Goresgyniad y ffromlys chwarennog yng Nghymru

Cyhoeddwyd 08/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

8 Hydref 2014

Erthygl gan Jack Goode, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Data’r ffromlys chwarennog hyd at 2014 [caption id="attachment_1635" align="aligncenter" width="682"]Gwybodaeth o ddata'r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol: 25 Medi 2014 Gellir gweld rhai systemau dyfrffrrdd yn glir e.e. afon Wysg, afon Gwy ac afon Tyw Gwybodaeth o ddata'r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol: 25 Medi 2014 Gellir gweld rhai systemau dyfrffrrdd yn glir e.e. afon Wysg, afon Gwy ac afon Tyw[/caption]

Rhywogaeth chwyn oresgynnol yw’r ffromlys chwarennog ac mae i’w weld yn fwyfwy cyffredin ar hyd afonydd a dyfrffyrdd Cymru. Er iddo gael i gyflwyno gyntaf ym 1839 fel planhigyn rhad i’w blannu yn lle tegeiriannau a oedd yn cael eu tyfu’n gonfensiynol, dechreuodd ledaenu’n gyflym ledled y DU. Mae’n llwyddo i dyfu’n eithriadol o gyflym gan deithio ar hyd basn afonydd. Caiff yr hadau eu lledaenu mewn ffordd arbennig o effeithiol wrth i’r bwlb ffrwydro gan wasgaru’r hadau’n eang. Mae’r ffromlys hefyd yn defnyddio peillwyr i ledaenu gan ei fod yn cynhyrchu llawer iawn o neithdar sy’n denu rhywogaethau peillwyr oddi wrth blanhigion brodorol eraill. Mae’r ffromlys hefyd yn tyfu’n arbennig o dda os yw afonydd a llynnoedd wedi’u hewtroffeiddio, ac mae hynny’n broblem mewn rhai ecosystemau yng Nghymru. Bydd yr holl ffactorau hyn yn cyfuno i roi mantais gystadleuol i’r ffromlys dros rywogaethau brodorol gan gadarnhau ei fod yn rhywogaeth oresgynnol gref.

Yng Nghymru, mae twf y ffromlys chwarennog yn creu cymaint o broblem nes bod ecosystemau brodorol yn cael eu tanseilio. Mae data cyfredol (ffig 1) yn dangos i ba raddau y mae'r ffromlys chwarennog wedi ymledu yng Nghymru. Yn ogystal â dihysbyddu adnoddau o'r ecosystem, mae'r ffromlys hefyd yn erydu glannau afonydd; pan fydd yn marw yn yr hydref, bydd yn gadael y pridd yn agored i'r tywydd ac mae'n dadsefydlogi glannau'r afonydd. Yn 2013 dywedodd Swyddfa Ryngwladol Amaethyddol y Gymanwlad, asiantaeth ymchwil rhynglywodraethol, eu bod yn amcangyfrif bod £300 miliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar reoli'r ffromlys chwarennog yn y DU, yn ogystal â chostau anuniongyrchol sy'n gysylltiedig ag erydu, a rheoli dŵr. Mae twf y ffromlys chwarennog hefyd wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn pryfed cop, chwilod a rhywogaethau pryfed eraill.

Er mwyn rheoli ymlediad y ffromlys chwarennog mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr wedi trefnu "ymgyrchoedd i ladd y ffromlys" pan gaiff ystodau mawr o'r

ffromlys eu torri a chaiff y gwreiddiau eu dinistrio rhag iddynt aildyfu. Er bod hyn yn effeithiol iawn yn y tymor byr, mae Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr yn amau a fydd yr effaith yn parhau yn y tymor hir gan fod perygl y caiff hadau eu gwasgaru drachefn oherwydd y broses. Hefyd, maen bosibl y bydd y broses yn gadael tir heb ei drin yn fwy agored i blanhigion goresgynnol eraill fel canglwm Japan, er nad yw maint y broblem hon yn amlwg ar hyn o bryd. Dull arall sydd i'w weld yn llwyddo yn yr ymdrech i reoli'r ffromlys yw lleihau ewtroffeiddio a sicrhau nad yw cynefinoedd ar lannau afonydd yn hybu twf y ffromlys chwarennog.

Gwnaed gwaith ymchwil ar wyth o safleoedd yng Nghymru i fonitro dosbarthiad y chwynnyn hwn, ei effaith ar yr ecosystemau brodorol a'r arfer gorau ar gyfer ei rwystro rhag lledaenu. Un ardal o ddiddordeb penodol yng Nghymru yw afon Ystwyth, lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymdrechu'n ddygn i gael gwared ar y ffromlys chwarennog a gwrthdroi effeithiau'r rhywogaeth oresgynnol hon. Roedd pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar hyd afon Ystwyth a oedd yn golygu bod hon yn ardal arbennig o bwysig i'w gwarchod rhag goresgyniad y ffromlys. I gael gwared ar y ffromlys, roedd yn rhaid tynnu pob mymryn o'r planhigion a'r gwraidd o'r pridd. Roedd hwn yn waith hynod o lafurus. Yna roedd angen gadael gweddillion y planhigion i sicrhau eu bod yn marw cyn eu symud o'r safle. Felly, er bod y prosiect ar hyd afon Ystwyth wedi dechrau yn 2009, erbyn mis Medi 2013 dim ond dwy ran o dair o'r ardal arfaethedig a oedd wedi'i drin.

I osgoi'r broses hirfaith hon, mae gwaith ymchwil wedi'i gynnal i'r ffromlys chwarennog a'i

amgylchfyd brodorol ym mynyddoedd Himalaya i gael hyd i ddulliau o'i reoli. O ganlyniad i'r astudiaethau hyn, darganfuwyd Puccinia komarovii, ffwng rhwd naturiol ac un o barasitiaid y planhigyn; mae'n arafu twf y ffromlys ac yn lleihau ei fantais gystadleuol dros rywogaethau brodorol. Cadarnhawyd ei bod yn ddiogel defnyddio'r parasit hwn drwy gynnal profion gydag amrywiaeth eang o rywogaethau brodorol i weld a fyddai'r ffwng yn effeithio arnynt. Ychydig iawn o sgil-effeithiau a gafwyd. Yna, cynhaliwyd treialon yn Berkshire Cernyw a Middlesex a chafwyd canlyniadau addawol; ers hynny, mae DEFRA wedi cynnal ymgynghoriad ynghylch rhyddhau'r ffwng a daethpwyd i'r casgliad ei bod yn ddiogel gwneud hynny.