Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16

Cyhoeddwyd 05/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

05 Rhagfyr 2014 Erthygl gan Richard Bettley and David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cymru Final Budget WelshFinal Budget Changes Welsh  
  • Caiff cynnig cyllidebol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2015-16 ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Rhagfyr 2014.
  • Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi arwain y gwaith o graffu ar y gyllideb. Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi arwain ar graffu ar y gyllideb.  Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi llunio adroddiad craffu ar y gyllideb, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb iddo.
  • Yr unig newid rhwng cyllidebau drafft a therfynol Llywodraeth Cymru oedd y £10 miliwn o wariant cyfalaf ar brosiect trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru a gyhoeddwyd.
  • Yn ogystal â dyraniadau cyllid yn y Gyllideb Derfynol, mae Datganiad yr Hydref 2014 mewn perthynas â’r DU a gyhoeddwyd ar 3 Rhagfyr yn golygu bod cyfanswm y refeniw sydd ar gael i Gymru ar gyfer 2015-16 yn cynyddu £113.2 miliwn, a chyfanswm y cyfalaf yn cynyddu £8.8 miliwn, y mae £2.3 miliwn ohono ar gyfer Trafodiadau Ariannol. Disgwylir i’r Cynulliad graffu ar fwriad Llywodraeth Cymru o ran y symiau hyn wrth ystyried cyllideb atodol yn y dyfodol.
  • Mae’r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi craffu ar yr amcangyfrifon ar gyfer Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y cyfeirir atynt yn y cynnig cyllidebol.