Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol ar gyfer 2015-16

Cyhoeddwyd 10/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Hydref 2014 Erthygl gan Richard Bettley a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ar 8 Hydref 2014, cyhoeddodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus gynigion ar gyfer ariannu Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 2015-16. Mae'r nodyn hwn yn rhoi crynodeb o'r prif bwyntiau, ac mae'r ffeithlun yn dangos yr arian a ddyrennir fesul Awdurdod Lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion pellach am sut y mae wedi dyrannu arian hefyd. Setliad Refeniw Cyffredinol
  • Cyfanswm cyllid refeniw Llywodraeth Leol ar gyfer 2015-16 o £4.124 biliwn, sy'n ostyngiad o £146 miliwn neu 3.4% o'i gymharu â 2014-15.
  • Mae gostyngiadau yn amrywio rhwng 2.4% o ostyngiad yng Nghastell-nedd Port Talbot a 4.5% o ostyngiad yng Ngheredigion.
Cynlluniau ariannu allweddol yn y Setliad:
  • Mae'n cynnwys diogelu ysgolion ar 1% yn uwch na'r newid cyffredinol yng Nghyllideb Refeniw Llywodraeth Cymru.
  • Mae'n cynnwys £244 miliwn ar gyfer cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.
  • Mae'n cynnwys £10 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol lleol.
Arian a drosglwyddwyd i mewn i'r Setliad
  • £13.5 miliwn i'r Grant Cymorth Refeniw o gyllid a ddarparwyd yn y gorffennol drwy grantiau a glustnodwyd.
Mae hyn yn cynnwys:
  • £8 miliwn i gefnogi'r costau o gyllido Ysgolion yr 21ain
  • £4.6 miliwn ar gyfer Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd integredig rhanbarthol.
  • £880,000 ar gyfer datblygu strategaethau Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth.
Arian a drosglwyddwyd allan o'r Setliad
  • £2.5 miliwn ar gyfer canoli gwasanaethau gweinyddol cyllid myfyrwyr a throsglwyddo cyfrifoldebau Awdurdodau Lleol i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (Cymru).
  • £490,000 ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid.
  • £450,000 ar gyfer hyfforddi seicolegwyr addysgol.
 Lleddfu Mae'r dull lleddfu yn sicrhau na fydd yr un awdurdod yn gweld gostyngiad o fwy na 4.5% mewn dyraniadau (ar ôl ychwanegu cyllid ar gyfer Mentrau Benthyca Awdurdodau Lleol a'r Fenter Cyllid Preifat). Arian cyfalaf Y Setliad Cyfalaf Dros Dro i Lywodraeth Leol ar gyfer 2015-16 yw £397 miliwn, sef gostyngiad o £4.8 miliwn neu 1.2% o'i gymharu â 2014-15. Local Government Provisional Settlement Welsh-01