Yr Archwilydd Cyffredinol yn cwestiynu cywirdeb costau’r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Cyhoeddwyd 09/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

9 Rhagfyr 2014 Erthygl gan Karen Whitfield, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1969" align="alignright" width="300"]Llun: o Flickr gan seniorplanning. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan seniorplanning. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ar 1 Hydref 2014, rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru dystiolaeth i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Yn dilyn y sesiwn hon, gofynnodd y Pwyllgor iddo gynnal archwiliad o’r gwaith sy’n sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil, gan edrych yn benodol ar y costau disgwyliedig o weithredu’r Bil hwn. Cafodd y cais hwn ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a’r Pwyllgor Cyllid. Argymhellodd adroddiad diweddar y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar y Bil y dylai Llywodraeth Cymru nodi gwaith yr Archwilydd Cyffredinol ar y mater hwn, a diweddaru’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn unol â hynny. Cyhoeddwyd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ddydd Iau 4 Rhagfyr 2014, a’r prif gasgliad oedd
the Regulatory Impact Assessment understates the costs of current arrangements and the likely additional costs of implementation and the Welsh Government’s assumptions require further testing with the public bodies affected.
Roedd y prif feirniadaeth o’r ffordd y cafodd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ei gynhyrchu yn cynnwys:
  • diffyg eglurder a chysondeb yn y ffordd y mae’r wybodaeth am gostau wedi’i chyflwyno;
  • diffyg esboniadau o’r tybiaethau neu ddulliau a ddefnyddir i gyfrifo rhai o’r costau;
  • defnyddio gwahanol ddulliau i gyfrifo cost amser staff wrth gyflawni gwahanol dasgau; a
  • methiant i brofi rhagdybiaethau a chostau gyda chyrff cyhoeddus unigol yr effeithir arnynt gan y Bil.
Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr angen i ymgynghori a phrofi rhagdybiaethau ymhellach gyda’r cyrff cyhoeddus yr effeithir arnynt gan y Bil, ond nid yw’n derbyn bod y costau wedi’u tanddatgan. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gwneud 9 argymhelliad yn ei adroddiad, sydd, yn fras, yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru:
  1. ailedrych ar yr holl gostau sy’n seiliedig ar ragdybiaethau am gyfraddau cost ac ymrwymiadau amser staff;
  2. diweddaru’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol fel ei fod yn cynnwys tabl clir yn dangos crynodeb o gost ddangosol y Bil yn gyffredinol, gyda chyflwyniad mwy cyson yn cymharu costau’r opsiynau ‘gwneud dim’ a ‘cyflwyno deddfwriaeth’;
  3. ailedrych ar ei rhagdybiaethau o ran i ba raddau y bydd y Bil yn arwain at gostau ychwanegol drwy gynnwys cyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaethau lleol mewn asesiad llawn o drefniadau presennol yn erbyn gofynion y Bil;
  4. ystyried ymhellach y goblygiadau o ran cost o alinio gofynion cynllunio a gofynion adrodd y Bil gyda’i gilydd a gyda gofynion presennol (fel y gofynion o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Fframwaith Cynllunio GIG Cymru);
  5. ystyried ymhellach y goblygiadau o ran cost o fonitro cyflawni amcanion lles gan yr Archwilydd Cyffredinol, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Llywodraeth Cymru;
  6. cyflwyno golwg tymor hwy o gostau tebygol y Bil dros y cyfnod o amser y disgwylir i’r Bil fod yn berthnasol iddo, nid dim ond y pum mlynedd nesaf, gan gydnabod yr egwyddor hirdymor yn y Bil ei hun;
  7. bod yn glir am y sail ar gyfer unrhyw dybiaethau a wneir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol;
  8. mynd i’r afael â phwyntiau eraill a godwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, fel rhan o’r gwaith o ddiweddaru’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol; ac
  9. adolygu a chryfhau gweithdrefnau ar gyfer datblygu Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yn y dyfodol, gan gynnwys protocolau ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Bydd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn helpu i lywio’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn yfory ar egwyddorion Cyffredinol y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Yn benodol, bydd yn hwyluso’r ddadl ar y Penderfyniad Ariannol sy’n ofynnol o dan Reolau Sefydlog y Cynulliad cyn y gellir symud ymlaen i Gyfnod 2 o’r Bil.