A yw’n bryd cael Deddf Awtistiaeth yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 21/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Cyflwr datblygiadol yw awtistiaeth ac mae’n effeithio ar allu person i gyfathrebu ac ymwneud ag eraill. Mae’n gyflwr sbectrwm ac mae felly’n effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol; gall rhywun sydd ag awtistiaeth hefyd fod â nodweddion cysylltiedig eraill, megis sensitifrwydd synhwyraidd neu anabledd dysgu. Yn ôl  Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS) Cymru, mae gan tua 30,000 o bobl yng Nghymru awtistiaeth. Lansiodd Llywodraeth Cymru y  Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig  ym mis Ebrill 2008. Y cynllun gweithredu hwn oedd y cyntaf o'i fath yn y DU; roedd yn cyflwyno canllawiau penodol ar awtistiaeth i asiantaethau lleol, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Dyrannodd Llywodraeth Cymru gronfa neilltuol ar gyfer pob awdurdod lleol i ddatblygu cymorth sy'n canolbwyntio ar awtistiaeth. [caption id="attachment_2165" align="alignright" width="300"]Llun o Flickr gan darrenjsylvester. Dan drwydded Creative Commons Llun o Flickr gan darrenjsylvester. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae’r camau gweithredu allweddol a nodir yn y cynllun gweithredu yn cynnwys:
  • penodi arweinydd awtistiaeth ym mhob awdurdod lleol;
  • sefydlu grŵp rhanddeiliaid lleol, a ddylai gynnwys rhieni, gofalwyr a phobl sydd ag awtistiaeth, yn ardal pob cyngor; a
  • datblygu cynlluniau gweithredu awtistiaeth lleol.
Ymddengys bod cytundeb cyffredinol bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud o ganlyniad i'r cynllun gweithredu, yn arbennig gan ei fod wedi creu seilwaith lleol ym mhob awdurdod lleol, a chlustnodi arian i’w roi ar waith. Fodd bynnag, ceir cytundeb cyffredinol hefyd fod angen gwneud rhagor eto i helpu pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Er bod  Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn credu bod y cynllun gweithredu strategol yn ddechrau da, mae’n dweud hefyd mai anghyson fu’r broses o’i roi ar waith mewn awdurdodau lleol. Dros chwe blynedd ers ei gyhoeddi, mae plant ac oedolion ag awtistiaeth yn dal i frwydro i gael diagnosis, ac mae’r cymorth sydd ar gael ledled Cymru yn anghyson iawn. Er bod diagnosis i oedolion wedi gwella, prin iawn yw’r cymorth sydd ar gael ar ôl cael diagnosis. Yn ôl ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a holodd pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd ar hyd a lled Cymru :
  • roedd 58% o bobl ag awtistiaeth yng Nghymru yn dweud bod y broses o gael diagnosis yn dal yn rhy hir;
  • dim ond 21% oedd yn fodlon â'r cymorth a gawsant yn dilyn y diagnosis;
  • dim ond 34% o rieni oedd yn teimlo eu bod yn cael digon o gymorth wrth ddewis lleoliad addysgol priodol ar gyfer eu plentyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru wedi cael dros £12 miliwn drwy’r cynllun gweithredu ers 2008. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda'r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig (ASD) i ddiweddaru'r cynllun gweithredu a nodi blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Dywedodd y Prif Weinidog y ‘caiff y gwaith ei gwblhau yn y flwyddyn newydd'. O fis Ebrill 2015 ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn dileu’r cyllid a glustnodwyd i roi’r cynllun gweithredu ar waith, ac yn trosglwyddo arian i gyllideb gyffredinol awdurdodau lleol drwy'r Grant Cynnal Refeniw. Mae hyn yn peri pryder i randdeiliaid (trafodwyd y mater yn y Cyfarfod Llawn ym mis Rhagfyr 2014). Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn ymgyrchu dros Ddeddf Awtistiaeth newydd i Gymru, a fyddai’n cyflwyno dyletswyddau i sicrhau bod pob cyngor yng Nghymru yn cymryd camau priodol ym maes awtistiaeth. Mae'n credu bod angen i ddeddfwriaeth yng Nghymru:
  • sicrhau bod plant ac oedolion ag awtistiaeth yng Nghymru cael diagnosis amserol;
  • gwella dealltwriaeth o awtistiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol allweddol;
  • cyflwyno dyletswyddau newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i’r holl awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd gymryd camau priodol i sicrhau bod plant ac oedolion ag awtistiaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Hyd yma mae dros 2,800 o bobl wedi llofnodi deiseb Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn galw am Ddeddf Awtistiaeth yng Nghymru, ac yn y Cyfarfod Llawn heddiw, cynhelir dadl aelod unigol ar y pwnc, a gyflwynwir gan Mark Isherwood AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth. Mae deddfwriaeth benodol ar awtistiaeth eisoes yn bod yn Lloegr, sef  Deddf Awtistiaeth 2009, ac yng Ngogledd Iwerddon, sef Ddeddf Awtistiaeth (Gogledd Iwerddon) 2011. Galwyd droeon yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddar ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno Deddf Awtistiaeth. Ym mis Rhagfyr 2014, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn cael cyngor gan y Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid ASD ynghylch y camau nesaf y mae angen eu cymryd ym maes awtistiaeth, a dywedodd:
Mae’r syniad o gyflwyno Deddf Awtistiaeth yn rhan o'n trafodaethau. Mae gennyf feddwl agored am y peth. Byddaf yn ystyried y cyngor a gaf. Os yw'n wir y gallem gymryd camau i gryfhau sail ddeddfwriaethol y gwasanaethau hyn, yna rwyf yn barod iawn i ystyried hynny.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog hefyd fod deddfwriaeth yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei hystyried. Fodd bynnag, dywedodd na fyddai modd cyflwyno Bil o’r fath yn awr tan wedi 2016, o ystyried faint o amser sydd ar ôl yn y Cynulliad hwn.
Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.