Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014

Cyhoeddwyd 27/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Tachwedd 2014 Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyhoeddwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2014 ar 26 Tachwedd 2014 gan Lywodraeth Cymru. Ardaloedd mwyaf amddifad a lleiaf amddifad Mae prif ganlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014 yn y tabl isod yn dangos mai’r pum Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is fwyaf difreintiedig a’r pum Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is leiaf difreintiedig yw: [caption id="attachment_1917" align="alignnone" width="682"]Picture-cy Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru. Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014 – safleoedd cyffredinol a safleoedd parthau[/caption] Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynhyrchu map rhyngweithiol ar-lein a fydd yn galluogi defnyddwyr i edrych ar y data a chael gwybod y sgôr Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn yr ardaloedd sydd o ddiddordeb iddynt. Beth yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014? Ceisia Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014 fesur lefelau cymharol o amddifadedd mewn ardaloedd bychain ledled Cymru. Gelwir yr ardaloedd bach a ddefnyddir i lunio’r mynegai yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) ac mae ynddynt boblogaeth gyfartalog o 1,600. Mae 1,909 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yng Nghymru ac mae’r ardal fwyaf difreintiedig yn cael ei rhoi yn safle 1 a’r lleiaf difreintiedig yn cael ei rhoi yn safle 1,909. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014 yn defnyddio amrywiaeth o ddangosyddion ar wahân ar draws wyth parth i fesur y cysyniad o ‘amddifadedd lluosog’. Mae’r parthau i’w gweld isod, ac mae’r canrannau mewn cromfachau yn dangos pwysiad neu bwysigrwydd pob parth fel agwedd ar amddifadedd:
  • Incwm (23.5%)
  • Cyflogaeth (23.5%)
  • Iechyd (14.0%)
  • Addysg (14.0%)
  • Mynediad at wasanaethau (10.0%)
  • Diogelwch cymunedol (5.0%)
  • Yr Amgylchedd Ffisegol (5.0%)
  • Tai (5.0%)
Yn ogystal â safleoedd a safleoedd parthau cyffredinol Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, cyhoeddir data hefyd ar gyfer y dangosyddion unigol yn StatsCymru. Pam mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn bwysig? Defnyddir Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i dargedu polisïau a gwasanaethau. Mae fersiynau blaenorol o’r Mynegai wedi cael eu defnyddio i benderfynu pa ardaloedd daearyddol sy’n gymwys i gael arian o dan y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer mynd i’r afael â thlodi. Mae data dangosol sylfaenol Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru hefyd wedi cael eu defnyddio i nodi lle i leoli gwasanaethau Dechrau’n Deg. Yn ogystal, defnyddir Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i fesur anghydraddoldebau iechyd, yn ogystal â helpu awdurdodau lleol i ddatblygu asesiadau o anghenion, a thimau plismona cymdogaeth i dargedu adnoddau. Pa mor aml y caiff Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ei ddiweddaru? Cyhoeddwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru gyntaf yn 2000 ar lefel adran etholiadol, a chyhoeddwyd fersiynau dilynol o’r Mynegai yn 2005, 2008 a 2011 ar lefel Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is. Mae’r gwahaniaethau rhwng y fersiynau diweddar o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn fân o ran y dangosyddion, parthau a’r pwysiadau a ddefnyddiwyd. A ellir cymharu â gwledydd eraill? Mae gan Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon oll eu Mynegeion ar wahân eu hunain o Amddifadedd Lluosog. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Lloegr 2010 i gael ei ddiweddaru yn ystod haf 2015. Bwriedir diweddaru Mynegai Amddifadedd Lluosog yr Alban 2012 yn 2016 a Mesur Amddifadedd Lluosog Gogledd Iwerddon 2010 yw’r fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael. Nid yw’n bosibl cymharu y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014 gyda’r Mynegai Amddifadedd Lluosog ar gyfer gwledydd eraill y DU, gan eu bod oll yn defnyddio gwahanol ddangosyddion, cânt eu diweddaru ar gyfnodau amser gwahanol ac mae gwahanol ddaearyddiaethau sylfaenol yn perthyn iddynt. Beth yw cyfyngiadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru? Mae’r Mynegai yn offeryn defnyddiol ar gyfer mesur crynodiadau o sawl math o amddifadedd ar lefel ddaearyddol fach. Fodd bynnag ei ​​brif gyfyngiad yw ei fod yn mesur ar sail ardal. Gall pobl a fyddai’n cael eu hystyried yn ddifreintiedig fyw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Nododd nifer o ymatebion i’r ymgynghoriad ar y dangosyddion arfaethedig ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014 hefyd bod amddifadedd mewn ardaloedd gwledig yn tueddu i fod wedi’i wasgaru’n fwy yn ddaearyddol nag mewn ardaloedd trefol. Felly mae’n debygol bod llecynnau o amddifadedd mewn ardaloedd gwledig yn debygol o fod yn is na lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is ac yn anoddach i’w nodi. Hefyd nid yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn fesur uniongyrchol o faint o amddifadedd sydd mewn ardal. Mae’n bosibl dweud bod un ardal yn fwy difreintiedig nag un arall, fodd bynnag, nid yw’n bosibl datgan bod un Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is ddwywaith mor amddifad ag Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is arall. Hefyd, nid yw’n bosibl cymharu safleoedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011 â safleoedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014. Er mwyn gwneud cymariaethau dros amser, mae angen defnyddio data dangosyddion blynyddol Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymchwiliad i dlodi yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd pedwerydd llinyn yr ymchwiliad - sef, dulliau gweithredu cymunedol i fynd i’r afael â thlodi, yn ystyried cysondeb daearyddol mentrau gwrthdlodi, a pha mor effeithiol yw rhaglenni gwrth-dlodi ar sail ardal, fel Cymunedau yn Gyntaf. [caption id="attachment_1918" align="alignleft" width="682"]RS143047 WIMD 2014 Welsh picture Ffeithlun gan Ystadegau ar gyfer Cymru. Dan Drwydded Llywodraeth Agored[/caption]