Prisiau Llaeth

Cyhoeddwyd 30/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

30 Hydref 2014 Erthygl gan Jack Goode, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1751" align="alignnone" width="300"]Dairy farm Llun: geography.org.uk gan Richard Croft. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Yn ystod yr haf, mae'r prisiau a delir i ffermwyr llaeth am laeth hylif wedi bod yn gostwng. Gostyngodd Arla y pris a delir i ffermwyr ym mis Ebrill o 33.74 ceiniog y litr gan 1.27 ceiniog y litr neu 3.8%. Ers hynny, mae prynwyr eraill hefyd wedi cyhoeddi gostyngiadau yn y pris a delir i ffermwyr. Caiff y gostyngiadau mewn prisiau hyd yma eu crynhoi yn Nhabl 1: Tabl 1: Y newid ym mhrisiau llaeth y DU rhwng Ebrill a Thachwedd 2014  table1-cy Ffynhonnell: Datwm Dairy Co Mae'n bwysig nodi'r gostyngiad yn y prisiau a dalodd First Milk gan fod 1 o bob 3 o ffermwyr llaeth Cymru yn cyflenwi llaeth i First Milk. Mae prynwyr a phroseswyr llaeth wedi dweud bod y pris dirywiol a delir i ffermwyr yn adlewyrchu cyflwr y farchnad fyd-eang. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar y farchnad fyd-eang, bu gostyngiad o 51% ym mhris llaeth ers mis Medi 2013 pan dalwyd y pris uchaf erioed am laeth. Er bod y DU yn cael ei chysgodi'n rhannol rhag effeithiau'r farchnad fyd-eang o ganlyniad i farchnad sydd wedi'i mewnoli'n sylweddol, mae economeg y sefyllfa wedi dechrau cael effaith sylweddol ar sector llaeth y DU. Ers prisiau digyffelyb 2013, mae ffermwyr y DU wedi sicrhau cynnyrch uwch o laeth fesul buwch, gan arwain at gynnydd yn y cyflenwad. Ynghyd â'r cyflenwad cynyddol hwn mae'r galw byd-eang wedi gostwng, gan orfodi prisiau i ostwng. Un rheswm am y gostyngiad yn y galw yw'r diffyg masnachu gyda Rwsia. Yn dilyn y sefyllfa yn yr Wcrain yn 2014 cafodd gwaharddiadau mewnforio eu cyflwyno gan yr Undeb Ewropeaidd gan atal allforion llaeth i'r farchnad hon. Rheswm arall am y gostyngiad yn y galw yw llai o weithgarwch yn y farchnad gan Tsieina, yn dilyn gweithgareddau pentyrru yn 2013. Yn y gorffennol, mae'r Sector Llaeth wedi gweld gostyngiadau sydyn ym mhris llaeth; cafwyd enghraifft benodol o hyn yn 2012. Ar yr achlysur hwn dechreuodd argyfwng ym mhrisiau llaeth oherwydd cwymp mewn prisiau byd-eang wedi'i gyfuno â chontractau archfarchnad ymosodol yn ôl Dairy UK. O ganlyniad i'r caledi a wynebir gan ffermwyr a'r effaith ar sector llaeth y DU, datblygwyd cod ymarfer gwirfoddol i reoli'r berthynas gytundebol rhwng cynhyrchwyr llaeth a'r proseswyr y maent yn gwerthu iddynt. Mae'r cod yn berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban ac ers mis Mawrth 2013, amcangyfrifir bod 85% o laeth Prydain yn arddel egwyddorion y cod gwirfoddol. Mae'r cod yn caniatáu i ffermwyr unigol gyd-drafod contractau ac yn rhoi'r gallu iddynt adael contract yn haws os bydd prisiau'n newid. Ddwy flynedd ar ôl cyflwyno'r cod, cynhaliwyd adolygiad i asesu effeithiolrwydd y cod. Cafodd yr adroddiad o'r asesiad hwn ei gyhoeddi ar 6 Hydref 2014. Canfu'r adolygiad fod y cod, lle cafodd ei weithredu'n llawn, wedi arwain at newid cadarnhaol ond bod angen mabwysiadu'r cod yn ehangach ar draws y sector. Gwnaed saith argymhelliad penodol yng nghanfyddiadau'r adolygiad gan gynnwys dau eglurhad er mwyn sicrhau nad oedd y cod presennol yn cael ei gamddehongli. Ar ôl ei gyhoeddi, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ei bod yn lansio adolygiad annibynnol o'r diwydiant llaeth yng Nghymru. Mae cylch gorchwyl yr adolygiad eto i'w gwblhau. Ceir rhagor o wybodaeth am y Sector Llaeth yn Nodyn Ymchwil y Sector Llaeth.