Beth yw cost lawn rhentu?

Cyhoeddwyd 25/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Tachwedd 2014 Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae gwleidyddion ym Mae Caerdydd wedi treulio cryn dipyn o amser yn trafod y sector rhentu preifat yn ddiweddar, a'r wythnos hon byddant yn sôn amdano unwaith eto. Nid yw hynny'n fawr o syndod mae'n debyg o ystyried bod tua 14 y cant o deuluoedd yng Nghymru yn rhentu'n breifat – bron cynifer ag sy'n rhentu lle gan landlordiaid cymdeithasol fel cynghorau lleol a chymdeithasau tai. Ond nid dim ond y gwleidyddion sy'n pryderu, mae deisebau wedi'u cyflwyno i'r Cynulliad gan aelodau o'r cyhoedd sy'n amlygu cryn anniddigrwydd, a bydd y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad wedi ymdrin â rhywfaint o waith achos yn eu hetholaethau'n ymwneud â'r sector rhentu preifat. Yn ystod y trydydd Cynulliad, yn dilyn ymchwiliad cynhwysfawr i'r sector, galwodd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rheoliadau statudol ar gyfer asiantaethau gosod tai yng Nghymru. Yn dilyn hyn, cyflwynwyd Deddf Tai (Cymru) yn 2014. O dan y Ddeddf, o hydref 2015 ymlaen, bydd yn rhaid i asiantaethau gosod tai gael trwydded a chadw at god ymarfer. Bwriad gwreiddiol Llywodraeth Cymru oedd i'r cod ymarfer gynnwys gofyniad i asiantaethau gosod tai gyhoeddi eu ffioedd, ond bellach mae'n gobeithio cyflawni'r amcan hwn drwy gefnogi gwelliant i Fil Hawliau Defnyddwyr Llywodraeth y DU. Ymhlith darpariaethau eraill, mae'r Bil yn cynnig y bydd yn rhaid i asiantaethau gosod tai arddangos neu gyhoeddi rhestr o'u ffioedd a'u taliadau perthnasol. [caption id="" align="alignright" width="640"] Llun: o Geograph gan Stephen Craven. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Nid oes dim yn atal asiantaethau yng Nghymru neu Loegr rhag codi tâl ar denantiaid am wasanaethau, ac ni fydd y Bil yn newid hynny. Er enghraifft, bydd llawer o asiantaethau'n codi tâl am gael geirda, ymchwilio i statws creyd, adnewyddu cytundebau tenantiaeth a ffioedd gweinyddu eraill. Er bod rhai pethau na chaiff asiantaethau godi tâl amdanynt, fel darparu rhestr o'u heiddo, mae'r rhan fwyaf o ffioedd yn gwbl gyfreithlon (ac yn codi gwrychyn tenantiaid). Mae'r sefyllfa'n wahanol yn yr Alban lle mae'n anghyfreithlon codi tâl gweinyddol. Nid yw ffioedd asiantaethau gosod tai ar fin cael eu gwahardd yng Nghymru, ond dylai'r taliadau a fydd yn wynebu tenantiaid, a darpar denantiaid, fod yn fwy eglur o leiaf, diolch i'r cynigion yn y Bil a'r gofyniad i asiantaethau ddatgelu eu ffioedd a'u taliadau ymlaen llaw. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol fydd gorfodi'r ddeddfwriaeth newydd hon, a byddant yn gallu gosod cosb sifil o hyd at £5,000 ar asiantaethau nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion. Bydd asiantaethau gosod tai'n gallu apelio i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn erbyn unrhyw gosb sifil. Gofynnir i'r Cynulliad yn awr dderbyn y cynigion hyn drwy gytuno ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r weithdrefn hon yn angenrheidiol gan fod tai eisoes yn fater datganoledig a'r Cynulliad, yn hytrach na Senedd y DU, fyddai'n deddfu yn y maes hwn fel arfer. Er ein bod wedi gweld Cymru a Lloegr yn dilyn trywydd gwahanol ym maes polisi tai yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft cofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantaethau gosod tai, dyma un maes y byddwn yn parhau i gytuno yn ei gylch. Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Defnyddwyr ddydd Mawrth 25 Tachwedd 2014. Gan gymryd bod y Cynulliad yn cytuno ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, a bod y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu pryd y bydd y gofynion newydd yn cychwyn.