Sgrinio am ganser a diagnosis cynnar yng Nghymru

Cyhoeddwyd 29/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Gall dod o hyd i ganser yn gynnar wneud tipyn o wahaniaeth oherwydd y gall diagnosis cynnar arwain at driniaeth symlach sy'n fwy tebygol o fod yn effeithiol. Mae GIG Cymru a GIG Lloegr wedi bod yn datblygu strategaethau gwahanol ar gyfer sicrhau diagnosis cynnar o ganser. Yn 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cyflawni ar gyfer Canser--cynllun cyflawni hyd at 2016 ar gyfer GIG Cymru. Mae'r Cynllun yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal ac adolygu rhaglenni sgrinio, ac i annog pobl i fanteisio ar raglenni sgrinio, gan dargedu'n benodol 'y rheini sy'n llai tebygol o fanteisio ar raglenni sgrinio.' O ran diagnosis cynnar, mae'r Cynllun yn pwysleisio datblygu gwasanaethau oncoleg 'er mwyn cefnogi'r broses ddiagnostig ar gyfer cleifion a gaiff eu derbyn fel achosion brys', a chodi ymwybyddiaeth 'y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol o risgiau a symptomau canser a sut i weithredu'n gyflym ac yn briodol o ganlyniad i'r wybodaeth hon.' Yn ddiweddar, lansiodd GIG Lloegr raglen diagnosis cynnar ynglŷn â chanser fel rhan o weledigaeth y GIG ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae'r rhaglen diagnosis cynnar yn cynnwys mentrau:
...sy'n rhoi'r dewis i gleifion gyfeirio eu hunain ar gyfer profion diagnostig; sy'n gostwng trothwyon cyfeirio i feddygon teulu; a chanolfannau diagnostig amlddisgyblaethol lle gall cleifion gael nifer o brofion yn yr un lle ac ar yr un diwrnod.
Yng Nghymru, aeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad ati yn ddiweddar i gynnal ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru. Yn ei argymhellion i'r Gweinidog, pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd:
  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol o ran y nifer sy'n manteisio ar raglenni sgrinio;
  • Parhau i godi ymwybyddiaeth ymhlith meddygon teulu o symptomau canser, a hynny i wella'r broses o gael diagnosis cynnar;
  • Parhau i ddatblygu adnoddau a allai helpu meddygon teulu i wneud diagnosis cynnar o ganser; a
  • Sicrhau bod meddygon teulu yn sicr am y gwasanaethau sydd ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor ynghylch sgrinio a diagnosis cynnar o ganser. Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi ar ganser drwy ei Grŵp Gweithredu ar Ganser, sy'n cael cyngor gan y Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol ar Ganser. Mae dau rwydwaith canser, sef Rhwydwaith Canser De Cymru a Rhwydwaith Canser Gogledd Cymru, yn gweithio gyda darparwyr i gydgysylltu'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau canser.

Sgrinio am ganser

Mae gan GIG Cymru dair rhaglen sgrinio canser sy'n cael eu darparu ar sail cyngor Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a Phwyllgor Sgrinio Cymru: Mae'r tabl a ganlyn yn dangos y cyfraddau ar gyfer y rheini sy'n manteisio ar raglenni sgrinio a'r rheini sydd ar gael i fanteisio ar wasanaethau sgrinio ar draws y DU. Nid yw'r cymariaethau yn fanwl gywir. Mae'n bosibl bod y dangosyddion wedi cael eu casglu mewn ffordd wahanol neu eu bod yn gysylltiedig â chyfnodau amser gwahanol: Cyfraddau ar gyfer y nifer sy'n manteisio ar raglenni sgrinio/y nifer sydd ar gael i fanteisio ar wasanaethau sgrinio ar draws y DU
 

Cymru

Lloegr Yr Alban

Gogledd Iwerddon

Y ganran sy'n manteisio ar raglenni sgrinio am ganser y coluddyn (60-74 oed, wedi cael profion yn y ddwy flynedd diwethaf)Targed: 60%

52.6%

(2013-14)

58.5%(2012-13) 56.1%(2011-2013)

47%2

Y ganran sy'n manteisio ar raglenni sgrinio am ganser y fron (50-70 oed, wedi cael profion yn y tair blynedd diwethaf)Safon Ofynnol: 70% Targed: 80%

