Diwylliant a thlodi: a all diwylliant chwarae rôl bwysicach wrth sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru?

11 Tachwedd 2014

Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: flickr gan Tim Norris. Dan drwydded Creative Commons

Llun: flickr gan Tim Norris. Dan drwydded Creative Commons

Ym mis Gorffennaf 2013, gofynnodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon ar y pryd i’r Farwnes Kay Andrews ymchwilio i sut y gallai cyrff diwylliant a threftadaeth ledled Cymru gyfrannu’n fwy effeithiol at leihau tlodi. Lansiwyd yr adroddiad dilynol ym mis Mawrth 2014. Roedd y gwaith hwn yn ategu adroddiad yr Athro Dai Smith, sef Y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2013.

Yn yr adroddiad ar Ddiwylliant a Thlodi, mae’r Farwnes Andrews yn defnyddio diwylliant i gyfeirio at y celfyddydau, treftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a’r cyfryngau. Mae’n gwneud 33 o argymhellion, sydd wedi’u targedu at bob sefydliad sy’n ymwneud a diwylliant a threftadaeth yng Nghymru, o Lywodraeth Cymru i’r sefydliadau diwylliannol eu hunain. Mae’r argymhellion hyn yn rhan o bedair prif thema:

  • Cyfleoedd newydd i ysgogi newid, mewn cydweithrediad, drwy wybodaeth ac adnoddau – yn genedlaethol ac yn lleol iawn;
  • Cyfleoedd newydd i ddwyn polisïau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ynghyd mewn ffyrdd ymarferol, o ddylunio polisi, i ddarparu’r polisi yn ymarferol – yn genedlaethol ac yn lleol.
  • Ffyrdd newydd o ddileu rhwystrau a mynediad at sefydliadau diwylliannol cenedlaethol, a chreu fframweithiau newydd ar gyfer ymgysylltiad a darpariaeth leol; ac
  • Adnoddau, cyfleoedd hyfforddi a mentrau newydd i ddarparu cymorth ar y cyd a ffyrdd gwell o gyrraedd plant, pobl ifanc ac oedolion.

Mae’r adroddiad yn nodi bod y rhan fwyaf o’r hyn a gynigir er mwyn gwneud i gyfalaf ac anoddau dynol Cymru weithio’n galetach. O bosibl, gall hyn fod am y gorau, gan fod cyllideb ddrafft ddiweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos gostyngiad yn y dyraniadau ar gyfer sector y celfyddydau, amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, yr amgylchedd hanesyddol a naturiol, y cyfryngau a’r sector cyhoeddi.

Mae toriadau sylweddol yng nghyllidebau llywodraeth leol hefyd yn golygu bod llai o arian ar gael i gefnogi’r gwasanaethau hyn sydd, gan amlaf, yn anstatudol ar lefel awdurdod lleol yng Nghymru. O ganlyniad i hyn, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi mynegi pryder ynghylch gallu awdurdodau lleol i helpu i drechu tlodi drwy ddiwylliant, gan ddweud:

In light of the budget demands and pressures, the WLGA is concerned about the level of contribution and expectation local authority culture and art services can play in the near future towards tackling poverty and improving the lives of the most disadvantaged; the Association also believes that a shortfall in funding is more than likely to create a barrier to cultural participation and accessibility within communities.

(The impact of reduced support by Local Authorities for cultural & art service provisions, CLlLC, Hydref 2014)

Yn ddiweddar, trafododd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ddyraniadau cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru â’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. O ran arian ar gyfer sector y celfyddydau, cododd yr Aelodau sylwadau gyda’r Dirprwy Weinidog o Asesiad Effaith Integredig Strategol y Llywodraeth, sy’n nodi ei bod yn debygol y bydd y toriadau arfaethedig i gyllideb Cyngor Celfyddydau Cymru yn arwain at rywfaint o effeithiau negyddol i blant a phobl ifanc, pobl ag anabledd, grwpiau economaidd-gymdeithasol is, datblygu cynaliadwy a’r Gymraeg.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog nad yw’r gydberthynas yn glir iawn rhwng faint yr ydych yn ei gyfrannu o ran cyllid refeniw a chyfranogiad. Yn wir, awgrymodd y byddai’r gwaith a wnaed o ganlyniad i’r adroddiad ar Ddiwylliant a Thlodi, yn ogystal â’r adroddiad blaenorol, sef Y Celfyddydau mewn Addysg, yn arwain at gynnydd mewn cyfranogiad yn y celfyddydau. Fodd bynnag, cyfaddefodd y cred y byddai effeithiau negyddol, ond na fyddai’r rhain o reidrwydd yn effeithio ar grwpiau blaenoriaeth y Llywodraeth hon.

Teimla fod y llythyr cylch gwaith blynyddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei anfon at y Cyngor Celfyddydau yn allweddol i leihau effaith niweidiol y toriadau hyn. Mae’r llythyr ar gyfer 2014-15, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2014, yn nodi bod yn rhaid i’r Cyngor Celfyddydau ymateb i’r argymhellion o’r adroddiad ar Ddiwylliant a Thlodi, yn ogystal â cheisio trechu tlodi yn ehangach drwy’r celfyddydau.

Trafododd y Pwyllgor â’r Dirprwy Weinidog hefyd, a allai Cadw ddenu rhagor o ymwelwyr o gefndiroedd dan anfantais i’w hatyniadau treftadaeth, o ystyried y toriadau arfaethedig i’w gyllidebau cyfalaf a refeniw. Unwaith eto, nododd y Dirprwy Weinidog bwysigrwydd yr adroddiad ar Ddiwylliant a Thlodi, gan ddweud, o ran ehangu mynediad, bod potensial drwy waith Dai Rees a’r Farwnes Andrews i ddenu pobl na fyddent fel arall yn ymweld â safleoedd hanesyddol, ac yn wir, amgueddfeydd a llyfrgelloedd i wneud hynny.

Pan ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog yn dilyn y sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft, mynegodd ei bryder ynghylch effaith y toriadau ar gyfranogiad grwpiau dan anfantais mewn diwylliant a threftadaeth.

Dywedodd y Farwnes Andrews y cafodd yr adroddiad ar Ddiwylliant a Thlodi ei gomisiynu gan Weinidogion gyda’r argyhoeddiad fod gan ddiwylliant yng Nghymru rôl fwy i’w chwarae wrth sicrhau cyfiawnder cymdeithasol. Mae’n amlwg, o ystyried y gostyngiad hwn mewn adnoddau, y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid ddod o hyd i ffyrdd newydd a mwy clyfar o weithio er mwyn sicrhau y gall diwylliant chwarae’r rôl hon.