Rheoliad Ewropeaidd ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig: pryderon difrifol gan randdeiliaid Cymru

Cyhoeddwyd 05/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

5 Rhagfyr 2014 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 24 Mawrth 2014, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion ar gyfer Rheoliad ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig a fyddai'n diddymu Rheoliad y Cyngor 834/20europe-organic07.

Y sail resymegol dros y cynigion yw ysgafnhau'r baich gweinyddol sydd ynghlwm wrth gynhyrchu organig ac ennyn hyder defnyddwyr mewn cynnyrch organig.

Bydd y cynigion yn newid y system archwilio a rheoli, yn cyflwyno safonau newydd ar gyfr lles anifeiliaid ac yn dileu nifer o'r rhanddirymiadau'n ymwneud â mewnbynnau anorganig a dulliau anorganig a ganiateir ar hyn o bryd. O bryder sylweddol i Gymru yw'r cynigion i ddileu'r rhanddirymiadau'n ymwneud â: ffermio cymysg (sy'n caniatáu ffermio organig a chonfensiynol ar yr un daliad); defnyddio hadau anorganig; cyrchu bwyd rhanbarthol; defnyddio stoc magu anorganig; a'r esemptiad i fanwerthwyr. I gael trosolwg manylach o'r cynigion, gweler Y Diweddaraf am Bolisi'r UE gan y Gwasanaeth Ymchwil.

Mae'r cynigion yn ddarostyngedig i'r weithdrefn deddfwriaethol arferol pan fo’n rhaid i’r Cyngor a Senedd Ewrop ddod i gytundeb arnynt.

Senedd Ewrop

Ar 3 Medi 2014 neilltuwyd y cynigion i Bwyllgor Senedd Ewrop ar Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig Penodwyd Martin Häusling (ASE Plaid Werdd yr Almaen) yn Rapporteur.

Cyngor y Gweinidogion

Ar 10 Tachwedd, yn ystod trafodaethau ar y rheoliad arfaethedig yng Nghyngor y Gweinidogion, cytunodd y Gweinidogion amaeth fod yn rhaid i'r UE gadw'r rhanddirymiadau presennol sy'n caniatáu ffermio cymysg ac yn caniatáu i ffermwyr organig ddefnyddio anifeiliaid, hadau a phorthiant anorganig. Rhybuddiodd nifer o Weinidogion y byddai cael gwared ar y rhanddirymiadau'n ergyd drom i'r sector organig. Yn AGRAFACTS nodwyd bod Sharon Dijskma (NL), gyda chefnogaeth y Gweinidog cyfatebol yn yr Almaen, Christian Schmidt, yn awgrymu y byddai'n rhoi pwysau ar y Comisiwn i dynnu'r cynnig yn ôl yn llwyr os nad yw'n newid yn 'sylweddol'.

Roedd y rhan fwyaf o'r dirprwyaethau yn bendant o blaid caniatáu i ffermwyr barhau i ddefnyddio dulliau ffermio cymysg. Roedd barn yr aelod-wladwriaethau yn fwy rhanedig am gynlluniau i ailwampio archwiliadau. Roedd rhai, fel Ffrainc, y Ffindir a Gwlad Belg o blaid cadw'r system bresennol o gynnal archwiliadau blynyddol, tra bo eraill fel yr Iseldiroedd, Croatia a Sweden yn ffafrio'r archwiliadau seiliedig ar risg a gynigiwyd.

Trafodaethau'r Cynulliad

Ar 13 Tachwedd cynhaliodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd sesiwn dystiolaeth ar y rheoliad.

Yn gyffredinol roedd y rhanddeiliaid yn croesawu adolygiad deddfwriaethol y Comisiwn ac yn canmol yr ethos y tu ôl i'r rheoliad, sef gwella tryloywder. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon sylweddol ynghylch manylion gweithredu'r Rheoliad a dywedodd Cymdeithas y Pridd nad oedd y cynigion wedi'u datblygu'n ddigonol a'u bod yn 'naïf'.

Roedd ffocws cryf ar gael gwared ar randdirymiadau. Un o'r prif bryderon oedd y cynnig i wahardd ffermio cymysg a dywedodd NFU Cymru fod tua 25% o ffermydd organig yn gweithredu fel ffermydd cymysg. Maes arall a oedd yn peri pryder oedd y cynnig i wahardd hadau anorganig a'r cyfnod byr a oedd wedi'i bennu i roi'r gwaharddiad ar waith. Roedd NFU Cymru yn pryderu y byddai prinder hadau organig a'r ffaith ei bod yn anodd cael gafael arnynt yn rhwystr i gynhyrchwyr organig. Pwysleisiodd Ffermwyr a Thyfwyr Organig y byddai penderfyniad i gael gwared ar y rhanddirymiad sy'n caniatáu i ffermwyr ddefnyddio stoc bridio anorganig yn cyfyngu'n sylweddol ar linellau genetig.

Holwyd y rhanddeiliaid a ddylai'r term 'rhanbarth' gyfeirio at Gymru, y DU neu Ewrop (mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i holl borthiant da byw ddod o'r fferm neu'r 'rhanbarth' yn achos gwartheg a defaid ac mae'r ffigur yn gostwng i 60% yn achos moch a dofednod, ond nid yw'n diffinio 'rhanbarth'). Roedd Grŵp Organig Cymru yn pryderu na fyddai Cymru yn gallu tyfu digon o brotein organig i gyflenwi ei da byw pe bai'r term 'rhanbarth' yn cyfeirio at Gymru neu'r DU yn unig.

Yn gyffredinol, roedd y rhanddeiliaid o blaid cynnal archwiliadau blynyddol ac yn credu y byddai'r cynnig i gynnal llai o archwiliadau, a'r rheini'n seiliedig ar risg, yn lleihau tryloywder ac mewn rhai achosion ni fyddent yn bodloni gofynion manwerthwyr.

Roedd cytundeb cyffredinol hefyd nad oedd y broses o ddileu statws organig os halogwyd y cynnyrch gan weddillion anorganig yn annheg a dywedodd NFU Cymru fod y cynnig hwn yn mynd yn groes i'r rheolau hanesyddol mai'r 'llygrwr sy'n talu'.

O ran asesiad y Comisiwn o effaith y Rheoliad, roedd nifer o randdeiliad yn pryderu am y modd y cynhaliwyd yr arolwg defnyddwyr gan ddweud bod y cwestiynau'n gaeedig a bod anghytbwysedd o ran cyfranogiad yr aelod wladwriaethau.

Dywedodd Canolfan Organig Cymru fod ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y rheoliad a diwygiadau'r PAC yn troi ffermwyr oddi wrth ymrwymo i'r Cynllun Glastir Organig.

Mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn bwriadu ysgrifennu at Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd yn amlinellu pryderon rhanddeiliaid Cymru.