Y Bil Cynllunio (Cymru)

Cyhoeddwyd 06/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

06 Hydref 2014 Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1625" align="alignright" width="200"]planning Llun: o FreeFoto. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi cyflwyno Bil Cynllunio (Cymru) heddiw a disgwylir iddo wneud Datganiad Llafar yn y Siambr ddydd Mawrth 7 Hydref 2014. Gellir gweld y Bil, fel y'i cyflwynwyd, a'r Memorandwm Esboniadol ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yma. Yn ei ddatganiad llafar ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol ym mis Gorffennaf 2014, nododd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru am i gymunedau allu dylanwadu ar y ffordd y mae lleoedd yn datblygu ac yn newid, ac mae am gael gwared ar rwystrau rheoliadol sy'n atal twf busnesu. Er mwyn cyflawni hynny, dywedodd:
… byddwn angen system gynllunio gadarnhaol, sy'n hwyluso, yn hytrach na rhwystro datblygiad; system gynllunio a fydd yn ein helpu i gyflenwi'r cartrefi, y swyddi a'r seilwaith y mae Cymru eu hangen. (…) Bydd yn darparu ar gyfer fframwaith darparu gwasanaeth modern a fydd yn ategu ein diwygiadau arfaethedig i wasanaethau cyhoeddus
Y newidiadau allweddol y mae'r Bil am eu cyflwyno yw:
  • Rheidrwydd ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cenedlaethol ar gyfer defnyddio tir, a elwir yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, i ddisodli Cynllun Gofodol Cymru nad yw wedi cael ei ddiweddaru er 2008;
  • Llunio Cynlluniau Datblygu Strategol i fynd i'r afael â materion trawsffiniol sy'n fwy nag awdurdodau lleol;
  • Rhai newidiadau i weithdrefnau Cynlluniau Datblygu Lleol;
  • Dechrau dwyd i'r broses rheoli datblygiad drwy wneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cyn ymgeisio;
  • Cyflwyno categori newydd o ddatblygu a elwir yn "Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol" a gaiff eu penderfynu gan Weinigodion Cymru - mae'r rhain yn geisiadau cynllunio mawr a gaiff eu penderfynu ar hyn o bryd gan Awdurdodau Cynllunio Lleol.
  • Newidiadau i symleiddio'r system rheoli datblygiadau;
  • Newidiadau i weithdrefnau gorfodi ac apelio; a
  • Gwahardd ceisiadau rhag cael eu gwneud i gofrestru tir fel maes tref neu bentref pan fo'r tir eisoes yn rhan o'r system gynllunio – gan adlewyrchu newidiadau a wnaed eisoes yn Lloegr gan Ddeddf Lleoliaeth 2011.
Ar y cyfan, mae'r Bil yn ceisio diwygio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig Bil Cydgrynhoi Cynllunio hefyd, ond nid yw hyn bellach yn debygol o gael ei gyflwyno tan y Pumed Cynulliad. Cafodd y syniad o Fil Cynllunio ar wahân ar gyfer Cymru ei drafod gyntaf gan Bwyllgor Cynaliadwyedd y Trydydd Cynulliad ar ddechrau 2011. Yn dilyn ymchwiliad i'r system gynllunio, argymhellodd y Pwyllgor "y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Deddf Cynulliad i atgyfnerthu deddfwriaeth cynllunio defnydd tir gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion gwahanol Cymru." Cafodd y syniad, wedyn, ei gynnwys yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar ôl etholiad mis Mai 2011. Sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Cynghori Annibynnol i adolygu'r gwaith o weithredu'r system gynllunio yng Nghymru fel rhan o'r sail dystiolaeth ar gyfer Papur Gwyn a fyddai'n arwain at Fil Cynllunio i Gymru yn y pen draw. Cyhoeddodd y Grŵp Cynghori Annibynnol ei adroddiad ym mis Mehefin 2012 a oedd yn cynnwys 97 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae nifer o adroddiadau ymchwil eraill ar wahanol agweddau ar y system gynllunio sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Bil. Yna, ym mis Rhagfyr 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cynllunio Cadarnhaol, sef papur ymgynghori ar ddiwygio'r system gynllunio yng Nghymru. Cyhoeddwyd Bil Cynllunio (Cymru) drafft ar yr un pryd. Yn ôl y papur ymgynghori, "Rydym yn bwrw ymlaen â llawer o'r cynigion a gyflwynwyd gan yr GCA." Roedd yr ymgynghoriad Cynllunio Cadarnhaol yn ymwneud â mwy na'r Bil yn unig, gan ei fod hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer is-ddeddfwriaeth newydd, canllawiau a newidiadau i bolisi cynllunio a hyfforddiant. Un o themâu allweddol y papur oedd yr angen am 'newid diwylliant' yn y system gynllunio. Daeth cyfnod yr ymgynghoriad i ben ar 26 Chwefror 2014. Cynhaliodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd waith craffu cyn deddfu ar y Bil drafft a'r pecyn ehangach o gynigion Cynllunio Cadarnhaol yn gynharach eleni. Adolygodd y sail dystiolaeth a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i lywio ei gynigion, gan gynnwys gwaith y grŵp cynghori annibynnol ac ystyriodd sut yr adlewyrchwyd hyn yng nghynigion y Llywodraeth. Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Tai ac Adfywio ym mis Ebrill 2014, gan nodi ei farn ar y pecyn diwygio a'r Bil drafft. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol rhwng y cynigion a nodwyd yn y Bil drafft a'r fersiwn ddiwygiedig a gyflwynir heddiw. Bydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr a bydd yn lansio ymgynghoriad ddiwedd yr wythnos hon.