Gostyngiadau mewn budd-dal tai: ystadegau newydd wedi’u rhyddhau

Cyhoeddwyd 25/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Tachwedd 2014

Erthygl gan David Millett a Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Heddiw, mae’r Cynulliad yn cynnal dadl ynghylch effaith y diwygiadau lles ar Gymru. Un o’r mesurau mwyaf dadleuol yw’r meini prawf a ddefnyddir i bennu faint o Fudd-dal Tai a gaiff tenantiaid cymdeithasol, sef y ‘dreth ystafell wely’ neu’r ‘cymorthdal ystafell sbâr’. Ers 1 Ebrill 2013, mae tenantiaid tai cymdeithasol oedran gweithio sy’n cael budd-dal tai yn wynebu gostyngiad yn eu budd-dal os ydynt yn byw mewn tai y penderfynir eu bod yn rhy fawr i’w anghenion. Mae’r meini prawf maint yn y sector rhentu preifat yn cyfyngu ar fudd-dal tai gan ganiatáu un ystafell wely i bob person neu gwpl sy’n byw ar yr aelwyd, ac eithrio’r canlynol:
    • disgwylir i blant o dan 16 oed o’r un rhyw rannu ystafell wely;
    • disgwylir i blant o dan 10 oed rannu ystafell wely ni waeth beth yw eu rhyw;
    • caniateir un ystafell wely ychwanegol i denantiaid anabl neu bartner os oes angen i ofalwr ddod i aros yn y tŷ dros nos;
    • caniateir un ystafell wely ychwanegol i ofalwyr maeth os ydynt wedi cofrestru fel gofalwr maeth neu wedi maethu plentyn yn ystod y 12 mis diwethaf.
Os penderfynir nad oes digon o denantiaid yn byw yn yr eiddo, byddant yn wynebu gostyngiad o 14% yn eu budd-dal tai os oes ganddynt un ystafell wely sbâr, a gostyngiad o 25% os oes ganddynt ddwy ystafell wely neu ragor. Mae swm y budd-dal tai a gaiff tenantiaid sy’n rhentu’n breifat yn dibynnu ar faint yr eiddo ers 1989. Mae’r map isod yn dangos ffigurau Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU o ran nifer y teuluoedd sy’n cael llai o fudd-dal tai ers cyflwyno’r newidiadau, fesul etholaeth: RS143077 Constituencies affected by the Housing Benefit social housing size criteria Mae rhagor o wybodaeth ac ystadegau blaenorol i’w gweld yn y wybodaeth a bostiwyd ym mis Rhagfyr 2013.