Beth nesaf i dwristiaeth yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 20/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Bydd adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar dwristiaeth yng Nghymru yn cael ei drafod gan Aelodau'r Cynulliad ddydd Mercher (21 Ionawr 2015). Yr wythnos diwethaf, ymatebodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i adroddiad y Pwyllgor, gan dderbyn pob un o'r 28 o argymhellion, heblaw 2 a dderbyniwyd mewn egwyddor. Roedd y gwaith hwn yn y Cynulliad yn dilyn ymchwiliad diweddar gan y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin, lle daeth ei adroddiad i sut y caiff Cymru ei chynrychioli a'i hyrwyddo gan sefydliadau'r DU yn rhyngwladol i gasgliadau tebyg. Yn ystod ymchwiliad y Cynulliad, bu'r Pwyllgor yn cwrdd â rhanddeiliaid allweddol yn ffurfiol yn y Senedd, gan gynnwys Cynghrair Twristiaeth Cymru, yr Athro Annette Pritchard o Ganolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon ar y pryd. Cynhaliodd hefyd dair sesiwn gyda grwpiau ffocws ledled Cymru: yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd; Oriel y Parc, Tyddewi; a Cheudyllau Llechi Llechwedd, Blaenau Ffestiniog. [caption id="attachment_2154" align="alignright" width="300"]Llun Flickr gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Trwyddedwyd o dan Creative Commons. Y Pwyllgor ar eu hymweliad â Bounce Below yng Ngheudyllau Llechwedd fis Medi diwethaf Llun Flickr gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.
Y Pwyllgor ar eu hymweliad â Bounce Below yng Ngheudyllau Llechwedd fis Medi diwethaf[/caption] Targed Llywodraeth Cymru (yn ei strategaeth ar gyfer twristiaeth, sef Partneriaeth ar gyfer Twf) yw cynyddu'r enillion o dwristiaeth yng Nghymru 10% mewn termau real erbyn 2020.  Er mwyn sicrhau'r nod hwn, bydd yn rhaid i enillion o dwristiaeth gynyddu, ar gyfartaledd, tua 1.4% mewn termau real bob blwyddyn: mae'r twf ar hyn o bryd yn rhagori ar y targed hwn. Mae'r ffigurau a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru fis Hydref diwethaf ar gyfer chwe mis cyntaf 2014 yn dangos cyfanswm nifer y teithiau i Gymru, yn ogystal â gwariant cysylltiedig, gyda'r ddau yn fwy na'r un cyfnod yn 2013. Roedd y ddwy gyfres o ffigurau ar gyfer Prydain Fawr ar y cyfan yn dangos gostyngiad yn ystod yr un cyfnod. Croesawodd y tystion y twf diweddar mewn twristiaeth yng Nghymru, yn ogystal â thynnu sylw at nifer o feysydd lle roeddent o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy. Dywedodd busnesau twristiaeth ac academyddion fod angen brand twristiaeth cryfach ar Gymru i wneud y gorau o'r potensial enfawr sydd ganddi o ran twristiaeth. Dywedodd yr Athro Pritchard wrth y Pwyllgor:
Brand Wales is at a tipping point. It needs greater clarity, stakeholder buy-in and consumer and media resonance.
Croesawodd y Pwyllgor y gwaith brandio diweddar a wnaed gan Ashton Brand Consulting Group i Lywodraeth Cymru, ond dywedodd fod angen bwrw ymlaen â'r gwaith hwn er mwyn sicrhau brand twristiaeth clir a chyson i Gymru. Teimla hefyd fod yn rhaid i fusnesau twristiaeth fod yn rhan o'r broses hon fel y gall pob rhanddeiliad – o Croeso Cymru i fusnesau bach a chanolig ym maes twristiaeth – gydweithio i ddatblygu twristiaeth yng Nghymru. Roedd nifer o dystion yn ansicr a yw Llywodraeth Cymru yn buddsoddi digon o arian yn y diwydiant twristiaeth. Clywodd y Pwyllgor fod y gwariant ar dwristiaeth yng Nghymru tua'r un faint â'r gwariant yn Glasgow, ac yn aml, gwneir elw ar yr arian a gaiff ei fuddsoddi mewn marchnata ym maes twristiaeth. Felly, galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i ailasesu a yw'n gwario digon o arian ar hyrwyddo Cymru mewn perthynas â thwristiaeth. Roedd y Pwyllgor yn pryderu nad yw VisitBritain (asiantaeth datblygu twristiaeth Llywodraeth y DU) yn gwneud digon i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan penodol yn y DU, ac mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda VisitBritain i bennu targedau heriol o ran twf i wella twristiaeth yng Nghymru.  Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r ffaith i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin ddod i gasgliadau tebyg yn ei ymchwiliad diweddar, ac mae'n galw ar VisitBritain i weithredu argymhellion y ddau adroddiad hyn. Aeth y Dirprwy Weinidog i'r afael â'r materion hyn i gyd yn ei ymateb i'r adroddiad. Er enghraifft, o ran pennu targedau heriol o ran twf ar gyfer VisitBritain i wella twristiaeth yng Nghymru, nododd fod Llywodraeth Cymru wedi galw am hyn, yn ei thystiolaeth ysgrifenedig (gwrthododd Edwina Hart AC, y Gweinidog Twristiaeth ar y pryd, wahoddiad i ymddangos yn bersonol) i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig ac yn adolygiad teirblynyddol diweddar Llywodraeth y DU o VisitBritain. Fodd bynnag, bydd yn rhaid aros i weld beth fydd canlyniadau'r galwadau hyn. O ystyried y twf diweddar yn y sector, mae llawer o adroddiad y Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â gwneud newidiadau sylweddol i gyfeiriad y polisi twristiaeth, a bwrw ymlaen gyda'r gwaith sy'n mynd rhagddo, a gwella'r gwaith hwnnw. Ddydd Mercher bydd yr Aelodau'n cael cyfle i gael rhagor o fanylion am sut y mae'r Dirprwy Weinidog yn bwriadu gwneud hyn.
Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.