Mae'r gyfraith ar rentu cartrefi yng Nghymru ar fin newid

Cyhoeddwyd 18/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

 18 Tachwedd 2014

Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd Cymru'n gweld ail ddarn pwysig o ddeddfwriaeth tai yn 2015, ac mae'n Fil a fydd yn effeithio ar y cannoedd o filoedd o bobl sy'n byw mewn cartrefi rhent - sef tua thraean y boblogaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fynd â'r gyfraith landlord a thenant i gyfeiriad gwahanol i Loegr, gan fabwysiadu dull gweithredu sy'n canolbwyntio'n fwy ar y defnyddwyr, gan ddod ag eglurder i'r gyfraith a datrys y dryswch i landlordiaid a thenantiaid. Pam mae cynifer o bobl yn rhentu eu cartrefi beth bynnag? Mae'r farchnad osod yn un amrywiol, ac mae'n darparu ar gyfer pob math o denantiaid. Mae llawer o'r tenantiaid hynny wedi gwneud dewis cadarnhaol i rentu cartref. Bydd rhai wedi symud er mwyn bod yn agos at waith byrdymor neu i astudio, heb fwriad felly i fagu gwreiddiau. Bydd eraill, sydd efallai'n methu â chodi blaendal ar gyfer morgais, yn aros mewn fflat ar rhent tra byddan nhw'n cynilo. Bydd llawer yn rhentu oherwydd ei fod yn gyfleus i'w hamgylchiadau. Beth bynnag yw'r rhesymau dros rentu, boed hynny o ddewis neu o reidrwydd, trwy'r cyngor lleol, cymdeithas tai neu landlord preifat, dylem i gyd fod â diddordeb brwd yn y Bil Rhentu Cartrefi. [caption id="" align="aligncenter" width="623"] Llun: o Geogrpah.ie gan Albert Bridge. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae'r Bil yn benllanw prosiect a ddechreuodd dros ddegawd yn ôl, pan gafodd Comisiwn y Gyfraith y gwaith gan Lywodraeth y DU o adolygu'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr, gan ei bod yn effeithio ar gartrefi rhent. Cafodd yr adroddiad terfynol 200 tudalen, Rented Homes, ei gyhoeddi yn 2006, ynghyd â Bil drafft yn cynnwys 240 o adrannau (ac 8 atodlen). Roedd y ddogfen hir yma, sydd lawer yn fwy na Deddf Tai eleni, yn cynnig ailwampio'r gyfraith bresennol. Er gwaethaf gwaith sylweddol a thrwyadl Comisiwn y Gyfraith, penderfynodd Llywodraeth y DU (sawl blwyddyn wedi ei gyhoeddi) beidio â gweithredu'r argymhellion. Fodd bynnag, nid yw ymdrechion y Comisiwn wedi bod yn ofer. Er iddo gael ei wrthod yn Lloegr, mae gwaith y Comisiwn wedi'i dderbyn yn frwdfrydig gan Lywodraeth Cymru, a bydd y Bil Rhentu Cartrefi nawr yn bwrw ymlaen â'r prosiect hwn. Yn 2013, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ddiweddariad o'r cynigion gwreiddiol, ar gais Llywodraeth Cymru. Yn fuan wedyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Papur Gwyn ar Rentu Cartrefi, sy'n cyflwyno gweledigaeth ar gyfer gwella'r trefniadau ar gyfer rhentu cartref yng Nghymru. Roedd y Papur Gwyn yn gwneud nifer o gynigion, yn seiliedig ar waith Comisiwn y Gyfraith. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno un o ddau fath newydd o gontract yn lle y rhan fwyaf o'r tenantiaethau a thrwyddedau presennol:
  • 'Contract diogel', yn seiliedig ar denantiaeth ddiogel yr awdurdod lleol, fydd yn cael ei ddefnyddio yn bennaf yn achos darparu cartrefi hirdymor gan gynghorau a chymdeithasau tai. Ar hyn o bryd, rhaid i gynghorau a chymdeithasau tai ddarparu gwahanol fathau o denantiaeth, felly nid yw pob tenant mewn tai cymdeithasol yn cael yr un hawliau; a
