Mwy o gwestiynau nag atebion. I ble mae’r PAC yn mynd yn awr?

Cyhoeddwyd 13/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae mis Ionawr 2015 yn nodi dechrau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin ar ei newydd wedd. Y diwygiadau diweddaraf hyn yw’r mwyaf uchelgeisiol eto a bydd angen mwy o newidiadau dros y cyfnod PAC hwn nag a gafwyd mewn unrhyw gyfnod arall o newidiadau. Bydd angen dosbarthu taliadau i ffermwyr ar gyfer y flwyddyn hon ar sail y gofynion newydd. Mae hyn yn golygu bod angen i bob llywodraeth sy’n dosbarthu taliadau i ffermwyr drwy’r UE fabwysiadu systemau talu, rheoli ac ymgeisio newydd. Erbyn dechrau’r flwyddyn hon, roedd Llywodraeth Cymru wedi gobeithio y byddai ei system newydd wedi’i gynllunio’n weddol bendant. Byddai hyn yn golygu y gallai esbonio’r newidiadau i’r diwydiant ffermio mewn da bryd a sicrhau ei bod mewn sefyllfa dda i ddosbarthu taliadau i ffermwyr ar ddechrau cyfnod talu’r PAC ym mis Rhagfyr eleni. Fodd bynnag, oherwydd, her gyfreithiol lwyddiannus yn erbyn y system arfaethedig o ddosbarthu taliadau yng Nghymru y llynedd, bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddileu’r system a dechrau o’r dechrau eto. [caption id="attachment_2112" align="alignright" width="300"]Mathew Hillier. Trwyddedwyd o dan Creative Commons Mathew Hillier. Trwyddedwyd o dan Creative Commons[/caption] Y brif broblem sy’n wynebu Llywodraeth Cymru yw prinder amser. Ymgynghorwyd yn fanwl ynghylch y system dalu wreiddiol ym mis Ionawr 2013, ac ni chafodd ei ddileu tan fis Rhagfyr, a hynny ar ôl ymgymryd â chryn dipyn o waith y tu ôl i’r llenni. Gan y bydd ceisiadau am daliadau 2015 yn dechrau fis Mai, a bod angen i’r Comisiwn Ewropeaidd gymeradwyo unrhyw system a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru, does dim llawer o amser ar ôl i ailgynllunio ac ymgynghori â rhanddeiliaid ynghylch unrhyw gynigion newydd. Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd y newidiadau’n gohirio’r cyfnod ymgeisio, gallent arwain at oedi cyn i ffermwyr gael gwybod faint o arian y maent yn debygol o’i gael a chyn iddynt gael y taliad ei hun. Caiff ffermwyr daliadau PAC yn ystod cyfnod talu penodol rhwng mis Rhagfyr a mis Mehefin bob blwyddyn. O gofio bod ffermwyr yn dibynnu ar y taliadau hyn, gorau po gyntaf y cânt y taliadau. Yn draddodiadol, mae gan Lywodraeth Cymru record dda iawn o ran talu dros 90% o ffermwyr ar y diwrnod cyntaf posibl ym mis Rhagfyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn barod na fydd hyn yn bosibl eleni, efallai, oherwydd cymhlethdod y trefniadau newydd. Cafwyd cadarnhad yn awr y bydd y newidiadau angenrheidiol yn effeithio ymhellach ar ei gallu i ddosbarthu’r taliadau ym mis Rhagfyr 2015.

I ble mae Cymru yn mynd yn awr?

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau ymgynghori’n anffurfiol â rhanddeiliaid ynghylch y posibilrwydd o gynllunio system newydd ond mae’n debygol na fydd modd lansio ymgynghoriad ffurfiol tan fis Chwefror o leiaf. Yna bydd angen ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law a rhoi gwybod i’r Comisiwn Ewropeaidd. Ar sail y ceisiadau a gyflwynwyd gan ffermwyr ym mis Mai, bydd angen wedyn roi gwybod iddynt am y modd y caiff eu tir ei ddosbarthu o dan y system newydd a rhoi cyfle iddynt apelio yn erbyn hyn, os bydd angen. Ar ôl ystyried canlyniadau unrhyw apêl, bydd mewn sefyllfa i ddweud wrth ffermwyr faint y maent yn debygol o’i gael yn ystod y cyfnod talu nesaf. Amser a ddengys sut fath o system dalu a gaiff ei rhoi ar waith. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw’n debygol o ailgyflwyno’r categori ar gyfer Rhostiroedd, y cafwyd her gyfreithiol yn ei gylch, ond bydd yn glynu wrth ddwy brif egwyddor y cytunodd rhanddeiliaid arnynt eisoes. Bydd yn ceisio tarfu cyn lleied â phosibl ar ffermwyr a chydnabod cymeriad y tir drwy’r cyfraddau talu. Y tu hwnt i hyn, does dim byd yn sicr. Er bod rheoliadau’r PAC yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau a’r Rhanbarthau ddatblygu system o ddosbarthu taliadau i ffermwyr sy’n seiliedig ar ardaloedd erbyn 2019, mae hefyd yn rhoi cryn dipyn o hyblygrwydd o ran sut y maent yn dewis gwneud hynny a hyd y cyfnod talu. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi dweud eu bod yn bwriadu defnyddio system dosbarthu taliadau sy’n gwbl seiliedig ar ardal erbyn 2019 ond mae Gogledd Iwerddon wedi penderfynu defnyddio’r system hon yn rhannol. Bydd angen i Lywodraeth Cymru hefyd ystyried goblygiadau unrhyw system ddosbarthu newydd ar gyfer elfennau eraill y PAC fel y Rhaglen Datblygu Gwledig. Mae rhagor o wybodaeth am fanylion yr her gyfreithiol a phenderfyniad y Dirprwy Weinidog i ddileu’r system ddosbarthu wreiddiol i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru yma.
Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.