Rhoi terfyn ar sefyllfa ddiddatrys? Rhoi hawliau pellach i aelod-wladwriaethau wahardd cnydau GMO ar eu tiriogaethau.

Cyhoeddwyd 16/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_2126" align="alignnone" width="682"]Llun Flickr gan Perry McKenna . Trwyddedwyd o dan Creative Commons. Llun Flickr gan Perry McKenna . Trwyddedwyd o dan Creative Commons.[/caption] Bydd gan aelod-wladwriaethau hawliau cyfreithiol cryfach i wahardd tyfu Organeddau a Addaswyd yn Enetig (GMO) ar eu tiriogaethau yn dilyn trafodaethau a gynhaliwyd gan yr UE ar 3 a 4 Rhagfyr. Roedd y trafodaethau, rhwng y Cyngor Ewropeaidd a Senedd Ewrop, wedi’u seilio ar gynnig y Comisiwn Ewropeaidd i ganiatáu gwaharddiadau tyfu cenedlaethol, hyd yn oed os bydd cnwd GMO wedi cael ei gymeradwyo ar lefel yr UE, gyda’r nod o roi terfyn ar sefyllfa ddiddatrys o ran awdurdodi cnydau GM yn yr UE. Mae’r blog hwn yn dilyn y wybodaeth a geir yn y Pigion, sy’n dwyn y teitl Organeddau a Addaswyd yn Enetig (GMO): Newidiadau i’r broses awdurdodi ar gyfer eu tyfu o ran amlinellu casgliadau’r trafodaethau diweddar. I gael rhagor o fanylion am y broses o awdurdodi Organeddau a Addaswyd yn Enetig a’r rheoliad newydd, gweler ein Nodyn Ymchwil sydd ar fin cael ei gyhoeddi.

Cefndir

Rhoddwyd hawl i dyfu cnydau GMO yn yr Undeb Ewropeaidd (yr UE) yn dilyn cais gan gwmni. Ar hyn o bryd, dim ond un cnwd a gymeradwywyd ar gyfer ei dyfu’n fasnachol yn yr UE; sef indrawn sy’n gwrthsefyll pryfed (MON 810). Y rheswm pam mai ychydig iawn o amrywiaethau GM sydd wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer eu tyfu mewn dros 12 mlynedd yw, am fod aelod-wladwriaethau yn aml wedi methu â chyrraedd mwyafrif cymwysedig yn y broses awdurdodi, sydd wedi arwain at sefyllfa ddiddatrys yn y Cyngor. Mae rhan o Erthygl 23 o Gyfarwyddeb 2001/18/EC, sef, y ‘cymal diogelu’, yn caniatáu i aelod-wladwriaethau gyfyngu ar dyfu neu ddefnyddio cynnyrch GMO a awdurdodwyd, neu’u gwahardd, os oes ganddynt dystiolaeth wyddonol ychwanegol sy’n profi bod y cynnyrch yn berygl i’r amgylchedd a/neu iechyd pobl ar eu tiriogaeth. Fodd bynnag, ychydig o aelod-wladwriaethau sydd wedi defnyddio’r cymal diogelu yn llwyddiannus i wahardd GMO oherwydd nad yw Awdurdod Diogelu Bwyd Ewrop (EFSA) wedi cymeradwyo’r dystiolaeth a ddarparwyd. Roedd rheoliad arfaethedig y Comisiwn (a oedd yn diwygio Cyfarwyddeb 2001/18/EC), a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2010, â’r nod o roi rhagor o bwerau i aelod-wladwriaethau gyfyngu ar dyfu GMOau ar eu tiriogaeth, heb iddynt orfod defnyddio’r mesurau diogelu presennol. Byddai hyn yn caniatáu i’r gwledydd sydd o blaid GMO gael yr opsiwn i dyfu mathau newydd o gnydau, ac yn caniatáu i eraill optio allan ar nifer o seiliau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol.

Canlyniad y trafodaethau

Ar ôl pedair blynedd o drafodaethau, daethpwyd i gyfaddawd ar ddechrau mis Rhagfyr 2014. Mae’r testun, a gymeradwywyd gan Bwyllgor Cynrychiolwyr Parhaol y Cyngor (COREPER) ar 10 Rhagfyr 2014, yn rhoi’r hawl i Aelod-wladwriaethau basio deddfau cyfreithiol rhwymol sy’n cyfyngu ar dyfu cnydau GMO neu’n eu gwahardd. Mae’r rhestr gymeradwy o resymau dros wahardd yn cynnwys polisïau cynllunio gwlad a thref, defnydd o dir, effeithiau economaidd-gymdeithasol, cydfodoli a pholisi cyhoeddus. Bydd yr amcanion polisi amgylcheddol a ddefnyddir ar gyfer cyfiawnhau gwaharddiad yn berthnasol i effeithiau amgylcheddol ar wahân i’r risgiau i iechyd a’r amgylchedd a aseswyd yn ystod asesiad risg gwyddonol yr EFSA. Gallai gwaharddiadau hefyd gynnwys grwpiau o GMO a ddynodir yn ôl cnydau neu nodwedd. Nid oedd y cytundeb newydd yn cynnwys galwadau gan Aelodau o Senedd Ewrop am restr llawer ehangach o resymau, gan gynnwys rhesymau amgylcheddol penodol. Mae’r cytundeb hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau sicrhau nad yw cnydau GMO yn halogi cynhyrchion eraill, a dylid rhoi sylw hefyd i atal halogi trawsffiniol gyda gwledydd cyfagos, lle mae GMO wedi’u gwahardd. Dywedodd Giovanni La Via, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd:
This agreement was long overdue and we welcome this result…Member states wishing to restrict or ban GMOs would now have the possibility to do so, without facing the risk of being taken to court. It is important to let the member states take a decision in full subsidiarity, and to listen to our citizens, who, in certain member states, refuse to have GMOs forced upon them.
Mae sylwebyddion eraill yn parhau’n amheus ynghylch a fydd y cytundeb yn newid y gyfradd cymeradwyaethau [Ffeithiau Agra No.90-14]. Mae Greenpeace yn nodi bod y testun y cytunwyd arno yn wan yn gyfreithiol, ac mae’n siomedig bod y cyfaddawd terfynol yn gwrthod galwadau gan Senedd Ewrop i adfer hawl gwledydd i ddefnyddio pryderon amgylcheddol i wahardd tyfu GM. Rhaid i aelod-wladwriaethau a Senedd Ewrop bleidleisio ar y cytundeb terfynol, a disgwylir pleidlais yn y cyfarfod llawn yn Ionawr 2015. Disgwylir i’r rheoliad ddod i rym yn ystod y gwanwyn 2015. Daw’r cytundeb wrth i’r Comisiwn benderfynu ar y gymeradwyaeth derfynol i indrawn a addaswyd yn enetig DuPont Pioneer 1507, a allai fod yn ail gnwd indrawn GM i gael ei dyfu yn yr UE yn dilyn y cais am awdurdodiad, a gyflwynwyd yn 2001.
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.