  • 'Chontract safonol', a fydd yn debyg i'r denantiaeth fyrddaliol sicr gyfredol, a ddefnyddir yn bennaf yn y sector rhentu preifat, ond heb y cyfyngiad presennol o chwe mis cyn y gall landlord adennill meddiant - newid sydd â'r nod o annog gosod byrdymor.
Dylai'r contractau newydd fod yn llawer haws i'w darllen a'u deall na'r rhai presennol, er, yn eironig, efallai y byddant yn hwy, oherwydd y byddant yn gwneud yn hollol glir pa hawliau a rhwymedigaethau fydd gan y tenant a'r landlord. Ar hyn o bryd, mae llawer o landlordiaid cymdeithasol, cyfreithwyr ac asiantaethau gosod yn drafftio eu contractau eu hunain. Bydd llawer o landlordiaid preifat yn prynu contractau parod neu'n dewis peidio â defnyddio contractau ysgrifenedig o gwbl (nid yw hynny'n anghyfreithlon). Bydd y Bil Rhentu Cartrefi yn newid hyn - bydd gan denantiaid yr hawl i gontract ysgrifenedig a bydd landlordiaid yn gallu defnyddio contractiau enghreifftiol swyddogol sy'n bodloni gofynion y ddeddfwriaeth. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ar strwythur a chynllun y ddogfennaeth sy'n ymwneud â'r contractiau hyn, gan gynnwys fersiwn hawdd i'w darllen a dogfen 'Materion Allweddol' a fydd yn cynnwys manylion pwysig megis y rhent ac enwau'r holl bartïon. Nid hwyluso'r gwaith papur yw unig nod y Bil Rhentu Cartrefi - mae'n llawer mwy pwysig na hynny. Rydym yn disgwyl iddo fynd i'r afael â llawer o'r materion sy'n achosi drwgdeimlad ac anghydfod rhwng landlordiaid a thenantiaid yn ddyddiol - materion fel y rhain:
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol: Bydd modd delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a cham-drin domestig trwy ddefnyddio'r cymal 'ymddygiad gwaharddedig' safonol yn y contractiau;
  • Y sail dros gymryd meddiant: Bydd yr amgylchiadau pan y gall landlord adfeddu eiddo yn cael eu cyfyngu a'u symleiddio gan barhau i ganiatáu i landlordiaid ymdrin ag achosion o dorri contract, fel peidio â thalu rhent;
  • Cefnu ar eiddo: Bydd delio ag eiddo sydd wedi'i adael yn dod yn haws i landlordiaid. Mae Landlordiaid ar hyn o bryd naill ai'n wynebu achos hir a chostus ynghylch meddiant, neu mewn perygl o gael eu cyhuddo o droi tenantiaid allan yn anghyfreithlon pan fyddant yn meddwl, yn ddidwyll, fod tenant wedi diflannu;
  • Cyd-denantiaeth: Bydd yn haws i landlordiaid i dynnu enw cyd-denant o gontract wedi iddo adael, neu yn wir, ychwanegu enw newydd;
  • Tai â chymorth: bydd darpariaeth benodol ar gyfer darparwyr tai â chymorth fel y gallant reoli eu cartrefi yn effeithiol ac yn ddiogel;
  • Pobl ifanc dan oed: Bydd yr anawsterau y mae'r gyfraith bresennol yn eu hachosi i landlordiaid sy'n dymuno gosod eiddo i bobl 16 a 17 oed yn cael sylw; a
  • Safonau: Bydd amod safonol ym mhob contract sydd yn nodi'r disgwyl i gartrefi gwrdd â safon sylfaenol iechyd a diogelwch.
Nod yr holl newidiadau hyn yw moderneiddio a symleiddio maes cyfraith sydd wedi mynd yn gymhleth ac, yn aml i bobl gyffredin, yn amhosibl i'w ddeall. Arhoswn am fanylion y cynigion yn y Bil yn y flwyddyn newydd. Byddaf yn ysgrifennu rhagor am y Bil Rentu Cartrefi ar y blog wrth iddo fynd trwy broses graffu'r Cynulliad Cenedlaethol.