Cyhoeddi model ar gyfer categoreiddio ysgolion

Cyhoeddwyd 25/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Medi 2014 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1590" align="alignnone" width="300"]Llun: o Pixabay.  Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi model newydd i gategoreiddio ysgolion yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn ei haddewid i gyflwyno system raddio ar gyfer ysgolion cynradd a bydd hefyd yn disodli’r system bresennol ar gyfer bandio ysgolion uwchradd. Cyhoeddir y canlyniadau cyntaf ym mis Ionawr 2015. Mewn Datganiad gan y Cabinet a gyhoeddwyd heddiw (25 Medi 2014), nododd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, fanylion am y broses tri cham ar gyfer categoreiddio ysgolion cynradd ac uwchradd.
  • Bydd Cam 1 yn defnyddio data ar berfformiad a safonau ysgol i ffurfio barn rhwng 1 a 4. Mae manylion am y matrics data ar gyfer ysgolion cynradd wedi cael eu cyhoeddi yn natganiad y Gweinidog a bydd manylion am yr ysgolion uwchradd yn dilyn y mis nesaf.
  • Mae Cam 2 yn cynnig cyfle i ysgolion hunan-werthuso eu hunain a bydd yn seiliedig ar allu’r ysgol i wella ei hun. Bydd yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu. Bydd Cynghorwyr Herio y consortia rhanbarthol, sydd mewn gwirionedd yn cyflawni rôl flaenorol swyddogaethau gwella ysgolion awdurdodau lleol unigol, yn archwilio sut mae hunan-werthusiad ysgolion yn cyfateb i’r data perfformiad o dan Gam 1. Y bwriad yw sicrhau bod y broses yn gadarn. Bydd y canlyniad Cam 2 yn ddyfarniad rhwng A a D.
  • O dan Gam 3, bydd y ddau ddyfarniad a gafwyd o dan y ddau gam cyntaf yn arwain at ddyfarniad cyffredinol a chategori ar gyfer pob ysgol yn seiliedig ar bedwar lliw: Gwyrdd, Melyn, Oren a Choch. Bydd y dyfarniadau hyn yn sbarduno rhaglen wedi’i theilwra a fydd yn cynnwys cymorth, her ac ymyrraeth, y bydd angen cytuno arni rhwng yr awdurdod lleol a’r consortia rhanbarthol.
I grynhoi, mae datganiad y Gweinidog yn disgrifio pob lliw categori fel hyn:
  • Gwyrdd: yw’r ysgolion gorau
  • Melyn: yw’r ysgolion da
  • Oren: yw’r ysgolion sydd angen gwella
  • Coch: yw’r ysgolion sydd angen y gwelliant mwyaf
(Gwelir eglurhad pellach o bob lliw categori yn natganiad y Gweinidog) O fewn eglurhad y data a ddefnyddir o ran ysgolion cynradd yng Ngham 1, bydd cyd-destun economaidd-gymdeithasol ysgolion, fel y cynrychiolir yn ôl lefelau cymhwyster Prydau Ysgol am Ddim, yn parhau i fod yn ffactor allweddol yn yr un modd â’r system bandio ysgolion uwchradd bresennol. Bydd y mesurau a ddefnyddir ar gyfer data ysgolion cynradd yn cael eu gosod mewn grwpiau meincnodi yn seiliedig ar y gyfran o ddisgyblion sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y bydd cyflwyno system genedlaethol ar gyfer categoreiddio ysgolion yn adeiladu ar y trefniadau presennol lle mae rhai awdurdodau lleol neu ranbarthau eisoes yn graddio ysgolion. Mae hefyd wedi pwysleisio rôl llywodraeth leol a’r consortia rhanbarthol o ran datblygu’r model categoreiddio cenedlaethol a’r cyfuniad o egwyddorion bandio ysgolion uwchradd presennol gyda dull gweithredu system gyfan sy’n ystyried arweinyddiaeth, addysgu a dysgu. Bydd y model newydd yn wahanol i fandio ysgolion uwchradd o ran na fyddai ysgol yn codi un categori neu fwy o reidrwydd yn golygu bod ysgol arall yn disgyn. Hefyd, drwy ddefnyddio cyfartaleddau tair blynedd, dylai’r model newydd ddarparu dadansoddiad tymor hwy o safle ysgol yn hytrach nag un y gellir dadlau sy’n seiliedig yn bennaf ar un garfan o ddisgyblion ar gyfer y flwyddyn honno. I gael rhagor o wybodaeth, gweler erthygl blog flaenorol y Gwasanaeth Ymchwil ar fandio ysgolion ym mis Rhagfyr 2013.