Cynhwysiant ariannol yng Nghymru: beth sydd gan y Llywodraeth ar y gweill?

Cyhoeddwyd 27/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Heddiw yn y Cynulliad (27 Ionawr 2015), fe fydd y Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi yn gwneud datganiad am ‘adnewyddu’r agenda cynhwysiant ariannol’. Bydd y rheini sy’n ymwneud â’r maes yn gwrando’n astud ar yr hyn sydd gan Lesley Griffiths AC i’w ddweud. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gwlad sy’n gynhwysol yn ariannol yn wlad lle mae pawb yn gallu manteisio ar amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau ariannol, a hynny’n galluogi pobl i reoli eu harian yn effeithiol waeth beth yw eu hincwm, eu statws cymdeithasol neu eu gallu. Er mwyn i gynhwysiant ariannol fod yn realiti, mae angen cefnogaeth ar bobl i feithrin sgiliau ariannol sylfaenol, a dylent wybod ychydig am wahanol gynhyrchion ariannol a’u deall. [caption id="attachment_2191" align="alignright" width="300"]Llun: o Pixabay, Dan drwydded Creative Commons Llun: o Pixabay, Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae cynhwysiant ariannol wedi bod yn bwnc amlwg ar agenda’r Cynulliad dros y misoedd diwethaf. Yn benodol, yn yr hydref, bu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn craffu ar Fil gan Bethan Jenkins AC ar hyn. Bil oedd hwn yn ceisio cryfhau sut mae addysg ariannol yn cael ei ddarparu fel rhan o’r cwricwlwm mewn ysgolion, a gwella sut mae awdurdodau lleol yn bwrw ati gyda gwaith yn y maes. Er nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi deddfwriaeth newydd, fe ymatebodd i’r cynigion yn y Bil gyda sawl ymrwymiad. Yn eu plith roedd y bwriad i adnewyddu Strategaeth Cynhwysiant Ariannol bresennol y Llywodraeth a datblygu’r cynllun gweithredu sy’n cyd-fynd â’r strategaeth honno. Bydd llawer yn teimlo’i bod yn hen bryd i hyn ddigwydd. Cyhoeddwyd Strategaeth Cynhwysiant Ariannol gyntaf erioed y Llywodraeth ym mis Mehefin 2009, ac er cytuno ar flaenoriaethau newydd ar gyfer y cyfnod rhwng 2011 a 2013, nid oes dim byd diweddarach wedi’i gyhoeddi. Nid yw’r Llywodraeth chwaith wedi cynnal unrhyw adolygiadau o sylwedd na chyhoeddi adroddiadau blynyddol ar y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol y tu hwnt i’r un cyntaf a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010. Nod wreiddiol y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol oedd annog sefydliadau i weithio ar y cyd yn y maes hwn. Roedd y strategaeth yn amlinellu camau y gallai’r Llywodraeth a gwahanol bartneriaid eu cymryd er mwyn:
  • Gwella sut oedd pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau ariannol prif-ffrwd;
  • Darparu gwasanaethau credyd fforddiadwy;
  • Gwella’r cyngor oedd ar gael am arian a dyledion;
  • Gwella sgiliau a llythrennedd ariannol pobl;
  • Helpu pobl i fanteisio i’r eithaf ar eu hincwm.
Sefydlwyd tîm o Hyrwyddwyr Cynhwysiant Ariannol i ddatblygu partneriaethau rhwng sefydliadau sy’n gweithio yn y maes. Gall sefydliadau o’r fath gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, banciau, darparwyr cyngor (fel y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a Chyngor ar Bopeth), sefydliadau cymunedol ac elusennau. Ers 2009, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymryd camau i gefnogi undebau credyd ac i adolygu sut mae gwasanaethau cynghori yn cael eu darparu ledled y wlad. Mae hyn ynghyd â chymryd camau fel cyhoeddi fframwaith strategol i wella cynhwysiant digidol a chynllun gweithredu i drechu tlodi. Fodd bynnag, nid pawb fyddai’n cytuno bod ymateb y Llywodraeth i’r agenda cynhwysiant ariannol wedi bod yn ddigonol. Er enghraifft, cynhaliodd Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad ymchwiliad i hyn yn 2010, a chasglu fod pobl yn dal i orfod dysgu sut i reoli eu harian drwy brofiadau anodd. Ar ben hynny, yn 2012, dywedodd Tai Cymunedol Cymru wrth Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad fod Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cymru wedi bod yn fethiant a’i fod yn brin o uchelgais. Mae beirniaid hefyd yn dadlau fod newidiadau i’r hinsawdd ariannol, gan gynnwys polisïau cyni Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chyflwyno’r Credyd Cynhwysol, yn golygu fod pobl angen mwy o gymorth nag erioed i reoli eu harian yn fwy effeithiol. O ychwanegu at hynny dwf y benthycwyr diwrnod cyflog, benthycwyr didrwydded a galwadau diwahoddiad, mae llawer yn gryf o’r farn fod cynhwysiant ariannol yn fater sydd angen rhagor o sylw. Trafodwyd rhai o’r materion hyn yn fanylach yn ystod gwaith diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a fu’n craffu ar Fil Bethan Jenkins AC. Ymhlith argymhellion y Pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau ar lefel genedlaethol i hyrwyddo cynhwysiant ariannol – er enghraifft, trwy ddiweddaru ei Strategaeth Cynhwysiant Ariannol. Mae’n debyg y cawn argoel o’r hyn sydd gan y Llywodraeth ar y gweill yn y datganiad heddiw.
Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.