Y rhagolygon ar gyfer trethi Cymru a Datganiad yr Hydref 2014

Cyhoeddwyd 16/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Rhagfyr 2014 Erthygl gan Richard Bettley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Datganiad yr Hydref 2014 Llywodraeth y DU sy’n darparu’r rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd a hynny ar ffurf swm blynyddol, neu’r ‘grant bloc’. Bydd unrhyw newidiadau i’r grant bloc hwn, gwerth £15 biliwn, yn cael eu cyhoeddi yng Nghyllideb Llywodraeth y DU (ym mis Mawrth fel arfer) ac mae’n bosibl y bydd newidiadau hefyd yn Natganiad yr Hydref. Yn Nataniad yr Hydref 2014 ar 3 Rhagfyr 2014, cyhoeddwyd y byddai Cymru yn cael cyllid ychwaengol o £113.2 miliwn yn 2015-16, i’w wario yn ystod y flwyddyn, ac £8.8 miliwn ychwanegol i’w wario ar gyfalaf (h.y. prosiectau mwy hirdymor). Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y caiff £70 miliwn o’r cyllid ychwanegol ei wario ar GIG Cymru. Datganoli trethi Cymru Bydd Cymru yn cael rheoli rhai trethi penodol am y tro cyntaf o 2018 ymlaen o dan bwerau Bil Cymru. Mae’r egwyddorion ar gyfer datganoli’r trethi hyn wedi’u gosod allan gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y symiau a gasglwyd ar gyfer y trethi hyn yng Nghymru yn 2013-14:
  • Treth dir y doll stamp - £145 miliwn
  • Treth dirlenwi - £50 miliwn
  • Yr ardoll ardrethi – £23 miliwn. Caiff hyn ei ddatganoli yn amodol ar yr her gyfreithiol bresennol.
  • Cyfradd treth incwm Cymru (WRIT) – £1,900 miliwn. Nid yw treth incwm yn cael ei ddatganoli a bydd yn parhau i raddau halaeth yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bydd gostyngiad o 10c ym mhrif gyfraddau treth incwm y DU a bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu penderfynu ar gyfradd newydd. Byddai hyn yn cael ei ddatganoli ar ôl 2018, yn amodol ar refferendwm.
Bydd angen addasu grant bloc presennol Cymru gan mai Llywodraeth Cymru yn hytrach na Llywodraeth y DU fydd yn awr yn casglu’r trethi datganoledig o 2018. Er bod Llywodraeth y DU wedi amlinellu sut y rhoddir yr addasiadau hyn ar waith, maent yn dal i drafod y manylion gyda Llywodraeth Cymru. Mae methodoleg yr addasiadau hyn i’r grant bloc yn bwysig gan y byddant yn gostwng y cyllid a roddir i Gymru, a hynny’n barhaol. Yn ogystal â’r trethi datganoledig, amcangyfrifir bod Trysorlys Ei Mawrhydi yn cael £960 miliwn o Ardrethi Annomestig a gesglir yng Nghymru. Mae grant bloc Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnwys elfen i adlewyrchu hyn. O 1 Ebrill 2015 ymlaen, Cymru fydd yn cael yr Ardrethi Annomestig yn uniongyrchol, a chaiff y grant bloc ei addasu’n unol â hynny. Mae Datganiad yr Hydref yn nodi bod yr addasiad hwn wedi’i gytuno, er nad yw’r manylion wedi’u cyhoeddi eto. Y rhagolygon ar gyfer trethi Cymru  Mae’r rhagolygon cyntaf ar gyfer trethi Cymru yn y dyfodol wedi’u cyhoeddi ar y cyd â Datganiad yr Hydref 2014. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) eisoes yn cynhyrchu rhagolygon annibynnol ar gyfer trethi a chynlluniau gwariant Llywodraeth y DU, pan gyhoeddir cyllideb mis Mawrth a Datganiad yr Hydref. Maent hefyd yn awr yn gyfrifol am gyhoeddi rhagolygon ar gyfer trethi datganoledig Cymru. Caiff rhagolygon yr OBR eu defnyddio yn ystod y cyfnod a fydd yn arwain at 2018 i benderfynu ar yr addasiadau i grant bloc Cymru ar gyfer y flwyddyn ddilynol. Pan gaiff y trethi eu datganoli yn 2018, defnyddir y rhagolygon i addasu’r grant bloc ar gyfer y blynyddoedd wedyn. Methodoleg Mae’r OBR yn seilio’u rhagolygon ar gyfer trethi’r DU ar eu dealltwriaeth o economi’r DU. Maent yn defnyddio methodoleg wahanol wrth baratoi eu rhagolygon ar gyfer trethi Cymru gan fod llai o ddata ar gael yn ymwneud ag economi Cymru. Mae’r OBR yn nodi y byddant yn tybio’n gyffredinol y bydd cyfran bresennol Cymru o drethi amrywiol y DU yn parhau i gyd-fynd â swm y trethi a gesglir drwy’r DU gyfan. Byddant yn addasu’r fethodoleg hon os bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno newidiadau i’r trethi datganoledig, neu pan ddaw data newydd i law. Dylai’r rhagolygon felly fod yn fwy defnyddiol a pherthnasol ymhen amser. Tueddiadau yn y rhagolygon ar gyfer trethi Cymru [caption id="attachment_2038" align="alignnone" width="682"]Source: Office for Budget Responsibility, Economic and Fiscal Outlook - Devolved taxes forecast December 2014 Source: Office for Budget Responsibility, Economic and Fiscal Outlook - Devolved taxes forecast December 2014[/caption]  
  • Mae’r OBR yn nodi bod twf enillion a lefelau cyflogaeth yn is yng Nghymru ac, oherwydd hynny, mae cyfran Cymru o dreth incwm y DU wedi gostwng ers 2002-03. Mae’r newidiadau a wnaed yn ddiweddar i bolisi treth incwm y DU wedi effeithio’n wahanol ar Gymru o’i chymharu â Lloegr. Mae polisïau codi trethi Llywodraeth y DU wedi effeithio ar y rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf, yn gyffredinol, ond mae gan Gymru gyfran uwch sy’n ennill incwm isel, fodd bynnag. Nid yw’r OBR, felly, yn disgwyl y bydd cyfran y dreth incwm a gesglir yng Nghymru yn codi yn y dyfodol.
  • Mae cyfran Cymru o Dreth Dir y Doll Stamp wedi bod yn gostwng ers 2007-08 gan adlewyrchu cryfder cymharol prisiau eiddo yn Llundain. Mae’r OBR yn tybio y bydd prisiau tai yn cael eu dosbarthu’n fwy cyson yn y dyfodol.
  • Yn Natganiad yr Hydref hefyd newidiwyd cyfraddau Treth Dir y Doll Stamp mewn modd sy’n golygu y bydd llai o Doll Stamp i’w thalu’n gyffredinol ar dai rhad, ac na fydd unrhyw Doll Stamp ar rai. Mae’r OBR yn amcangyfrif y caiff hyn effaith anghymesur ar y Doll Stamp a gesglir yng Nghymru a hynny oherwydd bod prisiau tai yn is yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Yr effaith gyffredinol yw bod yr OBR yn amcangyfrif y bydd cyfran Cymru o Doll Stamp y DU yn is o 2015-16 ymlaen.
  • Gan fod cyfran Cymru o dunelledd tirlenwi ac agregau y DU wedi aros yn weddol gyson dros gyfnod, maent yn disgwyl y bydd y dreth dirlenwi a’r ardoll agregau yn parhau’n weddol gyson yn y dyfodol.