Ystadegau diweddaraf ‘cyraeddiadau academaidd a'r hawl i brydau am ddim’

Cyhoeddwyd 28/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_2218" align="alignnone" width="300"]Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Yn ôl ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru, sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, tra bo’r bwlch wedi lleihau rhwng cyrhaeddiad academaidd disgyblion y Cyfnod Sylfaen sydd â’r hawl i brydau ysgol am ddim a phlant sydd heb, lledodd y bwlch yng nghyfnod allweddol 4 am y tro cyntaf ers 2010. Er fod gwelliant yng nghyrhaeddiad y ddau grwp o ddisgyblion yn y flwyddyn ddiwethaf, gellir egluro'r ehangu'r bwlch gan fod cyrhaeddiant ddisgyblion nad ydynt a’r hawl i brydau ysgol am ddim wedi gwella yn gyflymach na chyrhaeddiad y disgyblion sydd a hawl i brydau am ddim.

Ers 2008 mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar dair blaenoriaeth rhyng-gysylltiedig ar y polisi addysg: gwella lefelau llythrennedd; gwella lefelau rhifedd; a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Yn fwy diweddar, yn 2013, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau mai cau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer plant o gartrefi incwm isel oedd 'prif flaenoriaeth' ei adran. Mae cysylltiad cryf rhwng cyrhaeddiad a hawl disgybl i gael prydau ysgol am ddim. Mae'r bwlch perfformiad rhwng disgyblion sydd â'r hawl i gael prydau ysgol am ddim a phlant nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cynyddu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.

Targedau Llywodraeth Cymru

Mae cynllun Llywodraeth Cymru Creu cymunedau cryf: Symud ymlaen â’r cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi: a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2013 yn cynnwys dau darged: un ar ddiwedd y cyfnod sylfaen a'r llall yng nghyfnod allweddol 4.

Targed y Cyfnod Sylfaen

Mae dangosydd y Cyfnod Sylfaen yn mesur canran y disgyblion sy'n cyflawni'r canlyniadau disgwyliedig yn 7 oed trwy asesiadau athrawon. Targed Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn 2012, yw:

'Targed: Lleihau’r bwlch rhwng lefelau cyrhaeddiad dysgwyr 7 oed sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n cyrraedd y lefelau disgwyliedig ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, fel y caiff ei fesur gan ddangosydd y Cyfnod Sylfaen, o 10 y cant erbyn 2017. 18.3 y cant oedd y gwahaniaeth rhwng cyrhaeddiad plant sy'n cael prydau ysgol am ddim a phlant eraill yn 2012.'

Yn gryno, y targed yw i leihau'r bwlch 1.83 pwynt canran dros gyfnod o 6 blynedd, sy'n 10 y cant o'r bwlch gwreiddiol o 18.3 y cant a gofnodwyd yn y flwyddyn 2011/2012. Dengys yr ystadegau diweddaraf mai 16.3 pwynt canran oedd y bwlch rhwng disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a disgyblion nad oeddynt yn cael prydau ysgol am ddim yn 2014. Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 1.4 pwynt canran y bwlch o gymharu â 2012/13.

Yn ystod sesiwn graffu o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, cyfaddefodd y Gweinidog nad oedd y targed yn ddigon uchelgeisiol gan ddweud bod '[...] angen un newydd fydd yn ein gwthio ymhellach [..]'. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei fod yn bwriadu gwneud hyn ar ôl cyhoeddi canlyniadau heddiw.

Targed Cyfnod Allweddol 4

Targed Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn 2012, yw:

'Targed: Gwella lefelau cyrhaeddiad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi ei fesur fel canran y dysgwyr 15 oed sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy’n cyrraedd Lefel 2 yng Nghyfnod Allweddol 4 (TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg neu gyfatebol), i 37 y cant erbyn 2017. 23.4% oedd y canran yn 2012.'

Yn gryno, mae'r targed hwn yn mesur perfformiad y garfan o ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, yn hytrach na'r bwlch mewn cyrhaeddiad sy'n cael ei fesur ar gyfer y Targed Cyfnod Sylfaen.

Yn 2013/14, yng Nghyfnod Allweddol 4, cyrhaeddodd 27.8 y cant o ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim drothwy lefel 2 (gan gynnwys graddau A*-C TGAU Cymraeg/Saesneg a Mathemateg) o gymharu â 61.6 y cant o ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r data diweddaraf yn dangos fod y bwlch yn mewn cyrhaeddiad wedi tyfu rhwng 2012/12 a 2013/14 ar ôl lleihau yn y tair blynedd diwetha.

Mae perfformiad disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim wedi gwella 4.4 pwynt canran ers pennu'r targed yn 2011/12 ac mae angen i'w perfformiad gynyddu 9.2 pwynt canran yn rhagor dros y dair blynedd nesaf i gwrdd â tharged Llywodraeth Cymru.

Comisiwn y DU ar Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant

Cyhoeddwyd ail adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' Comisiwn y DU ar Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant ym mis Hydref 2014. Dywedodd yr adroddiad:

'We are especially concerned that poor pupils in Wales lag behind those elsewhere in the UK with only 26 per cent of Welsh children who are eligible for free school meals achieving five good GCSEs (including English and maths) compared with 38 per cent of children eligible for free school meals in England.'

Dywedodd hefyd:

'Better-off pupils are more than twice as likely as those eligible for FSM to achieve five good GCSEs (including English or Welsh and mathematics).The attainment of Welsh children eligible for FSM is lower than in all but six of the 152 local authority areas in England. This is unacceptable and means that too many poor children in Wales are being let down by the existing schools system. Change is urgently needed.'

Cyhoeddir adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ‘Ymchwiliad i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel’ yn fuan.


Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.