achosion, yn ogystal â mathau penodol o ymarfer corff. Mae rhai cleifion hefyd wedi darganfod bod therapïau amgen yn ddefnyddiol ar eu cyfer, fodd bynnag, ychydig o dystiolaeth wyddonol sydd ar gael i gefnogi’r rhain. Mae gwaith ymchwil parhaus yn mynd rhagddo i achosion ffibromyalgia a thriniaethau ar gyfer y cyflwr, fodd bynnag, ymddengys fod gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr yn cytuno bod gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth yn allweddol wrth barhau i helpu’r rhai sy’n dioddef o ffibromyalgia. Cynhelir Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Ffibromyalgia y DU eleni rhwng 6 a 14 Medi 2014, ac mae rhagor o gymorth a gwybodaeth ar gael yn: http://www.fmauk.org a www.fibro-wales.com.