Byw'n annibynnol: addasu'r system

Cyhoeddwyd 03/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg A ydych chi wedi meddwl sut y byddwch yn ymdopi yn eich cartref wrth i chi fynd yn hŷn? Sut y byddech chi'n talu am addasiadau i'ch cartref petaech yn mynd yn sâl neu'n datblagu anabledd? Fwy na thebyg nad yw'n rhywbeth sy'n croesi meddyliau pobl tan iddyn nhw neu ffrind iddyn nhw wynebu problemau ymarferol. Efallai nad ydych wedi meddwl ddwywaith am y ffaith mai un toiled sydd yn eich cartref, a'i fod lan llofft. Dim ond pan oedd angen cludo nwyddau i'r tŷ yr oedd angen poeni am y gris at y drws ffrynt. Dim ond pan ddechreuodd eich mam neu'ch tad, mab neu ferch gael trafferth cerdded y daeth y pethau yma'n broblemau. Felly, i ble y gallwch chi droi am help pan fyddwch chi neu berthynas neu ffrind yn cael trafferth i fynd i fewn i'w cartref eu hunain? A fyddech chi'n gwybod pwy i'w ffonio? Mae help ar gael os ydych yn gwybod at bwy i droi. Gall awdurdodau lleol, Gofal a Thrwsio Cymru, Age Cymru ac eraill eich helpu neu eich rhoi ar ben ffordd. Mae yna hefyd daflen gafodd ei llunio ychydig flynyddoedd yn ôl gan rai o'r prif randdeiliaid. Mae pa help a gewch chi yn dibynnu ar lu o ffactorau, fel a ydych chi'n berchen neu'n rhentu eich cartref a beth yw eich gallu ariannol. Os ydych yn rhentu, mae'r help a gewch yn dibynnu ar bwy yw eich landlord. Mae ble rydych yn byw yn ffactor hefyd gan fod gan wahanol ardaloedd wahanol bolisïau a staff. Os yw'r addasiad sydd ei angen yn un bach fel cael canllaw, gallech ei gael o fewn ychydig ddyddiau. Os ydych angen ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod, gallech orfod aros rai misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd. Fel y gallwch weld, gall y system addasiadau cartref fod yn gymhleth. Mae rhanddeiliaid a gwneuthurwyr polisi yn gwybod hyn ac mae nifer o ymchwiliadau ac adolygiadau wedi eu cynnal - o leiaf chwech o rai ffurfiol - er mwyn gweld sut y gellir gwella'r system. [caption id="attachment_2279" align="alignright" width="300"]adaptations Llun: o Wicipedia Flickr gan Borya. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Yn 2013 cynhaliodd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad ymchwiliad i'r system addasiadau yn y cartref. Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion am ddiwygiadau, gan gynnwys cyflwyno un canolbwynt cychwynnol ar ddechrau'r system ym mhob ardal awdurdod lleol – waeth beth fo amgylchiadau'r unigolyn; canllawiau cliriach gan Lywodraeth Cymru ar sut y dylai'r system addasiadau weithio; a gwelliannau i sut y mae'r system addasiadau yn cael ei monitro. Thema oedd yn ganolog i adroddiad y Pwyllgor oedd yr angen i ganolbwyntio mwy ar y canlyniadau i unigolion – a oedd yr addasiadau'n arwain at ganlyniadau cadarnhaol hirdymor i bobl? Canfu'r Pwyllgor nad oedd yn bosibl dweud o'r data cyfyngedig a oedd ar gael ar lefel genedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn rhai - er nad pob un - o argymhellion y Pwyllgor ond mae eisoes wedi ymrwymo i gynnal ei adolygiad ei hun. Mae'r adolygiad hwnnw nawr wedi'i gwblhau a chafodd ei gyhoeddi fis Ionawr 2015. Yr wythnos hon yn y Cynulliad, bydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn gwneud datganiad i'r Cynulliad ar yr adolygiad hwnnw. Mae adolygiad y Llywodraeth yn ddiddorol iawn. Mae'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r awgrym y dylid cael system unedig ar gyfer pob unigolyn sydd angen addasiadau. Mae'n awgrymu y gallai hyn, mewn gwirionedd, olygu amserau aros hirach a chyllidebau llai. O ran prawf modd - rhan arbennig o ddadleuol o'r system bresennol yn achos rhai addasiadau - mae'r adolygiad yn awgrymu cynllunio ffordd o gael gwared ar y prawf hwn yn yr hirdymor. Yn ddiddorol, mae'r adolygiad yn adleisio'r argymhelliad gan Bwyllgor y Cynulliad bod angen gwell data ar y system addasiadau "i helpu i ddatblygu polisi da". Rydym bellach wedi gweld y mater hwn yn cael ei archwilio drwy amryw o adolygiadau ac ymchwiliadau chwe gwaith ers 2004. A fydd angen adolygiad arall? Amser a ddengys, ond y Gweinidog a fydd nawr yn ystyried argymhellion yr adolygiad diweddaraf a phenderfynu pa rai y dylid bwrw ymlaen â nhw os oes rhai o gwbl.
Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.