Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad ynghylch ‘gwella uchelgeisiau a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru’

Cyhoeddwyd 02/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi lansio ymgynghoriad ynghylch ‘gwella uchelgeisiau a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru o flaen llaw cyflwyno datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 3 Chwefror.

Mae'r ffigurau cyhoeddedig diweddaraf yn dangos bod 5,755 o blant a phobl ifanc yn 'derbyn gofal' gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2014, ffigur sydd wedi cynyddu draean yn y ddeng mlynedd ddiwethaf (4,320 yn 2004). Mae dyletswydd statudol ar awdurdodau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, rôl a elwir yn 'rhianta corfforaethol' pan fo'r cyfrifoldeb rhianta yn symud o'r rhiant naturiol i'r awdurdod lleol. Pan fo plentyn yn 'derbyn gofal' gan yr awdurdod lleol, rhaid iddo fod â'r un diddordeb yng nghynnydd a chyraeddiadau'r plant sy'n derbyn gofal ag y byddai gan riant rhesymol ar gyfer eu plant eu hunain. Mae hyn yn cynnwys cefnogi plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn ystod eu haddysg er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial.

[caption id="attachment_1590" align="alignright" width="300"]Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Roedd adroddiad blynyddol Estyn, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn cyfeirio at gyfrifoldebau awdurdodau lleol dros addysg plant sy'n derbyn gofal. Mae hefyd yn cyfeirio at y nifer o anawsterau posibl y mae plant sy'n derbyn gofal yn eu hwynebu, gan gynnwys o fewn eu haddysg, a bod gan dros dair rhan o bump angen addysgol arbennig. Mae'n cyfeirio at y ffaith bod perfformiad plant sy'n derbyn gofal fel arfer yn gwaethygu wrth iddynt symud drwy'r system addysg a bod y bwlch rhwng eu perfformiad a pherfformiad dysgwyr eraill hefyd yn ehangu. Mae'n cyfeirio at yr ystadegau a ganlyn:

  • Erbyn bod plentyn sy'n derbyn gofal yn 7 oed, mae bwlch o 30% rhwng eu perfformiad a pherfformiad disgyblion eraill (mewn perthynas â chyflawni'r dangosydd Cyfnod Sylfaen).
  • Dim ond 13% o blant sy'n derbyn gofal yn 16 oed sy'n cael 5 gradd A*-C ar lefel TGAU (gan gynnwys Cymraeg / Saesneg a Mathemateg) o'i gymharu â 53% o'r holl ddisgyblion.

Yn ôl adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru 2012: 'Cyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal':

  • Roedd cyrhaeddiad plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn gwella'n araf, ond nid oedd llawer yn cyrraedd eu potensial, roedd gormod o amrywiad o ran cyrhaeddiad, ac roedd yn anodd ei werthuso oherwydd gwendidau mewn data.
  • Roedd polisïau a mentrau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi helpu i sicrhau rhywfaint o welliant ond nid oeddent wedi diffinio canlyniadau penodol ac er bod tystiolaeth gynyddol o arfer da, ni roddwyd cymorth mewn ffordd gyson.
  • Nid oedd gan Lywodraeth Cymru nac awdurdodau lleol gynlluniau cyflawni ar y cyd ac nid oeddent wedi asesu a oedd adnoddau ar gael i sicrhau gwelliant sylweddol.
  • Roedd gwelliant wedi'i danseilio gan wendidau mewn rhianta corfforaethol a rheoli perfformiad er y bydd newidiadau diweddar i gynyddu cydweithredu rhanbarthol yn cynnig cyfleoedd i sicrhau gwell deilliannau o bosibl.

Wythnos diwethaf, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru adroddiad: Arolygiad Cenedlaethol o ddigelu a chynllunio gofal ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, a'r rhai sy'n gadael gofal sy'n dangos ymddygiad agored i niwed neu ymddygiad peryglus.


Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.