Diweddariad am Dlodi Plant: Adroddiad y DU yn dweud fod ‘Prydain ar fin bod yn genedl ranedig barhaol’.

Cyhoeddwyd 20/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

20 Hydref 2014 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1715" align="alignright" width="100"]Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae ail Adroddiad Blynyddol Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU (SMCP) ar Gyflwr y Genedl, a gyhoeddir heddiw, yn nodi fod ‘Prydain ar fin bod yn genedl ranedig barhaol’. Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb am rai o’r ysgogiadau polisi allweddol mewn perthynas â thlodi plant: fel lles a nawdd cymdeithasol, polisi cyllidol a macro-economaidd. Mae’r meysydd polisi eraill sy’n effeithio ar dlodi plant fel addysg, iechyd a datblygiad economaidd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru. Ym mis Gorffennaf 2014 fe wnaethom adrodd mai 'Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o dlodi plant o holl genhedloedd y DU'  a bod yr SMCP wedi dweud yn flaenorol ar lefel y DU ‘fod angen i arweinwyr y pleidiau ar draws y sbectrwm gwleidyddol bellach fod yn onest ynglŷn â’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i fodloni’r rhwymedigaeth gyfreithiol i roi terfyn ar dlodi plant erbyn 2020’. Mae tlodi plant wedi cael lle amlwg ar yr agenda wleidyddol ers 1999, pan wnaeth Tony Blair, y Prif Weinidog ar y pryd, ymrwymiad i haneru tlodi plant erbyn 2010, a’i ddileu erbyn 2020. Cafodd y targed ei gynnwys yn y gyfraith yn ddiweddarach yn y Ddeddf Tlodi Plant 2010. Corff cyhoeddus anadrannol, ymgynghorol yw’r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant.  Fe’i sefydlwyd o dan Ddeddf Tlodi Plant 2010. Ei gylch gwaith yw monitro cynnydd y Llywodraeth ac eraill gyda thlodi plant a symudedd cymdeithasol. Cafodd adroddiad yr SMCP ei osod gerbron Senedd y DU a gallwch ddarllen mwy am ei ganfyddiadau manwl yma.