Canser yng Nghymru

Cyhoeddwyd 10/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Rhagfyr 2014 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG hyd at 2016, ym mis Mehefin 2012. Canfu ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r cynnydd a wnaed o ran rhoi’r Cynllun Cyflawni ar waith, er bod amcanion a dyheadau’r Cynllun wedi cael eu croesawu, nid oedd yr amcanion a’r dyheadau hynny’n cael eu hadlewyrchu ym mhrofiad gwirioneddol cleifion canser bob amser. Roedd adroddiad y Pwyllgor yn cynnig tri ar ddeg o argymhellion, gan gynnwys argymhellion ynghylch cryfhau arweinyddiaeth, a dulliau rhoi’r Cynllun ar waith, a gwella dulliau atal canser a sgrinio ar ei gyfer, yn enwedig ymhlith grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd. Amlygwyd yr angen am ddiagnosis ac atgyfeirio prydlon, a rôl meddygon teulu yn hyn o beth. Hefyd gwnaed argymhellion yn ymwneud â’r broses o geisiadau cyllido cleifion unigol (IPFR) er mwyn cael gafael ar driniaethau newydd, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran gofal diwedd oes a gofal lliniarol sydd ar gael. Cytunodd Llywodraeth Cymru â’r rhan fwyaf o’r argymhellion. Fodd bynnag, gwrthododd Argymhelliad 8; y dylid sefydlu panel cenedlaethol i wneud penderfyniadau am geisiadau cyllido cleifion unigol, i sicrhau y ceir cysondeb a thegwch ar draws Cymru. Cyfeiriodd y Gweinidog at waith diweddar a wnaed gan y grŵp adolygu ar y broses ceisiadau cyllido cleifion unigol:
Nid oedd y grŵp yn argymell y dylid sefydlu panel cenedlaethol, oherwydd ystyriwyd ei bod yn anymarferol ac yn annoeth i ddod â staff a chlinigwyr allweddol ledled Cymru at ei gilydd yn aml ar gyfer gwneud penderfyniadau am y broses ceisiadau cyllido cleifion unigol (...) byddwn yn adolygu’r broses eto, unwaith y bydd y trefniadau diwygiedig wedi cael cyfle i fwrw gwreiddiau.
Roedd ymateb y Llywodraeth i’r Pwyllgor hefyd yn nodi, er mwyn osgoi dyblygu o ran gweithdrefnau adrodd, na fydd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Pwyllgor ar y cynnydd ar ôl 12 mis (fel y gofynnwyd yn benodol mewn rhai o argymhellion y Pwyllgor). Dywedodd y Llywodraeth y bydd adroddiadau cynnydd blynyddol yn cael eu cyhoeddi bob mis Rhagfyr. Rhagor o wybodaeth: Nododd adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2013-14 bod cynnydd da wedi’i wneud yn ôl y cynllun cyflawni ar gyfer canser, ond amlygodd fod y gyfradd achosion o ganser 20 y cant yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, o’i gymharu â’r lleiaf difreintiedig, a bod cyfraddau goroesi Cymru o ran canser sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn is na’r cyfartaledd Ewropeaidd. Cynhyrchir Canser yng Nghymru (Ebrill 2014) gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru ac mae’n darparu data ar achosion o ganser, marwolaethau a goroesi. Mae GIG Cymru yn darparu tair rhaglen sgrinio ar gyfer canser y fron, canser y coluddyn a chanser ceg y groth. Gellir gweld ystadegau amseroedd aros canser ar wefan StatsCymru. Y targedau presennol sy’n ymwneud â chanser yw:
  • Bod o leiaf 95% o gleifion a gaiff eu hatgyfeirio ar frys gan eu meddyg teulu am fod amheuaeth bod ganddynt ganser a’u bod yna’n cael diagnosis gan arbenigwr canser, yn dechrau triniaeth ddiffiniol o fewn 62 diwrnod i gael eu hatgyfeirio;
  • Bod o leiaf 98% o gleifion na chânt eu hatgyfeirio ar frys am fod amheuaeth bod ganddynt ganser ond sy’n cael diagnosis o ganser, yn dechrau triniaeth ddiffiniol o fewn 31 diwrnod i gael diagnosis, waeth beth yw’r llwybr atgyfeirio.
Canfu’r adroddiad chwarterol diweddaraf (ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Medi 2014):
  • Nad oedd dim un o’r Byrddau Iechyd Lleol wedi cyrraedd y targed, y dylai o leiaf 95 y cant o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser drwy’r llwybr brys ddechrau triniaeth ddiffiniol o fewn 62 diwrnod.
  • Nad oedd dim un o’r chwe Bwrdd Iechyd Lleol wedi cyrraedd y targed, y dylai o leiaf 98 y cant o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser, nad oedd wedi’i wneud drwy’r llwybr brys, ddechrau triniaeth ddiffiniol o fewn 31 diwrnod.
Mae canlyniadau arolwg profiad y claf Canser Cymru ar gael ar lefel genedlaethol a lefel Byrddau Iechyd Lleol. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ariannu cyffuriau canser yn ein blog Ariannu Cyffuriau yn y GIG.