Dadl yn y Cynulliad ar y Bil trais ar sail rhywedd ar ei newydd wedd

Cyhoeddwyd 25/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Tachwedd 2014

Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ers ei gyflwyno ym mis Mehefin, mae'r Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) wedi wynebu cryn anawsterau ar ei hynt drwy'r Cynulliad. Dechreuodd y broses yn 2012 pan gyhoeddwyd ymgynghoriad Papur Gwyn ar ddeddfwriaeth i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben. Honnodd Llywodraeth Cymru fod y cynigion yn arloesol ac fe'u croesawyd gan randdeiliaid. Nod y cynigion oedd cryfhau arweinyddiaeth, gwella addysg ac ymwybyddiaeth, a chryfhau ac integreiddio gwasanaethau. Fodd bynnag, pan gyflwynwyd y Bil yn y Cynulliad ym mis Gorffennaf, roedd yr enw wedi newid , roedd yr adran addysg wedi'i gollwng, roedd y diffiniadau wedi newid ac roedd y dyletswyddau ar awdurdodau lleol wedi dod yn rhan o'r canllawiau.   Mynegodd ymgyrchwyr eu siom yn gyhoeddus, gan ddweud nad oedd y Bil, ar ei newydd wedd, yn canolbwyntio ar brif ddioddefwyr y mathau hyn o gamdriniaeth. Roeddent hefyd yn feirniadol o'r ffaith nad oedd adran addysg ac nad oedd yr hawl i gael gwasanaethau wedi'i warantu. Dyma brif elfennau'r Bil (fel y'i cyflwynwyd):
  •  y ddyletswydd i baratoi a chyflwyno adroddiad ar strategaethau cenedlaethol;
  •  y ddyletswydd i baratoi a chyflwyno adroddiad ar strategaethau lleol;
  • y pŵer i Weinidogion gyhoeddi canllawiau statudol a'r ddyletswydd i ddilyn y canllawiau o'r fath;
  • penodi Cynghorydd Gweinidogol ar drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

gbv welshMae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn craffu ar y Bil ers mis Gorffennaf, gan ddechrau drwy gynnal sesiwn born gron gyda rhanddeiliaid. Clywodd y Pwyllgor hefyd dystiolaeth lafar gan y Gweinidog a oedd â gofal am y Bil bryd hynny, sef Lesley Griffiths AC, paneli'n cynrychioli sefydliadau plant, academyddion, sefydliadau merched a dynion, y trydydd a'r sector cyhoeddus a'r Gweinidog sydd â gofal am y Bil ar hyn o bryd, sef Leighton Andrews AC.

Daeth 90 o ddarnau o dystiolaeth ysgrifenedig i law hefyd. Er bod yr ymatebwyr a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar yn gefnogol i ddiben a bwriad y Bil yn gyffredinol, roeddent hefyd yn pryderu'n arw am y cynnwys.

Ymatebodd y Pwyllgor yn ei adroddiad Cyfnod 1 a gyhoeddwyd ar 14 Tachwedd 2014. Er ei fod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, gwnaeth ddeuddeg o argymhellion gan ofyn i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r Bil drwy:

  • ei seilio ar hawliau i sicrhau bod gan ddioddefwyr hawl i ddefnyddio gwasanaethau;
  • cyfeirio at 'drais yn erbyn menywod' yn y Bil, er mwyn mynd i'r afael â'r hyn sydd wrth wraidd achosion o drais yn erbyn menywod       ond gan sicrhau hefyd fod dioddefwyr o ba ryw bynnag yn gallu defnyddio gwasanaethau;
  • darparu ar gyfer rhaglenni addysg orfodol ar greu perthynas iach ag eraill;
  • sefydlu safonau gofynnol ar gyfer strategaethau lleol;
  • sicrhau bod y cynghorwr yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a bod y pŵer ganddo neu ganddi i gynnal ymchwiliadau;
  • mabwysiadu diffiniad y Cenhedloedd Unedig o 'drais yn erbyn menywod' a diffiniad y Swyddfa Gartref o 'drais a cham-drin domestig'.
Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad cyfnod 1 y Pwyllgor heddiw.