Diwrnod Hawliau Gofalwyr

Cyhoeddwyd 28/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

28 Tachwedd 2014 Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1922" align="alignnone" width="300"]Llun o Carersuk.org Llun o Carersuk.org[/caption] Mae Dydd Gwener, 28 Tachwedd 2014 yn Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, diwrnod sy’n dod â sefydliadau ar draws y DU at ei gilydd i helpu gofalwyr yn eu cymunedau lleol i wybod eu hawliau ac i wybod sut i gael gafael ar gymorth a chefnogaeth. Thema’r diwrnod eleni yw ‘Yn gofalu am rywun? Dylech wybod eich hawliau’, a bydd yn canolbwyntio ar:
  • Sicrhau bod gofalwyr yn gwybod beth yw eu hawliau a beth y maent yn gymwys i’w gael
  • Rhoi gwybod i ofalwyr ble y gallant gael cymorth a chefnogaeth
  • Codi ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr
Cynhelir digwyddiadau ledled Cymru a’r DU, i ddathlu gwaith gofalwyr ac i gyflwyno’r negeseuon hyn. Mae’r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr yng Nghymru ar ei newydd wedd gan Lywodraeth Cymru (2013) yn datgan, Gall gofalwr fod yn unrhyw un, o unrhyw oed, sy’n darparu gofal a chymorth di-dâl i berthynas, ffrind neu gymydog sy’n anabl, sy’n dioddef salwch meddwl neu salwch corfforol, neu rywun yr effeithiwyd arnynt gan gamddefnyddio sylweddau. Mae’r Strategaeth yn nodi mai gofalwyr di-dâl yw’r darparwyr gofal mwyaf yn ein cymunedau - dywed Cynhalwyr Cymru bod 97% o’r holl ofal cymunedol yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl, sy’n cyfrannu £7.7 miliwn y flwyddyn at yr economi. Dengys y Cyfrifiad 2011 bod 370,230 o bobl, sef 12.1% o’r boblogaeth, yn darparu gofal di-dâl yng Nghymru. Ers 2001, bu cynnydd o tua 30,000 (3%) yn nifer y bobl sy’n darparu gofal di-dâl yng Nghymru. Canfu’r Cyfrifiad bod 103,748 o bobl yng Nghymru yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos. Deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru

Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010

Ar hyn o bryd mae gennym ddeddfwriaeth benodol, a ddaeth i rym yn 2012, ar gyfer gofalwyr yng Nghymru - mae Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol (BILl) ac Ymddiriedolaethau Iechyd i arwain y gwaith partneriaeth gydag awdurdodau lleol, i baratoi, cyhoeddi a rhoi Strategaethau ar gyfer Gofalwyr ar waith yn eu hardal hwy. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn parhau am lawer o amser eto, oherwydd bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diddymu’r Mesur ar gyfer Gofalwyr (O.N. Nid yw’r diddymiad wedi’i ddeddfu eto). Cafwyd gwrthwynebiad i’r diddymu hwn, yn enwedig gan Gynghrair Cynhalwyr Cymru, ac yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil yn y Cynulliad, pasiwyd gwelliant i geisio efelychu rhai agweddau ar y Mesur: Mae adran 14(3) o’r Ddeddf bellach yn nodi dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol i adrodd wrth Weinidogion Cymru am unrhyw rannau o’u strategaethau iechyd a llesiant lleol sy’n ymwneud â gofalwyr. Fodd bynnag, bydd y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), (a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2014), os caiff ei weithredu fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, yn diddymu adran 14(3) o’r Ddeddf. Mae sefydliadau gofalwyr yn pryderu na fydd y ddyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Iechyd i arwain yn benodol o ran problemau gofalwyr ac i adrodd yn eu cylch, yn weithredol mwyach. Mae Cynghrair Gofalwyr Cymru yn gweld hwn fel gwall yn y broses ddeddfwriaethol, sy’n gynyddol yn gwanhau statws cyfreithiol y broses o gynllunio strategol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru. Mae’r Gynghrair yn credu mai’r ffordd fwyaf syml o ddatrys y mater hwn fyddai peidio â gorchymyn diddymu Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010. Mae’n nodi y gallai strategaethau gofalwyr lleol wedyn gael eu cynnwys yn y rhestr o faterion sy’n ofynnol i’w hystyried wrth gynnal asesiadau llesiant o dan adran 36 o’r Bil. Ysgrifennodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd (sydd ar hyn o bryd yn craffu ar y Bil) yn ddiweddar, yn datgan nad yw’n credu y bydd y Bil yn arwain at unrhyw leihad yn y ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy’n ymwneud ag anghenion gofalwyr. Dywedodd ei fod yn credu fod y darpariaethau cynllunio ac adrodd yn y Bil yn darparu dulliau cynhwysfawr ar gyfer sicrhau bod anghenion grwpiau penodol o bobl yn cael eu hystyried. Yn ei adroddiad ar y Bil yng Nghyfnod 1, mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn datgan ei fod yn pryderu am ddiwygio deddfwriaeth ddiweddar, bron yn union wedi iddi ddod yn gyfraith, gan nodi newidiadau ar gyfer gofalwyr, fel enghraifft benodol. Mae’r Pwyllgor yn pryderu bod hyn yn dangos diffyg dull gweithredu strategol o ran deddfwriaeth mewn meysydd polisi cymdeithasol allweddol, a bod perygl anfwriadol y caiff bylchau eu creu yn y ddarpariaeth. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu atodlen 4, a’r dull o gynllunio llesiant yn lleol, yn arbennig mewn perthynas â’r dull gweithredu ‘iechyd ym mhob polisi’ ac anghenion gofalwyr, plant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau bod dull gweithredu digon cadarn o ran y materion hyn ar waith yn ystod y broses gynllunio.

Strategaeth ar gyfer Gofalwyr yng Nghymru ar ei newydd wedd

Ar ôl cynnal ymgynghoriad yn 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth ar gyfer Gofalwyr yng Nghymru ar ei newydd wedd yn 2013. Roedd y ddogfen ymgynghori yn cynnig, fel cam gweithredu, y byddai Llywodraeth Cymru yn ‘datblygu model o ofal amgen sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, er mwyn sicrhau bod pob gofalwr yn cael seibiant rheolaidd o ofalu’. Fodd bynnag, diwygiwyd geiriad y Strategaeth derfynol, ac yn awr mae’n nodi y bydd Llywodraeth Cymru ‘yn datblygu dealltwriaeth a rennir o ofal amgen, a sut y gellir defnyddio’r ddealltwriaeth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i ofalwyr a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt ...’ Mae rhai aelodau o Gynghrair Cynhalwyr Cymru wedi cwestiynu a oes cynnydd wedi’i wneud i alluogi gofalwyr ar draws Cymru i gael amser o’r gwaith o ofalu, yn enwedig yn sgîl canfyddiad y Cyfrifiad, a nododd fod 103,748 o bobl yng Nghymru yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos.