Creu Cymru gynaliadwy? Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) - Adroddiad Cyfnod 1

Cyhoeddwyd 28/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

28 Tachwedd 2014 Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Llun: o Wikimedia Commons gan Julian Nitzsche. Dan drwydded Creative Commons

Gyda'r ymgynghoriad a'r gwaith casglu tystiolaeth ar gyfer Cyfnod 1 yn y broses ddeddfwriaethol ar gyfer Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru bellach ar ben, dyma Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad yn cyhoeddi ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil heddiw. Yn yr adroddiad, mae cyfanswm o 32 o argymhellion ar gyfer y Bil.

Y Bil

Cyflwynwyd y Bil gerbron y Cynulliad ar 7 Gorffennaf 2014 gan Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Llywodraeth Leol ar y pryd. Ad-drefnwyd y Cabinet ym mis Medi 2014, ac o'r herwydd, Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, yw'r Aelod sy'n gyfrifol bellach. Ac yntau'n Aelod o'r Pwyllgor ers mis Medi, ni chymerodd Jeff Cuthbert ran yn y trafodaethau i lunio’r adroddiad.

Bwriad y Bil yw ymgorffori datblygu cynaliadwy mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru trwy’r camau canlynol:

  • cryfhau’r trefniadau llywodraethu presennol drwy ddangos yn glir yr hyn y mae awdurdodau cyhoeddus penodol yn ceisio ei gyflawni drwy gyfres o nodau llesiant statudol cenedlaethol, gan werthuso a mesur y nodau ar sail dangosyddion cenedlaethol;
  • sefydlu egwyddor datblygu cynaliadwy mewn awdurdodau cyhoeddus penodol drwy ei gwneud yn ofynnol iddynt osod amcanion sy'n cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant cenedlaethol;
  • hyrwyddo buddiannau cenedlaethau’r dyfodol drwy sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Cymru; a
  • rhoi cynllunio cymunedol integredig ar sail statudol drwy sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Yr adroddiad

Pwrpas Cyfnod 1 yw craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil a gwneud argymhelliad i'r Cynulliad ynghylch a ddylai gytuno ar egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth.

Cafodd y Pwyllgor gyfanswm o 178 o ymatebion i'w ymgynghoriad, gan gynnwys 100 o ymatebion awtomataidd a gyflwynwyd gan unigolion drwy wefan Llunio Ein Dyfodol y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy. Yn ogystal, cynhaliodd y Pwyllgor 14 o sesiynau tystiolaeth lafar, sef dwy gyda'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a 12 gydag ystod eang o randdeiliaid sy'n adlewyrchu cwmpas eang y Bil. Mae'r manylion llawn am waith y Pwyllgor o ran casglu tystiolaeth ar gael yn atodiadau 1 a 2 i'r adroddiad.

Mae'r adroddiad yn crynhoi barn y Pwyllgor fel a ganlyn:

There was unanimous support among Members of the Committee for the policy intent of the Bill and we believe the Welsh Government is to be commended for bringing forward legislation in this area. However, we agree with the views expressed by the majority of those who gave evidence that significant improvements are needed in order for the Bill to have any meaningful impact.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn ei gwneud yn glir nad oedd yn cytuno yn unfrydol y byddai nifer y diwygiadau y bydd eu hangen yn nes ymlaen i fynd i'r afael â diffygion canfyddedig yn nifer hylaw.

O ganlyniad, gwnaeth y Pwyllgor ei argymhelliad i'r Cynulliad y dylai gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar yr amod bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir cyn y ddadl Cyfnod 1 ei bod yn barod i dderbyn y 12 argymhelliad allweddol a mynd i'r afael â hwy.

Mae'r 12 argymhelliad a nodwyd yn codi'r materion canlynol:

  • Argymhelliad 3: cryfder yr iaith a ddefnyddir yn y Bil
  • Argymhelliad 9: egwyddor datblygu cynaliadwy a’r dull ar gyfer ei diffinio
  • Argymhellion 13 a 14: geiriad y nodau a'r disgrifyddion yn y Bil a'r dull ar gyfer diwygio amcanion
  • Argymhelliad 16: yr angen i'r Bil fod yn glir ei fod yn cwmpasu holl swyddogaethau cyrff cyhoeddus
  • Argymhelliad 19: penodi Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Argymhellion 21 a 23: pwerau'r Comisiynydd ac ymateb cyrff cyhoeddus i argymhellion y Comisiynydd
  • Argymhelliad 25: rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru
  • Argymhellion 27 ac 28: craffu ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus arfaethedig a'u dull o asesu llesiant lleol; a
  • Argymhelliad 29: y diwygiadau canlyniadol a wneir i ddarnau eraill o ddeddfwriaeth i sicrhau na fydd y ddeddfwriaeth gyfredol mewn meysydd polisi allweddol yn cael ei glastwreiddio.

Mae gweddill yr argymhellion yn mynd i'r afael ag ystod o faterion, gan gynnwys: yr angen i sicrhau bod y Bil yn ei gwneud yn glir bod ymgysylltu â dinasyddion a chyd-gynhyrchu yn rhannau allweddol o roi egwyddorion y Bil ar waith; yr angen am eglurder ar sut y mae'r Bil yn rhyngweithio â darnau eraill o ddeddfwriaeth gyfredol a deddfwriaeth arfaethedig; atebolrwydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a chyfranogi ohonynt; a'r amcangyfrifon cost sydd yn y Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Trefnwyd y ddadl Cyfnod 1 ar gyfer 9 Rhagfyr 2014. Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd Cyfnod 2 yn dechrau ar 10 Rhagfyr.