Murco: A all gweithwyr yr effeithir arnynt gael mwy o help gan yr UE?

Cyhoeddwyd 21/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Tachwedd 2014 Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1889" align="alignnone" width="640"]Llun Flikr gan Sam Whitfield. Dan drwydded Creative Commons Llun Flikr gan Sam Whitfield. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Ar 5 Tachwedd, rhoddwyd gwybod bod ymdrechion i werthu purfa olew Murco yn Aberdaugleddau fel busnes gweithredol wedi methu. Mae’n debygol y bydd y burfa yn troi’n gyfleuster storio a dosbarthu, gyda disgwyl y bydd tua 340 o 400 o swyddi’n mynd. Galwyd ar Lywodraeth y DU i wneud cais i'r UE am arian gan y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Addasu i Effeithiau Globaleiddio (yr EGF) i helpu gweithwyr yr effeithir arnynt, er nad yw eto'n eglur a yw Llywodraeth y DU - sef yr Aelod-wladwriaeth berthnasol a fyddai'n gorfod gwneud y cais - wedi gwneud hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r newyddion am golli swyddi drwy gyhoeddi (mewn Datganiadau'r Cabinet ar 5 Tachwedda 12 Tachwedd) becyn o fesurau gyda'r diben o helpu cyn-weithwyr yn uniongyrchol ac ysgogi'r economi leol. Dyma rai o'r prif bwyntiau yn ymateb Llywodraeth Cymru:
  • Parhau â gwaith tasglu Murco - fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill i geisio sicrhau dyfodol tymor hir i'r safle - o dan gadeiryddiaeth newydd Roger Evans MBE;
  • Defnyddio cynllun ReAct Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr a fydd yn colli eu swyddi, ac ystyried defnyddio cynllun ProAct Llywodraeth Cymru;
  • Gweithio gydag arweinwyr busnes i archwilio cyfleoedd i baru cyflogwyr â darpar weithwyr. Rhan o'r gwaith hwn fydd 'Ffair Swyddi' ar 10 Rhagfyr yng Nghanolfan Arloesedd y Bont;
  • Sicrhau bod cyllid pellach ar gael i fusnesau yn sir Benfro drwy gynllun Grant Bach Buddsoddi Cyfalaf Mentrau Bach a Chanolig Sir Benfro a chynnal rownd arbennig o Gronfa Twf Economaidd Cymru.
Nododd y Gweinidog hefyd y byddai'n edrych ar y defnydd o arian Ewropeaidd er mwyn cyrraedd y nodau a gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried defnyddio’r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Addasu i Effeithiau Globaleiddio. Mae Jill Evans ASE, ar wahân, wedi galw ar Lywodraeth y DU i wneud cais i'r gronfa honno, ac mae wedi ysgrifennu at Edwina Hart AC a Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar y mater hwn. Mae'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Addasu i Effeithiau Globaleiddio yn un o gronfeydd yr UE ac fe'i lluniwyd i roi cymorth i bobl sy'n colli eu swyddi o ganlyniad i newidiadau strwythurol mawr ym mhatrymau masnach y byd oherwydd globaleiddio. Gellir trefnu bod cyllid ar gael pan fydd cwmni mawr yn cau neu pan symudir gwaith cynhyrchu y tu allan i'r UE, neu pan fydd swyddi'n cael eu colli o ganlyniad i'r argyfwng economaidd ac ariannol byd-eang. Mae manylion am feini prawf cymhwysedd ceisiadau i'r gronfa ar gael yn Rheoliad yr EGF ar gyfer 2014-2020. Mae'r Rheoliad yn nodi natur y diswyddiadau at ddibenion dyfarnu grantiau fel hyn:

a) at least 500 workers being made redundant or self-employed persons' activity ceasing, over a reference period of four months, in an enterprise in a Member State, including workers made redundant and self-employed persons' activity ceasing in its suppliers or downstream producers;

b) at least 500 workers being made redundant or self-employed persons' activity ceasing, over a reference period of nine months, particularly in SMEs, all operating in the same economic sector defined at NACE Revision 2 division level and located in one region or two contiguous regions defined at NUTS 2 level, or in more than two contiguous regions defined at NUTS 2 level provided that there are more than 500 workers or self-employed persons affected in two of the regions combined.