72.1%

(2013-14)

76.4%(Mawrth 2013) 73.5%(2010-13)

72.3%

(Medi 2012)

Y ganran sydd ar gael i fanteisio ar wasanaethau Sgrinio Serfigol (25-64 oed, wedi cael profion yn y pum mlynedd diwethaf)Targed: 80%

78.4%

(2014)

78.3%(Mawrth 2013) 70.7%1(Mawrth 2014)

78.0%

(2011-12)

1 Yn yr Alban, cynigir gwasanaeth sgrinio serfigol i fenywod cymwys rhwng 20 a 60 oed bob tair blynedd. Mae'r ffigur hwn yn dangos cyfran y menywod cymwys a sgriniwyd yn ystod y 3.5 mlynedd flaenorol. 2 Yng Ngogledd Iwerddon, y targed Gweinidogol ar gyfer canran y rheini sydd ar gael i fanteisio ar rhaglenni sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yw 55% Cododd ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bryderon ynghylch effaith anghydraddoldeb cymdeithasol ar y niferoedd sy'n manteisio ar raglenni sgrinio. Mae is-adran sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlinellu'r cysylltiad rhwng amddifadedd cymdeithasol a'r canran sydd ar gael i fanteisio ar wasanaethau sgrinio. Gan ddefnyddio data'r is-adran, mae'r tabl isod yn cymharu'r 20% mwyaf difreintiedig ​​gyda'r 20% lleiaf difreintiedig: Y prif anhawster yw bod y rheini sy'n rhan o grwpiau cymdeithasol mwy difreintiedig hefyd yn fwy tebygol o gael canser. Er mwyn mynd i'r afael a'r anghydraddoldebau hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sefydlu Tîm Ymgysylltu Sgrinio ac wedi lansio ymgyrch genedlaethol a gaiff ei chynnal ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd sgrinio.

Diagnosis cynnar

Yn ôl ymchwil a wnaed gan y Rhwydwaith Genedlaethol ar Wybodaeth Canser (NCIN), mae bron i chwarter (24%) o'r holl achosion o ganser yn cael y diagnosis hwnnw mewn achos brys. Mae'r ffigur hwn yn codi i bron draean o'r achosion o ganser (31%) ymhlith pobl sy'n hŷn na 70 oed. Er mwyn cynyddu'r gyfradd o achosion o ganser sy'n cael diagnosis cynnar, mae GIG Cymru wedi datblygu nifer o raglenni. Yn gyntaf, mae Macmillan wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gynnal cynlluniau peilot sy'n codi ymwybyddiaeth meddygon teulu o'r arwyddion a'r symptomau o ganser. Yn dilyn llwyddiant un cynllun o'r fath, bydd swyddi ar gyfer Hwyluswyr Meddygon Teulu yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Yn ail, mae GIG Cymru wedi bod yn datblygu rhaglen ar gyfer 'Oncoleg Gofal Sylfaenol'. Mae hwn yn fframwaith a fydd yn gweithredu fel canllaw i feddygon teulu, byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru drwy nodi'r adnoddau, y prosesau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar wasanaethau gofal sylfaenol i reoli a chefnogi pobl y mae canser yn effeithio arnynt. Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd y rhaglen yn datblygu ffrydiau gwaith er mwyn gwella'r pwynt cyswllt cyntaf â symptomau a chael diagnosis cynharach. Yn drydydd, mae GIG Cymru wedi bod yn gwella'r broses o gofnodi achosion o ganser, a hynny er mwyn nodi'n well pa gam y bydd y canser o dan sylw wedi'i gyrraedd pan gaiff y diagnosis cyntaf ei wneud. O ganlyniad, mae canser y pen a'r gwddf, canser gastroberfeddol uwch, a chanser yr ysgyfaint wedi'u nodi fel achosion o ganser sy'n cael diagnosis pan fydd y canser wedi datblygu (cam 3 neu 4). Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ddeall llwybrau gofal a chyfleoedd i wella gwasanaethau mewn perthynas ag achosion o ganser yr ysgyfaint a chanser y system dreulio sydd newydd gael diagnosis.
Erthygl gan Shane Doheny, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.