Rheoli Moroedd Cymru: Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 11/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Rhagfyr 2014
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2010" align="alignright" width="300"] Trwyddedwyd y llun gan 'Mooganic' o dan Creative Commons.[/caption] Sefydlodd Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 system newydd ar gyfer cynllunio ym moroedd y DU. Bydd cynllunio gofodol morol yn creu fframwaith ar gyfer gweithgareddau yn nyfroedd y glannau a'r môr mawr yng Nghymru. Nod y broses gynllunio yw sicrhau bod rhanddeiliaid yn deall pa weithgareddau sy’n debygol o gael eu caniatáu yn y gwahanol ddyfroedd a datrys, cyhyd ag y bo modd, unrhyw wrthdaro’n ymwneud â defnyddio’r môr, a hynny ar sail ofodol. Yn ôl Deddf y Môr, mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am baratoi Cynlluniau Morol yn nyfroedd glannau Cymru (0-12 môr-filltir) a dyfroedd môr mawr Cymru (12 môr-filltir at y llinell ganol rhwng Cymru ac Iwerddon). Gyda'r nod o hwyluso a chefnogi datblygu Cynlluniau Morol, mabwysiadodd Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig Ddatganiad Polisi Morol ar y cyd ym mis Mawrth 2011. Mae'r Datganiad yn cyflwyno gweledigaeth gyffredin o “sicrhau cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol”. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu Cynllun Morol ar gyfer Cymru. Ar 16 Chwefror 2011, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch sut yr oedd yn bwriadu mynd ati i baratoi cynlluniau morol. Ers yr ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y caiff un Cynllun Morol Cenedlaethol ei baratoi ar gyfer Cymru. Bydd y Cynllun yn ymdrin â dyfroedd y glannau a'r môr mawr sydd i'w gweld ar fap ar wefan Llywodraeth Cymru a bydd yn edrych ar yr 20 mlynedd nesaf. Nod Llywodraeth Cymru yw cael fersiwn gychwynnol ar gyfer y Cynllun ar waith erbyn 2015. Datganiadau o Gyfranogiad y Cyhoedd Cyn mynd ati i baratoi'r Cynlluniau Morol, mae'n rhaid i weinyddiaethau'r DU gyhoeddi Datganiadau o Gyfranogiad y Cyhoedd sy'n nodi sut y gall rhanddeiliaid fod yn rhan o'r broses o ddatblygu'r cynlluniau gwahanol. Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ei Ddatganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Nod yr ymgynghoriad oedd cael barn ynghylch sut a phryd y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid yn ystod y broses o baratoi Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 3 Chwefror 2014 a daeth i ben ar 28 Mawrth 2014. Cafwyd 56 o ymatebion. Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd 89% o'r ymatebwyr yn cytuno â'i dull o ymgysylltu â'r cyhoedd. Fodd bynnag, gwnaed awgrymiadau i wella'r ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno'r agweddau cadarnhaol ar ymgysylltu â rhanddeiliaid. Dim ond 5% o'r ymatebwyr oedd yn anghytuno â chynigion Llywodraeth Cymru, a'r prif reswm a nododd y rhain oedd diffyg ymgysylltu â'r diwydiant pysgota. Mae'r Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd ar gyfer cynllunio morol yng Nghymru bellach wedi'i gyhoeddi. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu grŵp cyfeirio rhanddeiliaid ar gyfer cynllunio morol fel rhan o ddull ehangach o ymgysylltu â rhanddeiliaid. Datblygu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn ddiweddar ynghylch Gweledigaeth ac Amcanion drafft ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn ogystal â'r strwythur arfaethedig ar ei gyfer. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am dri mis tan 10 Tachwedd 2014. Mae gweledigaeth ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cynnwys:
  • defnyddio moroedd Cymru mewn ffordd gynaliadwy sy'n cyfrannu at y broses o gyflawni nodau hirdymor Llywodraeth Cymru;
  • gwneud y gorau o'r potensial economaidd a chymdeithasol ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n ymweld, drwy reoli'r adnoddau naturiol morol mewn ffordd gadarn. Bydd hyn yn cynnwys cymunedau sydd â diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy'n ffynnu;
  • sicrhau bod cymunedau'n cydnabod y pwysigrwydd o gael ecosystem forol iach mewn perthynas â'u ffyniant a'u bod yn cymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o sicrhau hyn;
  • pwysleisio'r pwysigrwydd o gyfle cyfartal;
  • osgoi cymhlethdod a sicrhau eglurder.
Bydd amcanion strategol Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn adlewyrchu agenda a blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ynghyd â blaenoriaethau polisi strategol y DU a nodir yn UK High Level Marine Objectives (HLMO) a'r Datganiad Polisi Morol ar y cyd. Caiff yr Amcanion eu mabwysiadu ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, sef
  • sicrhau economi morol cynaliadwy;
  • sicrhau cymdeithas gref, iach a theg;
  • byw o fewn cyfyngiadau amgylcheddol;
  • hyrwyddo llywodraethu da; a
  • defnyddio gwyddoniaeth mewn ffordd gyfrifol.
Disgwylir cynnal ymgynghoriad llawn a ffurfiol ar fersiwn ddrafft derfynol o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn gynnar y flwyddyn nesaf. Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad wedi bod yn ystyried y polisi morol a chynllunio morol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd yn parhau i wneud hynny yn y Flwyddyn Newydd. Cyhoeddiad Newydd: Cynllunio Gofodol Morol