2. In small labour markets or in exceptional circumstances, in particular with regard to collective applications involving SMEs, where duly substantiated by the applicant Member State, an application for a financial contribution under this Article may be considered admissible even if the criteria laid down in points (a) or (b) of paragraph 1 are not entirely met, when the redundancies have a serious impact on employment and the local, regional or national economy. Rhaid i'r Aelod-wladwriaeth sy'n gwneud cais nodi'r meini prawf ar gyfer ymyrryd a nodir ym mhwyntiau (a) a (b) ym mharagraff 1 nad ydynt yn cael eu diwallu yn gyfan gwbl. Ni chaiff crynswth y cyfraniadau mewn amgylchiadau eithriadol fod yn fwy na 15% o uchafswm blynyddol yr EGF.

Er i adroddiadau cynnar yn y wasg nodi mai tua 360 o bobl a fyddai'n colli gwaith o safle Murco, nid yw'n glir a amcangyfrifwyd nifer y swyddi a gollir yn yr ardal o blith ei gyflenwyr neu gynhyrchwyr ymhellach i lawr y gadwyn cyflenwi. O gynnwys y rhain, mae'n bosibl y gallai cyfanswm y swyddi a gollir fod ymhell dros y trothwy o "500 o weithwyr" a grybwyllir yng nghymalau a) a b) uchod. Ar ben hynny, mae paragraff 2 yn nodi bod rhywfaint o hyblygrwydd o ran sut y mae'r Comisiwn yn gweithredu'r trothwy hwn, gan ddibynnu ar yr effaith debygol y byddai colli'r swyddi hyn yn ei chael yn economaidd. I'r perwyl hwn, mae'n werth nodi bod gwefan y Comisiwn Ewropeaidd yn cynnwys manylion am grantiau sydd wedi cael eu cynnig o'r blaen o dan yr EGF. Yn un ohonynt, cynigiodd y Comisiwn ddyfarnu €1.5 miliwn i gefnogi swyddi pan gaeodd cwmni gemwaith yn Iwerddon, gyda 171 o swyddi yn cael eu colli o'r herwydd. Mae'n ymddangos bod posibilrwydd o leiaf y gallai colli swyddi yn Murco arwain at gais llwyddiannus i'r EGF, pe bai cais o'r fath yn cael ei wneud. Fodd bynnag, mae'r cyfrifoldeb yn hyn o beth yn nwylo Llywodraeth y DU, gan mai'r Aelod-wladwriaeth berthnasol sy'n gorfod gwneud ceisiadau. Nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi gwneud cais i'r Gronfa o'r blaen. Erbyn diwedd 2013, wyth Aelod-wladwriaeth oedd heb wneud cais am gymorth gan yr EGF: Estonia, Cyprus, Latfia, Lwcsembwrg, Hwngari, Slofacia, a Croatia (nad oedd wedi ymuno â'r UE tan 1 Gorffennaf 2013) a'r Deyrnas Unedig. Mae Jill Evans ASE wedi awgrymu bod y DU yn gyndyn o ddefnyddio'r Gronfa gan y gallai gwneud hynny arwain at ostyngiad yn ad-daliad yr UE i'r DU - sef y swm o arian y mae’r DU yn ei gael yn ôl bob blwyddyn o'i chyfraniad net at gyllid yr UE - ac nid yw Llywodraeth y DU yn barod i fentro yn hynny o beth. Mae'n amlwg bod awydd gan rai yng Nghymru weld y rhai yr effeithir arnynt gan y newid defnydd ym mhurfa Murco yn cael cymorth gan yr EGF. Yn ddiweddar, dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wrth y Cyfarfod Llawn, "rwy’n credu ein bod yn mynd i orfod pwyso’n galed i wneud yn siŵr bod y cais yn cael ei gyflwyno". O ran canlyniad y cais hwn, neu a wneir cais o gwbl, amser a ddengys.