Y posibiliadau o ran Confensiwn Cyfansoddiadol

Cyhoeddwyd 29/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

29 Medi 2014 Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru GoWA Yn dilyn refferendwm yr Alban, pan bleidleisiodd yr Alban i aros yn y Deyrnas Unedig ond pan bleidleisiodd lleiafrif sylweddol i adael, mae gwleidyddion o bob plaid yn cytuno bod yn rhaid i drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig newid. Fodd bynnag, hyd yma nid oes cytundeb ynghylch yr hyn y dylid ei wneud a sut y dylid ei gyflawni. Cyhoeddodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ei fod yn sefydlu Comisiwn o dan arweiniad yr Arglwydd Smith o Kelvin i weithredu'r ymrwymiadau ar gyfer pwerau newydd i'r Alban, a phenododd is-bwyllgor y Cabinet o dan arweiniad William Hague AS i ddatblygu cynigion ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Fodd bynnag, addawodd arweinydd y Blaid Llafur, Ed Miliband AS, gonfensiwn cyfansoddiadol a fyddai'n cael ei gynnal yn ystod hydref 2015. Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, wedi bod yn galw am gonfensiwn cyfansoddiadol ers dwy flynedd ac ailadroddodd yr alwad honno yn ei araith yng Nghynhadledd y Blaid Lafur ar 22 Medi 2014. Yn 2012 cynhaliodd Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin ar Ddiwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol ymchwiliad i a oedd angen confensiwn cyfansoddiadol ar y Deyrnas Unedig. Cyhoeddodd ei adroddiad ym mis Mawrth 2013 a daeth i'r casgliad bod rhwyfaint o ddadl dros gael confensiwn i edrych ar strwythur cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor o'r farn ei bod yn rhaid rhoi sylw i gynrychiolaeth Lloegr yn y Deyrnas Unedig yn gyntaf, o bosibl drwy rag-gonfensiwn. Yn ei hymateb dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig nad oedd o blaid y naill gynnig na'r llall. Mae galwadau eraill am gonfensiwn wedi dod o du'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol ac mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol drwy ddulliau “torfol" i drafod yr hyn y dylai Cymru ofyn amdano yn y trafodaethau. Mae rhai confensiynau cyfansoddiadol diweddar wedi cael eu nodi fel modelau da i'r Deyrnas Unedig eu hefelychu, sef confensiwn yr Alban yn fwyaf nodedig a gyfarfu rhwng 1989 a 1995 a chonfensiynau Gweriniaeth Iwerddon a Gwlad yr Iâ. Fodd bynnag, mae'n bosibl na fydd yr un o'r rhain yn darparu model priodol ar gyfer confensiwn cyfansoddiadol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan oherwydd materion yn ymwneud ag aelodaeth ac amseriad. Roedd confensiwn cyfansoddiadol yr Alban, a sefydlwyd yn 1989, yn cynnwys cynrychiolaeth o undebau llafur, busnesau, llywodraeth leol, eglwysi a grwpiau eraill cymdeithas sifil. Fodd bynnag, nid oedd yn gonfensiwn trawsbleidiol. Roedd Plaid Lafur yr Alban, Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban a rhai o'r pleidiau llai yn rhan ohono, ond tynnodd yr SNP yn ôl ar ôl ei gyfarfod cyntaf ac nid ymunodd Plaid Geidwadol yr Alban â'r confensiwn. Drwy weithgorau amrywiol llwyddodd y confensiwn i ddatblygu cynigion manwl a chydsyniol a fyddai'n gosod y sail ar gyfer Senedd yr Alban. Fodd bynnag, dylid nodi bod hynny wedi cymryd chwe mlynedd. Mae'n annhebygol y gallai confensiwn y Deyrnas Unedig gael ei gynnal heb gynnwys y blaid sy'n llywodraeth ar y pryd, neu y gallai gymryd chwe mlynedd. Sefydlwyd Confensiwn Cyfansoddiadol Iwerddon gan y Dáil ym mis Gorffennaf 2012. Ei gylch gwaith oedd ystyried ystod eang o faterion yn amrywio o leihau tymor swydd y Llywydd i bum mlynedd a'i gysoni ag etholiadau lleol ac Ewropeaidd, i gael gwared ar y drosedd o gabledd o'r Cyfansoddiad. Roedd 10 o gynrychiolwyr yn rhan o'r confensiwn, 66 ohonynt wedi eu dewis fel cynrychiolwyr poblogaeth Gweriniaeth Iwerddon. Ceir manylion am sut y cawsant eu recriwtio yma. Roedd y 33 aelod arall yn cynnwys cynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol a grwpiau yn y Dáil a'r Seanad wedi'u henwebu ar sail eu cryfderau yn yr Oireachtas. Gwahoddwyd pleidiau gwleidyddol Gogledd Iwerddon i enwebu un cynrychiolydd yr un (dewisodd yr Alliance Party, y Blaid Werdd, Sinn