Denu’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr

Cyhoeddwyd 12/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Tachwedd 2014 Erthygl gan Jack Goode, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1839" align="aligncenter" width="682"]Delwedd gyhoeddus drwy Public Domain Image Delwedd gyhoeddus drwy Public Domain Image[/caption]

Mae’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd wedi rhyddhau datganiad am y camau sy’n cael eu cymryd i ddenu’r genhedlaeth o ffermwyr. Daeth y datganiad ar ôl cyhoeddi Adroddiad Malcolm Thomas ym mis Mai 2014. Mae’r adroddiad yn nodi’r rhwystrau sy’n atal newydd-ddyfodiaid rhag dechrau gweithio yn y sector amaethyddol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn gwneud 27 o argymhellion penodol.

Un o brif gasgliadau’r adroddiad yw bod yn rhaid i un adael y sector amaethyddol yng Nghymru i wneud lle i’r nesaf. Gan fod tir amaethyddol yn brin, un o’r prif rwystrau yw bod cyn lleied yn gadael y diwydiant. Mae’r adroddiad yn nodi bod llawer o ffermwyr yn teimlo na allant roi’r gorau i ffermio am amrywiol resymau, gan gynnwys diffyg darpariaeth ar gyfer eu hymddeoliad, y dieithrwch cymdeithasol a allai ddeillio o roi’r gorau i ffermio a’r bygythiad y bydd yn rhaid gadael cartref y teulu. Mae’r adroddiad yn amlygu’r ffaith y bydd yn anodd recriwtio rhagor i’r byd amaethyddol os na chaiff y broblem yn ymwneud â gadael y diwydiant ei thrin yn effeithiol a chyda sensitifrwydd. Daw’r adroddiad i’r casgliad y gallai hyn atal arloesedd yn y diwydiant.

Un o gasgliadau eraill yr adroddiad yw bod newydd-ddyfodiaid yn ei chael yn anodd iawn cael hyd i’r cyfalaf ariannol mawr sydd ei angen. Wrth i ffermydd dyfu er mwyn gwarantu incwm, o gofio mai cymharol fach yw’r elw a wneir yn y diwydiant, mae cost tir a pheiriannau wedi codi hefyd, ac mae’n arbennig o anodd i newydd-ddyfodiaid eu sefydlu’u hunain. Nododd Adroddiad Malcolm Thomas, fodd bynnag, fod banciau’n barod i drafod â ffermwyr ac mae’n argymell y dylai’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd gyfarfod yn rheolaidd â’r banciau i sicrhau ymgysylltiad ariannol. Er mwyn cynorthwyo newydd-ddyfodiaid yn ariannol, mae’r adroddiad hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi i ddatblygu mesurau treth i geisio lleihau’r rhwystrau ariannol sy’n wynebu newydd-ddyfodiaid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 22 o’r 27 argymhelliad. O ran y pum argymhelliad a wrthodwyd, prif ddadl Llywodraeth Cymru oedd y gallai asiantaethau eraill ymdrin yn fwy effeithiol â nhw. Bwriedir rhoi’r argymhellion eraill ar waith erbyn mis Rhagfyr 2015.

Mae argymhellion Adroddiad Malcolm Thomas yn cael cefnogaeth gref gan NFU Cymru ac FUW a bu’r ddau gorff yn helpu â’r gwaith drafftio cychwynnol. Drwy gydol y broses, mae’r NFU wedi bod yn awyddus i gryfhau’r sector amaethyddol yng Nghymru ac mae’n credu y bydd y cymorth ychwanegol a gynigir gan yr argymhellion yn gam i’r cyfeiriad iawn.

Y Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid (YESS) yw’r cynllun presennol sy’n ceisio denu a chynorthwyo newydd-ddyfodiaid ifanc, o dan 40 oed, i’r sector amaethyddol. Mae’n cynnig arian, cyngor a gwasanaethau mentora am 12 mis wedi iddynt ymuno â’r sector. Daeth y cylch terfynol ar gyfer ceisiadau i ben ar 28 Hydref. Caiff y rhaglen hon ei disodli gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru a fydd ar waith rhwng mis Ionawr 2015 a 2020. Mae’r Cynllun Datblygu Gwledig yn bwriadu cadw prif brosesau YESS.