Sut y mae fframwaith cyllidol arfaethedig yr Alban yn berthnasol i Gymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Rhagarweiniad

Yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban, cynhyrchodd Comisiwn Smith gynigion trawsbleidiol ar gyfer setliad datganoli newydd. Ar 22 Ionawr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb i’r cynigion hyn mewn papur gorchymyn yn dwyn y teitl ‘Scotland in the United Kingdom: an enduring settlement’. Mae hyn yn cynnwys cymalau drafft ar gyfer deddfwriaeth a fyddai’n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth nesaf y DU.

Mae Pennod 2 o’r papur gorchymyn yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer fframwaith cyllidol newydd (dangosir rhifau’r paragraffau isod). Mae’r blog hwn yn dangos sut y gallai’r fframwaith cyllidol arfaethedig ar gyfer Alban fod yn berthnasol i Gymru hefyd.

Llun: o Keithgreer, Dan drwydded Creative Commons

Llun: o Keithgreer, Dan drwydded Creative Commons

Yr egwyddorion wrth wraidd fframwaith cyllidol newydd yr Alban

Safbwynt Llywodraeth y DU yn y papur gorchymyn

2.4.1. Mae angen diweddaru’r fframwaith cyllidol ar gyfer y pwerau trethu a gwario newydd, gan gynnwys gwario ar les.

2.4.2. Bydd fformwla Barnett yn parhau i gael ei ddefnyddio. Gan hynny, bydd y grant bloc yn dibynnu ar fformiwla Barnett, didyniad ar gyfer datganoli treth a swm ychwanegol yn y grant bloc ar gyfer rhaglenni lles (yn ogystal â’r pwerau trethu a benthyca presennol).

2.4.6. Bydd yr egwyddor ‘dim niwed’ wrth drosglwyddo’r cyllid cychwynnol yn golygu na ddylai cyllidebau’r DU na’r Alban ostwng na chynyddu oherwydd y pwerau newydd.

2.4.8. Cytunwyd ar ddull mynegeio i fynegeio’r addasiadau cychwynnol i grant bloc yr Alban ar gyfer cyfradd treth incwm yr Alban. Bydd yr addasiadau’n cael eu mynegeio yn ôl twf yn sail teth incwm y DU.

2.4.10. Er y defnyddir fformiwla Barnett o hyd i addasu gwariant ar y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig newydd, ni fydd hyn yn briodol ar gyfer y gwariant datganoledig ar les. Mae hyn oherwydd nad yw gwariant ar les yn ymddangos o fewn y Terfynau Gwariant Adrannol sy’n berthnasol i’r fformiwla Barnett. Yn hytrach, bydd angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ddod i gytundeb blynyddol ynghylch faint o gyllid y dylid ei drosglwyddo i’w wario ar les .

2.4.12. Bydd angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban gytuno ynghylch faint o’r gost o weithredu’r mesurau datganoli ychwanegol y bydd angen i’r DU ei hysgwyddo.

2.4.14-15. Ni ddylai penderfyniadau polisi gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth yr Alban fod yn ‘niweidiol’ i gyllidebau’r naill gorff na’r llall. At y diben hwn, bydd angen cytundebau pellach ynghylch yr elfen didynnu treth yn y model ariannu oherwydd y gallai newidiadau yn nhrethi ‘gweddill y DU’ effeithio ar y cyllid a gaiff yr Alban drwy fformiwla Barnett.

2.4.16. Mae perthynas gymhleth rhwng rhai polisïau a chanlyniadau a bydd angen cytundeb pellach yng nghyswllt y rhain hefyd e.e. a ddylai’r Alban gael cyfran o arbedion yr Adran Gwaith a Phensiynau i’w wario ar fudd-daliadau os yw rhaglenni cyflogaeth yr Alban yn lleihau bil budd-daliadau’r DU.

2.4.24. Bydd angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban gytuno ynghylch a ddylai’r pwerau benthyca ychwanegol fod yn ddarostyngedig i ‘drefniadau gweithio darbodus’ tebyg i’r drefn ym myd llywodraeth leol.

2.4.29. Dylai’r model cyllido newydd fod yn fecanyddol ei natur ac ni ddylid ddibynnu ar drafodaethau, er y bydd angen ei adolygu’n rheolaidd.

Perthnasedd i Gymru

  • Ar hyn o bryd, ni ddysgwylir y caiff gwariant ar les ei ddatganoli i Gymru, er y gellir gweld y byddai hyn yn faes cymhleth i ddatganoli.
  • Mae’n bosibl y bydd proses Dydd Gŵyl Dewi yn argymell datganoli pwerau ychwanegol i Gymru. Gallai unrhyw newidiadau i fframwaith cyllidol Cymru fod yn debyg i’r rhai a gynigir yn yr Alban.
  • Mae’n bosibl y bydd modd cymhwyso’r cytundebau ynghylch yr elfen didynnu treth ym model cyllido’r Alban ar gyfer Cymru.
  • Bydd cyfradd treth incwm Cymru yn cael ei datganoli o dan Ddeddf Cymru 2014, yn amodol ar refferendwm. Mae’n debyg y caiff y dull mynegeio a ddefnyddir yn yr Alban ei ddefnyddio i addasu grant bloc Cymru hefyd. Ymddengys bod dull mynegeio’r Alban yn cyd-fynd ag argymhellion Comisiwn Holtham ar gyfer Cymru.

Craffu cyllidol annibynnol

Safbwynt Llywodraeth y DU yn y papur gorchymyn

2.4.31-34. Mae craffu cyllidol annibynnol yn hanfodol a dylai Llywodraeth yr Alban wella’r trefniadau presennol. Dylai rôl, gallu ac adnoddau Comisiwn Cyllidol yr Alban gyfateb i’r cyfrifoldebau estynedig.

Perthnasedd i Gymru

  • Mae ymchwiliad Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Broses y Gyllideb yn ystyried a ddylid creu Comisiwn Cyllidol Cymru. Mae Llywodraeth y DU yn ystyried bod Comisiwn Cyllidol yr Alban yn rhan allweddol o ddatganoli pwerau cyllidol.

Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd

Safbwynt Llywodraeth y DU yn y papur gorchymyn

2.4.37. Bydd y Cyd-bwyllgor rhwng Gweinidogion y DU a’r Alban yn sicrhau bod y fframwaith cyllidol newydd yn cael ei weithredu ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Cynhyrchir adroddiadau gweithredu blynyddol, fel sy’n digwydd o dan Ddeddf yr Alban 2012.

Perthnasedd i Gymru

  • Mae Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd wedi’i greu ar gyfer Cymru i weithredu Deddf Cymru 2014. Gallai hyn ddatblygu’n debyg i Gyd-bwyllgor yr Alban pe bai Cymru yn cael pwerau datganoledig ychwanegol.
  • Bydd angen ystyried y berthynas rhwng cyfarfodydd pedrochr gweinidogion cyllid y gweinyddiaethau datganoledig â Chyd-bwyllgor y Trysorlysoedd yn yr Alban i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi sylwadau ar yr agweddau hynny ar ddatganoli yn yr Alban sy’n berthnasol i Gymru.

Erthygl gan Richard Bettley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.