Féin, a'r SDLP gymryd rhan). Cafodd cadeirydd annibynnol ei benodi. Cyfarfu'r confensiwn am y tro cyntaf yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Rhagfyr 2012 ac roedd yn rhaid iddo gwblhau ei orchwyl o fewn 12 mis. Cynhaliwyd cyfarfodydd llawn ar bob pwnc, lle y clywodd y cynrychiolwyr gan arbenigwyr a siaradwyr allanol. Yna, cafwyd pleidlais ar y mater. Roedd modd i aelodau'r cyhoedd hefyd gyflwyno eu barn. Mae angen i newidiadau i'r cyfansoddiad Gwyddelig gael eu cadarnhau drwy refferendwm. Rhaid i Lywodraeth Iwerddon gyflwyno cynigion ar gyfer mynd ymlaen â'r rhain. Mae rhai sylwebwyr yn cyfeirio at Wlad yr Iâ fel enghraifft o greu cyfansoddiad drwy ddulliau "torfol". Yn sgil etholiad seneddol Gwlad yr Ia yn 2009 ddaeth llywodraeth glymblaid i rym rhwng y Gynghrair Ddemocrataidd Gymdeithasol a'r Mudiad Gwyrdd Adain Chwith. Addawodd y llywodraeth newydd y byddai'n creu cyfansoddiad newydd yn dilyn adolygiad o feysydd cyffredinol y cyfansoddiad. Roedd proses gyfansoddiadol Gwlad yr Iâ yn cynnwys tair nodwedd gwahanol. Y nodwedd gyntaf oedd y Fforwm Cenedlaethol-ymgynghoriad yn cynnwys 950 o ddinasyddion a samplwyd ar hap ac a oedd yn cynrychioli demograffeg y wlad. Daethpwyd â'r dinasyddion hyn ynghyd mewn cyfarfod un-dydd a gofynnwyd iddynt restru'r egwyddorion a'r gwerthoedd y byddent yn hoffi eu gweld yn cael eu hymgorffori yng nghyfansoddiad Gwlad yr Iâ. Rhestrwyd, ymhlith pethau eraill, hawliau dynol, democratiaeth, tryloywder, mynediad cyfartal i ofal iechyd ac addysg, rheoleiddio'r sector ariannol yn llymach, a pherchnogaeth gyhoeddus o adnoddau naturiol Gwlad yr Iâ. Yr ail nodwedd anarferol oedd cynulliad o ddrafftwyr cyfansoddiad wedi'u dewis o gronfa o 522 o ddinasyddion a oedd yn eithrio gwleidyddion proffesiynol yn fwriadol. Y drydedd nodwedd anarferol oedd y penderfyniad gan y 25 o ddrafftwyr cyfansoddiad a ddewiswyd i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i sicrhau bod y broses yn agored i weddill y dinasyddion a chasglu adborth ar 12 o ddrafftiau olynol. Roedd modd i unrhyw un â diddordeb yn y broses gyflwyno sylwadau ar y testun gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter, neu ddefnyddio e-bost a'r post arferol. Gyda'i gilydd, cynhyrchodd y fenter dorfol tua 3,600 o sylwadau ar gyfer cyfanswm o 360 o awgrymiadau. Rhoddodd y refferendwm dilynol gymeradwyaeth glir, ond heb fod yn rhwymol, i'r cyfansoddiad gan etholwyr Gwlad yr Iâ. Fodd bynnag, roedd angen i'r cynigion gael eu pasio fel cynnig yn yr Althingi. Nid yw hyn wedi digwydd eto oherwydd bod Llywodraeth newydd wedi'i hethol. Mae'r achosion yng Ngwlad yr Iâ ac Iwerddon yn codi cwestiynau am aelodaeth o Gonfensiwn y Deyrnas Unedig. Gan dybio y bydd y confensiwn yn cynnwys cymysgedd o seneddwyr a dinasyddion wedi'u hethol neu wedi'u dewis ar hap, a fyddai nifer y cynrychiolwyr seneddol yn adlewyrchu maint gwahanol rannau'r Deyrnas Unedig? Hefyd, sut y byddai'r dinasyddion yn cael ei dewis - o blith rhannau unigol o'r Deyrnas Unedig? Sut y byddai poblogaeth sylweddol fwy Lloegr yn cael ei hadlewyrchu? A allai'r confensiwn gael ei sefydlu ar sail "ffederal" gyda phob dirprwyaeth yn cael cydraddoldeb a feto? Dyma rai o'r cwestiynau y mae'n rhaid eu hateb cyn i Gyfansoddiad y Deyrnas Unedig gael ei sefydlu. Fel y dywedodd yr Athro James Mitchell, o Brifysgol Caeredin, yn ei dystiolaeth i'r Pwyllgor ar Ddiwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol: 'Given current constitutional arrangements with devolved governments in three components of the UK, there will be a need to accommodate a territorial dimension in membership. In other words, a Convention that was based solely on population would lose legitimacy in Scotland, Wales and Northern Ireland. On the other hand, a Convention that gave equal representation to the components of the UK state of unions would have little legitimacy in England. Agreeing the composition of the Convention would require compromises of the sort that might be the very subject of its deliberations. Indeed, it might prove as easy to agree on a new constitutional settlement for the UK as on how to constitute any Convention.'